Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Mae pryderon wedi eu mynegi yn ddiweddar am ymddygiad un o fy Ngweinidogion ac os yw ei rôl fel aelod etholaethol wedi gwrthdaro gyda’i swydd fel Gweinidog.
Ar sail hyn, rwyf heddiw wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol i edrych ar y ffeithiau ynghlych y mater hwn.
Rwyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol ymateb i mi o fewn pythefnos. Fe wnaf ddiweddaru aelodau maes o law.