Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Ar 17 Mehefin cyhoeddais ddatganiad polisi drafft ar y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw – Bwrw Mlaen, gan wahodd sylwadau ar gynnwys y ddogfen. Rwy’n ddiolchgar am y sylwadau a ddaeth i law, ac yn falch heddiw o gyhoeddi’r fersiwn derfynol o Bwrw Mlaen.
Mae Bwrw Mlaen yn cyflwyno cynlluniau polisi’r Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg dros y dair blynedd nesaf er mwyn gwireddu ein Strategaeth, Iaith fyw: iaith byw. Mae’n cynnwys pedair thema fydd yn derbyn sylw dros y dair blynedd nesaf:
1. Yr angen i gryfhau’r cyswllt rhwng yr economi a’r Gymraeg.
2. Yr angen am well cynllunio strategol ar gyfer y Gymraeg.
3. Y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
4. Yr her o newid ymddygiad ieithyddol.
Wrth gyhoeddi’r datganiad drafft, cyhoeddais fuddsoddiad o £1.6 miliwn i gefnogi’r polisi dros ddwy flynedd. Mae hynny’n cynnwys £400k i gefnogi’r cysylltiad rhwng yr economi a’r Gymraeg ac £1.2 miliwn i gefnogi’r gwaith o hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
Yn ychwanegol at hynny, rwy’n falch heddiw o gyhoeddi ein bod yn bwriadu creu rhaglen buddsoddi er mwyn cefnogi er mwyn datblygu a chefnogi canolfannau a mannau dysgu newydd a fydd yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg neu drochi yn y Gymraeg. Caiff y cyllid gwerth £1.25 miliwn ei sianelu drwy awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion a fydd yn gallu dangos ymagwedd arloesol gyda phwyslais ar gydweithio mewn partneriaeth ag eraill er lles y gymuned ehangach. Bydd y cyllid hwn yn gymorth i sefydlu prosiectau strategol a fydd yn helpu’r agenda bolisi hon gyda phwyslais ar ddarparu sail i brosiectau cymunedol fod yn hunan-gynhaliol.
Rwyf hefyd heddiw yn lansio brand newydd, ‘y llais’, a gaiff ei ddefnyddio ar holl weithgaredd Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi’r Gymraeg, a byddwn yn annog busnesau a’n partneriaid i’w ddefnyddio hefyd. Caiff y brand ei ddefnyddio gyntaf ar ymgyrch newydd i hybu’r Gymraeg, sef Pethau Bychain. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wneud newidiadau bach er mwyn cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg bob dydd.
Does dim un ateb neu ddatrysiad i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Fodd bynnag credaf drwy’r ymyraethau a amlinellir yn Bwrw Mlaen y gallwn wneud gwahaniaeth.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.