Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Heddiw cyhoeddodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU dan gadeiryddiaeth Paul Silk, ei ail Adroddiad a’r olaf. Bydd copi o’r Adroddiad yn cael ei gyflwyno imi’n ffurfiol bore fory. Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith y mae aelodau’r Comisiwn wedi’i wneud dros y deunaw mis diwethaf ar yr agwedd hon o’u cylch gwaith. Rwy’n hynod o falch bod yr Adroddiad yn unfrydol, a bod cynrychiolwyr y pedair plaid wleidyddol ar y Comisiwn wedi gallu cytuno ar safbwynt cyffredin.
Mae’n rhy gynnar inni ddarparu ymateb i’r ddogfen gynhwysfawr iawn hon. Bydd angen i Lywodraeth Cymru, a’r holl bleidiau gwleidyddol rwy’n siŵr, roi ystyriaeth fanwl a gofalus i gynigion y Comisiwn.
Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi inni’r sylfaen ar gyfer diwygio’r setliad datganoli’n sylfaenol, un a fydd yn cryfhau trefn lywodraeth Cymru, ac yn galluogi Cymru i ffynnu o fewn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru am weithio gyda phleidiau eraill yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf i ystyried argymhellion y Comisiwn. Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwn gyda’n gilydd yn gallu cytuno ar y ffordd ymlaen.
Bydd dadl yn y Cynulliad ar yr Adroddiad, yn amser y Llywodraeth, yn cael ei threfnu yn fuan ar ôl Toriad y Pasg.
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (dolen alannol).