Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd
Mae cryn dipyn o ddeddfwriaeth yn ymwneud â physgodfeydd wedi cael ei hetifeddu gan Weinidogion Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. O’r herwydd, mae adolygiad sylweddol yn cael ei gynnal, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Môr a Physgodfeydd Cymru.
Y pysgodfeydd cramenogion yw prif elfen diwydiant pysgota Cymru, gyda gwerth £3.8 miliwn o gramenogion wedi cael eu glanio yng Nghymru yn 2012. Oherwydd pwysigrwydd y diwydiant cramenogion, dyma un o’r pysgodfeydd cyntaf i’w hystyried, ac mae adolygiad o’r darpariaethau rheoli ar waith ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad yn gynharach eleni ac rwyf wedi dwys ystyried yr amrywiaeth eang o faterion a godwyd yn yr ymatebion hynny. Rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar gyfer rheoli pysgodfa cramenogion Cymru.
I gydnabod y pryderon a fynegwyd gan y diwydiant, rwy’n bwriadu cyflwyno’r cynnydd yn yr isafswm maint ar gyfer cimychiaid yn raddol i leihau’r effaith ar y diwydiant yng ngogledd Cymru lle mae isafswm maint cryn dipyn yn is yn berthnasol ar hyn o bryd. Yn ogystal, rwyf wedi penderfynu gohirio’r gwaharddiad ar ‘gimychesau wyog’ er mwyn i ragor o waith gael ei wneud ar y mater hwn ac er mwyn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r materion a godwyd.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.