Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Stephen Palmer, Athro Talbot Epidemioleg ac Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, o’r defnydd o ddata marwolaethau wedi’i addasu yn ôl risg yn GIG Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i dryloywder canlyniadau i gleifion ac maent wedi cyhoeddi nifer cynyddol o ddangosyddion ansawdd a pherfformiad i bawb eu gweld dros y 18 mis diwethaf.
Un mesur sydd wedi achosi cryn ddryswch ymhlith y cyhoedd yw’r mynegai marwolaethau wedi’i addasu yn ôl risg (RAMI), a gyfrifir yng Nghymru gan gwmni allanol ar gyfer ysbytai cyffredinol dosbarth unigol. A bod yn benodol, bu ansicrwydd eang ymhlith arbenigwyr a’r cyhoedd, ac mae’r ansicrwydd hwn yn parhau, ynghylch i ba raddau y gall ffigur unigol gyfleu ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu gan yr ystod eang o wasanaethau mewn ysbyty.
I fynd i’r afael â’r cwestiwn pwysig hwn, gofynnais i’r Athro Palmer, epidemiolegydd o fri, gynnal adolygiad i’m cynghori ar y cwestiynau canlynol:
- I ba raddau y mae data marwolaethau wedi’i haddasu yn ôl risg yn darparu gwybodaeth ddilys?
- Sut y gall mesurau marwolaethau wedi’u haddasu yn ôl risg gael eu dehongli i GIG Cymru?
- Yn achos ysbytai sydd â dangosyddion marwolaethau wedi’u haddasu yn ôl risg sy’n uwch na 100, a oes angen gwaith pellach o ran data neu ansawdd clinigol?
- Sut y mae byrddau GIG Cymru’n defnyddio data clinigol i wella ansawdd?
- Beth yw ansawdd data clinigol sy’n cael ei ddefnyddio gan GIG Cymru at ddibenion gwella?
- A yw cyrff GIG yn defnyddio data clinigol yn effeithiol i wella ansawdd?
- Beth y mae’r data clinigol yn ei ddweud wrthym am ansawdd gofal yn GIG Cymru?
Hoffwn ddiolch i’r Athro Palmer am ei adroddiad cytbwys. Mae wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid a defnyddio cyfoeth ei wybodaeth a’i brofiad i lywio ei dasg. Mae ei adroddiad yn cynnig trosolwg arbenigol gwerthfawr o sut y mae data am ansawdd a diogelwch yn cael ei gasglu, ei brosesu a’i ddehongli ar draws y GIG NHS yng Nghymru a gobeithio y caiff yr adroddiad ei ddarllen yn eang.
Mae’r Athro Palmer yn casglu nad yw RAMI yn fesur ystyrlon o ansawdd; yn wir mae’n dweud ei fod yn gamarweiniol.
Er hynny, mae’n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru sicrhau bod ganddo wybodaeth ystyrlon a defnyddiol i fesur a disgrifio ansawdd gofal mewn ysbytai.
Mae’r Athro Palmer yn cefnogi’r broses o adolygu achosion marwolaethau, sydd wedi’i sefydlu ar gyfer pob marwolaeth yn ysbytai Cymru. Maes lle mae Cymru’n arwain y DU yw hwn. Mae’n cynghori ar sut y gellir cryfhau’r broses adolygu hon ymhellach trwy gysondeb gwell ac ymgysylltu clinigol. Mae’r Athro Palmer hefyd yn gwneud argymhellion i wella codio clinigol, cyfranogiad mewn archwiliadau clinigol cenedlaethol a dehongli data ar gyfer Byrddau.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru’n ysgrifennu heddiw at holl glinigwyr GIG Cymru i atgyfnerthu eu cyfrifoldebau ynghylch cofnodion meddygol, sydd wedi’r cyfan yn fater o ddiogelwch cleifion, ond sydd hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau y manteisir ar godio clinigol.
Pan gomisiynais yr adolygiad hwn gofynnais hefyd i’r Athro Palmer edrych ar chwe ysbyty, a oedd â sgôr RAMI Cymreig o fwy na 100 ym mis Mawrth 2014. Gofynnais iddo roi gwybod imi a oedd ffigur RAMI yn yr achosion hyn yn golygu bod "larwm mwg" yn canu fel petai. Ym mhump o’r chwe ysbyty, mae’n glir bod yr Athro Palmer casglu nad yw hyn yn wir.
O ran Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn Llantrisant, mae’r Athro Palmer yn casglu y disgwylir sgoriau o fwy na 100 o’r ffordd y caiff y mesur ei gyfrifo. Mae’n dweud hefyd fod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf broses adolygu ragorol ac amlwg ar gyfer nodiadau achos marwolaethau, sy’n cynnig sicrwydd i’r bwrdd nad yw sgoriau RAMI uchel yn ddangosyddion gofal gwael.
Yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Singleton, yn Abertawe, mae’r Athro Palmer yn casglu bod y sgoriau RAMI i’w priodoli yn ôl pob tebyg i newidiadau mewn codio a chategoreiddio ac nad ydynt yn adlewyrchu diffygion yn ansawdd gofal. Mae’n argymell, er hynny, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cymryd camau i ganiatáu i’r broses adolygu marwolaethau ennill ei phlwyf yn llwyr.
O ran ysbyty Wrecsam Maelor, nid yw’r Athro Palmer o’r farn bod adroddiad y RAMI’n gofyn am gamau gweithredu pellach. Ymhellach, mae’n dweud bod proses adolygu drylwyr a systematig ar gyfer marwolaethau, sy’n cwmpasu pob marwolaeth mewn ysbytai wedi’i sefydlu a bod pedwar ym mhob deg o farwolaethau’n cael eu hatgyfeirio am adolygiad trylwyr.
Cyn belled â bod Ysbyty Glangwili, yng Nghaerfyrddin, yn y cwestiwn, mae’r adolygiad yn casglu mai newidiadau i’r ffordd y cyfrifir RAMI 2013 sy’n gyfrifol i bob golwg am y sgôr RAMI uchel.
Er hynny, mae’r Athro Palmer o’r farn bod angen gwaith pellach i ddeall ym mha ffyrdd y gallai newidiadau yn y ffordd o gategoreiddio achosion gofal lliniarol a materion eraill fod wedi cael effaith ar sgôr RAMI. Mae’n cefnogi’r gwaith ychwanegol y mae cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei wneud ar hyn o bryd.
Ceir sawl tebygrwydd rhwng casgliadau’r Athro Palmer ynghylch RAMI a pha werth y gall ei ddarparu i’r GIG a dealltwriaeth y cyhoedd yng Nghymru o ansawdd y gofal a ddarperir mewn ysbytai ledled Cymru ac adroddiad a gyhoeddwyd gan dasglu tryloywder a marwolaethau’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ym mis Mawrth 2014.
Bydd y tasglu felly yn ailymgynnull i ystyried adroddiad yr Athro Palmer a’i argymhellion yn fanwl. Bydd yn darparu cyngor pellach yn yr hydref ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ymateb.
Rwyf yn cymeradwyo adroddiad yr Athro Palmer i’r holl Aelodau. Mae’n cadarnhau fy marn fy hun - a barn llawer o arbenigwyr ac academyddion eraill - mai set o rifau nad ydynt o gymorth mawr yw RAMI i raddau helaeth. Er hynny, rwyf yn rhannu barn yr Athro Palmer bod mesurau llawer mwy defnyddiol y mae rhaid inni eu cofnodi a’u hadolygu yn gyson ac yn drylwyr.
Mae’n darparu sylfaen awdurdodol ar gyfer trafod ystyr a defnyddioldeb data RAMI. Rwyf yn rhannu casgliad yr Athro Palmer sef bod adolygiadau nodiadau achosion marwolaethau’n cynnig mesur mwy defnyddiol, - mesur y gellir ei wella ymhellach trwy gofnodi ac adolygu cyson a thrylwyr. Fel y dywedais gynt wrth yr Aelodau, rwyf yn bwriadu adrodd yn helaethach ar y defnydd o adolygiadau nodiadau achosion marwolaethau ym mis Medi.