Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Ym mis Gorffennaf, lansiodd fy rhagflaenydd gynllun gweithredu sgiliau Llywodraeth Cymru. Roedd yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn i ni weld system sgiliau gynaliadwy a chystadleuol yng Nghymru.
Yn unol â’r cynllun gweithredu sydd wedi’i gyhoeddi, rwy’n falch o gael dweud bod y mesurau perfformiad o ran sgiliau, sy’n mynd i’n helpu ni a’n rhanddeiliaid i wneud ein gwaith a symud ymlaen, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Nod y mesurau perfformiad yw galluogi cyflogwyr, unigolion, undebau llafur a’n sefydliadau cyflenwi i gydnabod yr heriau enbyd y mae’r system sgiliau yng Nghymru yn ei wynebu, yn ogystal â’r blaenoriaethau pwysicaf a fydd yn ganolog i wella’n gobeithion fel cenedl. Rwy’n gobeithio y bydd ein rhanddeiliaid yn derbyn bod angen ymrwymiad unfrydol i gyflawni’r newid yn y system sgiliau dros y degawd nesaf.
Mae’r mesurau’n canolbwyntio ar sicrhau bod system sgiliau Cymru’n parhau yn gystadleuol ac yn gynaliadwy wrth i ni symud ymlaen. Maent hefyd yn cydnabod nad mater o beth y gall y llywodraeth ei wneud a’r hyn y dylai ei wneud mewn perthynas â datblygu sgiliau ôl-19 yn unig yw hyn. Mae hefyd yn ymwneud â sut y mae rhanddeiliaid yn rhannu’r cyfrifoldeb am y system sgiliau yng Nghymru. Mae’r mesurau’n canolbwyntio ar y pedwar prif nod a ganlyn:
- Swyddi a thwf – Gwella’r lefelau cyflogaeth a chynhyrchiant.
- Cynaliadwyedd ariannol – Sicrhau bod cydbwysedd priodol a chynaliadwy o gyllid ar gael i gefnogi’r system sgiliau oddi wrth y llywodraeth, cyflogwyr, unigolion a thrwy gyllid Ewropeaidd.
- Cydraddoldeb a thegwch – Darparu cyfle cyfartal i unigolion gael mynediad at gefnogaeth sgiliau a chyflogaeth ôl-19.
- Meincnodi sgiliau’n rhyngwladol – Gwella proffil sgiliau Cymru i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gystadleuol fel gwlad.
Bydd y mesurau perfformiad o ran sgiliau yn rhan bwysig o ehangu polisi Llywodraeth Cymru i gydfuddsoddi mewn sgiliau. Rydym yn bwriadu cryfhau ein mesurau ar gyfer tracio buddsoddiad cyflogwyr mewn sgiliau, ochr yn ochr â’r rheini a wnaed gan y llywodraeth er mwyn ehangu’r stôr o dystiolaeth sydd ar gael i ni ar hybu buddsoddiad mewn datblygu sgiliau. Hefyd, bydd y mesurau yn llywio’r cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol sy’n cael eu datblygu gan bartneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Mae’n fwriad gennym i gryfhau’r arfer o ddefnyddio’r mesurau wrth ddatblygu, gweithredu cyflenwi a gwerthuso polisïau a rhaglenni cyflogaeth a sgiliau, ein perthynas gyda chyflenwyr, a llywio prosesau caffael y sector cyhoeddus sy’n gysylltiedig â Budd i’r Gymuned. O fis Ebrill 2015, byddwn yn ceisio adolygu’r mesurau yn flynyddol.
Rwy’n edrych ymlaen at gael cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am y gwaith a wneir i gyrraedd y cerrig milltir a nodwyd yn ein cynllun gweithredu sgiliau, dros y misoedd nesaf.