Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn gynharach eleni, comisiynwyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus gennyf i ystyried sut y dylid cryfhau y dull o gynllunio trafnidiaeth yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Dulliau Strategol o Gynllunio Trafnidiaeth' ym mis Tachwedd, a gwnaeth yr achos dros fuddsoddi mewn modelau galw ar drafnidiaeth i lywio'r broses o gynllunio trafnidiaeth a phenderfyniadau buddsoddi.
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw'r unig gytref fawr (sy'n cael ei ddiffinio fel dros 500,000 o bobl) yn y DU ar hyn o bryd sydd heb fodel trafnidiaeth amlfoddol i gefnogi'r dull o gynllunio ei system drafnidiaeth. Mae hyn yn rhwystro ein gallu ar y cyd i ddatblygu a darparu cynlluniau sy'n mynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ac yn cefnogi amcanion ehangach.
Wedi ystyried y materion hyn, rwyf wedi cytuno i gomisiynu model trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd hwn yn ddull hollbwysig o lywio'r dull o gynllunio a darparu'r Metro ac ymyriadau ehangach o ran trafnidiaeth yr ardal, a bydd yn sicrhau bod gwaith y cwmni di-ddifidend newydd yn cael ei gyflawni ar fyrder a'i fod yn seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd y model yn cael ei gynllunio i:
- Ddeall y patrymau teithio presennol mewn ardal a pherfformiad y system drafnidiaeth; mae hyn yn helpu i nodi ac egluro problemau
- Monitro newidiadau i batrymau teithio dros amser
- Rhagweld patrymau teithio ac amodau yn y dyfodol ar y rhwydwaith trafnidiaeth
- Asesu effaith ymyriadau posibl i'r system drafnidiaeth yn gyson
- Asesu effaith newidiadau yn y defnydd o dir megis datblygiadau tai newydd a lleoliadau gwaith mewn dull cyson; mae hyn yn golygu bod modd profi effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd mesurau arfaethedig i fodloni gofynion o ran trafnidiaeth.
- Rhoi y mewnbwn sydd ei angen i werthuso trafnidiaeth a datblygu achos busnes
- Darparu data sydd ei angen ar gyfer datblygu gwaith rheoli
Bydd y model yn darparu tystiolaeth ar gyfer penderfyniadau ar faterion penodol megis:
- Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: llwybrau, gorsafoedd newydd, parcio a theithio, paru'r dull o deithio (rheilffordd drom, tram neu deithio ar fws gyflym)â'r galw, cynlluniau blaenoriaeth i fysiau
- Elfennau penodol yr amserlen reilffordd nesaf yng Nghymru a phatrymau gwasanaeth
- Newidiadau i'r seilwaith priffyrdd
- Polisïau parcio
- Gwelliannau i'r rheilffyrdd
- Effaith y datblygiadau newydd
- Mesurau teithio llesol
Bydd y gwaith ar y model trafnidiaeth rhanbarthol newydd a'r broses angenrheidiol o gasglu data yn dechrau nawr, a bydd y model wedi'i sefydlu a'i ddilysu'n llawn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.