Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad bod dogfen ymgynghori wedi’i chyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ynghylch bwriad y Gorchymyn Dynodi a’r Rheoliadau Hyfforddi a wneir o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Fy nod yw cydgasglu safbwyntiau a sylwadau’r rheinyy y bydd y ddeddfwriaeth newydd, a’r rheoliadau yn enwedig, yn effeithio arnynt.
Rwy’n awyddus i glywed barn y rhai sydd â diddordeb yn y newid hwn a byddaf yn ystyried eu safbwyntiau nhw yn ofalus wrth ddrafftio’r rheoliadau.
Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn parhau am 7 wythnos, hyd at 6 Chwefror 2015. Mae’r ddogfen ymgynghori ei hunan yn rhoi manylion am sut i ymateb.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.