Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol’ a oedd yn nodi ein cynigion ar gyfer dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru. Cafodd yr Aelodau glywed yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad mewn datganiad llafar ar 8 Gorffennaf a heddiw rwy’n falch o gyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Roedd Papur Gwyn ‘Diwygio Llywodraeth Leol’ yn nodi ein hymateb i ganfyddiadau’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus a’n cynigion ar gyfer dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru. Roedd yn amlinellu ein dyheadau ar gyfer Llywodraeth Leol, sef perfformiad cryf, democratiaeth gadarn, llywodraethu da a chyflawni ar gyfer cymunedau. Roedd hefyd yn nodi’r bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i’r Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a fyddai’n galluogi uno gwirfoddol cynnar ac yn cynnwys darpariaeth i baratoi ar gyfer uno’r Awdurdodau Lleol sy’n weddill, a fydd yn cael ei weithredu drwy ail Fil i’w gyflwyno yn 2016.
Cafwyd 170 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan ystod o randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd. Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i fynegi eu barn. Siom oedd deall mai dim ond hanner o’r 22 o Brif Awdurdodau Lleol wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion, ynghyd â’r ymatebion, ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law fel rhan o ddatblygiad parhaus cynigion ar gyfer diwygio Llywodraeth Leol yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymatebion hyn lywio Papur Gwyn ar Gomisiwn Staff i’r Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 21 Hydref. Mae’r ymatebion hefyd yn llywio Papur Gwyn pellach, a gaiff ei gyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y Papur Gwyn hwn yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran rôl gyffredinol llywodraeth leol, llywodraethu cymunedol, democratiaeth, perfformiad a gwelliant a chyllid. Byddaf yn gwneud yn siŵr fod yr Aelodau’n cael clywed am unrhyw gynnydd ar y materion hyn ac am ganlyniad y gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion am uno gwirfoddol.