Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw, rwy’n lansio Cymwys am Oes – Cynllun Gwella Addysg i Gymru.
Gan adeiladu ar y Cynllun Gwella Ysgolion, a’r camau yr ydym wedi eu cymryd ers 2011, mae Cymwys am Oes yn disgrifio ein gweledigaeth a’n hamcanion ar gyfer addysg hyd at 2020. Mae’r weledigaeth ei hun yn seiliedig ar bedwar amcan strategol a’r camau cysylltiedig a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau ar daith sy’n llwyddo i gyflwyno gwelliannau. Nodir yr hyn yr ydym am ei gyflawni yn ystod y chwe blynedd nesaf, ac mae un peth yn sicr, y dysgwr fydd yn ganolog i bopeth y byddwn yn ei wneud.
Mae’r ddogfen wedi ei strwythuro ar sail gweledigaeth glir y bydd dysgwyr yng Nghymru yn mwynhau addysgu a dysgu sy’n eu hysbrydoli i lwyddo. Rhaid i aelodau’r gymuned addysgol gydweithio a dyheu am ragoriaeth, er mwyn datblygu potensial pob plentyn a pherson ifanc. Un nod cynhwysfawr sydd i’n gweledigaeth yn y pen draw, sef bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael elwa ar addysgu a dysgu o’r radd flaenaf, ac er mwyn gwireddu ein nod a’n gweledigaeth rydym wedi llunio pedwar amcan strategol, sef:
- Datblygu gweithlu proffesiynol rhagorol ac iddo addysgeg gref sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio yn ymarferol;
- Darparu cwricwlwm diddorol a deniadol i blant a phobl ifanc, sy’n meithrin eu gallu i fynd ati’n annibynnol i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau;
- Sicrhau bod y cymwysterau y mae pobl ifanc yn eu hennill yn cael eu parchu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’u bod yn basbort i ddysgu pellach a chyflogaeth yn y dyfodol;
- Sicrhau bod arweinwyr addysg yn cydweithio ar bob lefel o fewn system hunanwella, lle mae pawb yn helpu ac yn herio ei gilydd er mwyn codi safonau yn ein holl ysgolion.
Ein blaenoriaethau o hyd yw codi safonau llythrennedd a rhifedd, a thorri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel. Nid ydym yn fodlon gweld y blaenoriaethau hynny’n cael eu glastwreiddio mewn unrhyw ffordd – nhw yw sail ein hamcanion strategol.
Ochr yn ochr ag egluro ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer sicrhau llwyddiant i ddysgwyr yng Nghymru, rydym hefyd yn nodi’n glir y cynllun gweithredu a fydd yn troi ein hamcanion yn realiti drwy fynd ati’n barhaus i wella addysg drwyddi draw. Rydym wedi paratoi amserlen ar gyfer cyflawni’r amcanion hynny.
Mae’r manteision sy’n deillio o system addysg ragorol yn hollol amlwg. Mae system o’r fath yn dod â budd i’r economi ac i iechyd a lles y genedl, ac mae’n helpu i greu cydlyniant cymdeithasol a chymdeithas sy’n fwy teg a llwyddiannus. Dyma’r union fanteision rwyf am eu sicrhau i Gymru.
Ein nod yw llwyddo i gael sgoriau o 500 ym mhob un o brofion darllen, mathemateg a gwyddoniaeth PISA yn 2021. Ar yr un pryd rydym yn awyddus i weld gostyngiad sylweddol yng nghanran y dysgwyr sydd ond yn cyrraedd lefel gallu 2 ym mhrofion PISA, neu’n is na hynny.
Byddwn yn asesu llwyddiant ein hymdrechion yn rheolaidd drwy fesur i ba raddau:
- mae safonau llythrennedd a rhifedd dysgwyr wedi gwella, gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uchel a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau;
- rydym wedi llwyddo i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad sydd rhwng dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion nad ydynt yn gymwys;
- rydym wedi llwyddo i feithrin hyder yn y system addysg ymhlith rhieni/gofalwyr, cyflogwyr a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Bydd Cerdyn Adrodd ar gyfer addysg yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi’n flynyddol. Bydd yn cynnwys ystod o ddangosyddion perfformiad i nodi cynnydd.