Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n cofio imi ymrwymo yn ystod y ddadl Cyfnod 1 ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i gyhoeddi datganiad ynglŷn â’r goblygiadau i adnoddau yn sgil asesu a diwallu anghenion gofalwyr, a hefyd ynglŷn â sicrwydd ynghylch hawliau gofalwyr yn y Bil.
Drwy gydol y craffu ar y Bil hwn, byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cynnig nifer o fanteision i ofalwyr. Rwy'n nodi yma nifer o'r darpariaethau a fydd yn cynnig y manteision disgwyliedig. Bydd y Bil yn rhoi hawliau i ofalwyr sy'n cyfateb i’r rhai sydd gan y bobl y maent yn gofalu amdanynt. Nid oes angen bellach fod gofalwyr yn darparu ‘llawer o ofal yn rheolaidd’ i allu cael ei asesu. Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu gofalwyr lle ymddengys fod angen cymorth arnynt. Hefyd, mae adran 4(2) yn darparu bod yn rhaid i'r person sy'n gwneud yr asesiad ystyried safbwynt, dymuniadau a theimladau'r gofalwr unigol. Mae'n rhaid i'r asesiad hwn ystyried gallu a pharodrwydd y gofalwr i barhau i ofalu, yn ogystal â'i anghenion cyflogaeth, addysg, hyfforddiant neu hamdden (ar gyfer oedolion) ac anghenion datblygu (ar gyfer plant). Materion bywyd go iawn yw'r rhain, sydd o bwys i ofalwyr.
Mae adran 3(4) o’r Bil yn rhoi diffiniad ehangach o ofalwyr na'r hyn a geir yn y ddeddfwriaeth bresennol, i gynnwys y rheini sy'n darparu gofal neu'n bwriadu ei ddarparu. Bydd yn ofynnol ymgynghori â gofalwyr a'u cynnwys fel rhan annatod o'r broses o asesu'r person sy'n cael gofal, yn amodol ar safbwyntiau'r unigolyn. Bydd y Cod Ymarfer yn amlinellu'r disgwyliad ynghylch y trefniadau manwl y mae'n rhaid eu sefydlu ar gyfer cynnwys ac ymgynghori â gofalwyr a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Mae adran 21 o’r Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion gofalwyr sydd ag anghenion cymwys eu hunain. Os oes gan ofalwyr anghenion cymwys, mae ganddynt hawl i gael cynllun cymorth statudol y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ei adolygu'n rheolaidd. Nid oes dyletswydd o'r fath mewn unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer gofalwyr, ac mae'n fantais sylweddol yn fy marn i.
Mae adran 5 o’r Bil yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru wneud datganiad ynghylch llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae'n rhaid i'r datganiad nodi canlyniadau i'w cyflawni o ran llesiant y bobl hynny, a mesurau ar gyfer mesur i ba raddau y cyflawnir y canlyniadau hyn.
Mae adran 14 yn rhoi dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y darperir gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i roi gwybodaeth a chyngor i bobl am ofal a chymorth, a'u helpu i gael y gwasanaeth hwn. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw ofalwyr, p'un a oes ganddynt anghenion cymorth ai peidio. Bydd y gwasanaeth hwn yn cwmpasu holl swyddogaethau awdurdodau lleol, nid gwasanaethau cymdeithasol yn unig. Mae hefyd yn cynnwys help, felly mae'n ehangach na'r ddarpariaeth bresennol ym Mesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010. Mae adran 14(5) yn sicrhau bod BILlau ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn parhau â'u rôl o ran rhoi Gwybodaeth, Cyngor a Help.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol o'r ddarpariaeth yn adran 152 y Bil ar gyfer cydweithredu a phartneriaeth. Mae hyn yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithredu rhyngddynt a'u partneriaid perthnasol, gyda'r bwriad o wella llesiant gofalwyr yn eu hardaloedd. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae Byrddau Iechyd Lleol yn bartneriaid perthnasol.
Mae adran 155 yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gyda'r bwriad o sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu hintegreiddio gyda darpariaeth iechyd a darpariaeth cysylltiedig ag iechyd os ydynt o'r farn y byddai hyn yn hybu llesiant y gofalwyr hynny yn eu hardaloedd sydd angen cymorth.
Mae'r rhain yn ddarpariaethau helaeth sy'n dangos ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i ofalwyr a'u hanghenion.
Nawr rwy'n troi at y mater o'r goblygiadau o ran adnoddau. Mae’r ffigurau blynyddol ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos i anghenion bron 7,000 o ofalwyr yng Nghymru gael eu hasesu neu eu hadolygu, ond mai dim ond tua 4,000 o'r gofalwyr hynny a gafodd wasanaeth o ganlyniad. Mae hefyd yn werth nodi bod gwybodaeth a ddarparwyd gan nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2012 yn dangos na ddarparwyd gwasanaeth yn dilyn rhwng 18% a 25% o asesiadau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol ym mhob grŵp oedolion sy'n ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mae'r Bil yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau priodol mewn ffordd fwy hyblyg; mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch pob math o wasanaethau cymorth a seibiant. Bydd darparu gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn chwarae rôl bwysig o ran cyfeirio gofalwyr at gymorth drwy'r gwasanaethau ataliol a chymunedol cyffredinol sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl lle bernir bod ganddynt anghenion canolig neu isel. Mae gofalwyr yn gwerthfawrogi gwasanaethau o'r fath yn fawr, a dyma'n bennaf yw'r mathau o wasanaethau y bydd y Bil yn gofyn i awdurdodau lleol eu hybu.
Bydd y Bil hefyd yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu cymorth o'r fath i ofalwyr naill ai heb asesiad neu mewn ymateb i asesiad syml a chymesur. Mae gennym brofiad eisoes o symleiddio'r broses asesu drwy ganllawiau newydd ar 'Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hŷn' a gyhoeddwyd o dan y ddeddfwriaeth bresennol ym mis Rhagfyr 2013 gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac sy'n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer datblygu'r system newydd a fydd yn sail i'r Bil.
Yn olaf, hoffwn droi at fater sydd, rwy’n gwybod, wedi bod o ddiddordeb mawr i'r Aelodau a rhanddeiliaid - sef Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 a sut mae'r Bil yn ymdrin â'i ddarpariaethau. Mae adran 11(1) y Bil yn rhoi dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a BILlau i gydweithio i asesu i ba raddau y mae angen gofal a chymorth - sy'n cynnwys anghenion gofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol - ac i ba raddau nad yw'r anghenion gofal a chymorth hyn yn cael eu diwallu. Mae rôl Ymddiriedolaethau'r GIG o ran cefnogi'r gwaith o lunio strategaethau wedi'i hamlinellu yn y fframwaith cyfreithiol sy'n ymwneud â Strategaethau Iechyd a Llesiant. Mae'n rhaid iddynt asesu ystod y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu'r anghenion gofal a chymorth a nodir, ac ystod y gwasanaethau y mae eu hangen i atal, oedi neu leihau'r angen am ofal a chymorth. Hefyd mae gofyn i BILlau arfer eu swyddogaethau i gefnogi dibenion gwasanaethau atal, gan gynnwys sut maent yn darparu ar gyfer gofalwyr o dan adran 12.
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i’r asesiad hwn o anghenion lleol y darperir ar ei gyfer yn adran 11 gael ei ystyried gan yr awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt fynd ati i baratoi neu i adolygu eu strategaethau ar y cyd ar gyfer iechyd a llesiant. At hynny, a chan gydnabod y teimladau cryfion sydd wedi’u mynegi wrthyf ynglŷn â’r mater hwn, rwyf wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil i’w ystyried yng Nghyfnod 3. Effaith y gwelliant yw diwygio adran 40 a Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i osod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol i gyflwyno i Weinidogion Cymru unrhyw ran o’u Strategaeth Iechyd a Llesiant sy’n ymwneud â gofalwyr. Bydd hynny’n sicrhau y cynhelir y ddyletswydd bresennol sydd ar Fyrddau Iechyd o ran arwain ar gyflwyno strategaethau i Weinidogion Cymru, fel y’i disgrifir ym Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010. Bydd yn hanfodol cael eglurder ynghylch gosod amcanion gweithredol a strategol i fodloni anghenion gofalwyr, a bydd yn bwysig bod yr amcanion hyn yn cael eu mynegi’n fanwl yn y gwaith cynllunio integredig lleol a wneir gan bartneriaid ym maes llywodraeth leol ac iechyd.
Mae’r Aelodau’n ymwybodol fod cyllid trosiannol ar gael i helpu’r broses o roi’r Bil cyfan ar waith. Yn ogystal, rwyf wedi addo mynd ati i ymchwilio i weld a oes modd i’r cyllid sydd wedi’i neilltuo ar hyn o bryd i helpu’r broses o roi Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 ar waith gael ei ddefnyddio i helpu i weithredu’r dyletswyddau cryfach sy’n ymwneud â gofalwyr. Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio’r arian i gwrdd â’r costau a fydd yn codi yn sgil y gwaith o drosglwyddo i wasanaethau atal a gwasanaethau ymyrryd cynnar, fel sy’n ofynnol o dan y Bil.
Ni fydd Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 yn cael ei ddiddymu hyd nes y bydd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym yn 2016. Erbyn hynny rwy’n disgwyl y bydd arferion da wedi’u hen sefydlu o fewn y GIG a’r awdurdodau lleol o ran nodi, gwybodaeth ac ymgynghori mewn perthynas â gofalwyr. Rwy’n disgwyl hefyd y bydd y profiad o ddatblygu a gweithredu’r Strategaethau Gwybodaeth ac Ymgynghori y darperir ar eu cyfer drwy Reoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 wedi arwain at sefydlu trefniadau partneriaeth cadarn. Bydd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer y gwaith partneriaeth hwn yn wahanol o dan y Bil, ond fe’i lluniwyd i atgyfnerthu’r cydweithredu rhwng darparwyr gwasanaethau a chryfhau’r cymorth y maent yn ei roi i ofalwyr o bob oed. Fy ngobaith hefyd yw y ceir ymateb cadarnhaol i’m hymrwymiad i weithio gyda rhanddeiliaid i ddrafftio’r rheoliadau a fydd yn ategu’r Bil. Rwy’n gwybod y bydd gan ein rhanddeilliaid lawer i’w gynnig o ran sicrhau bod yr is-ddeddfwriaeth yn diogelu ac yn estyn darpariaethau’r Mesur.
Rwy’n ddiolchgar am gyngor arbenigol mudiadau megis Cynhalwyr Cymru, Hafal ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn ystod y gwaith o ddatblygu’r darpariaethau ar gyfer gofalwyr yn y Bil. Mae’r gwaith a wnaethant hwy yn cadarnhau’r hyn yr wyf wedi’i gredu’n gryf ers tro, sef bod gofalwyr yn rhoi gwasanaeth amhrisiadwy i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Mae’r Bil hwn yn rhoi hwb sylweddol iddynt i’w helpu yn eu gwaith. Rwy’n gobeithio, felly, y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r camau pellach rwy’n eu cymryd yn y Bil hwn, ac yn broses ddilynol o roi’r Bil ar waith, i sicrhau bod gofalwyr yn cael yr help y mae ei angen arnynt, a hynny mewn ffyrdd addas.