Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Rwy'n falch o roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y datblygiadau gyda'r targed tai fforddiadwy. Mae Awdurdodau Lleol wedi nodi bod cyfanwsm o 6,890 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi eu darparu ledled Cymru. Mae hyn yn 69 y cant o'n targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac mae'n amlwg yn dangos ein bod ar ein ffordd i gyrraedd ein targed.
Elfen hanfodol o'r targed yw ymrwymiad Cymdeithasau Tai ledled Cymru, gyda chefnogaeth cyllid a chymorth polisi gan Lywodraeth Cymru. Cafodd yr ymrwymiad hwn ei amlinellu'n glir yn y Cytundeb Cyflenwi Tai a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru yn gynharach eleni. Mae gallu'r Cymdeithasau Tai i ddefnyddio'r Grant Tai Cymdeithasol a'u hadnoddau eu hunain yn ogystal â chyfrannu mewn dulliau arloesol i ddarparu tai, megis y Grant Cyllid Tai, yn hanfodol.
Fodd bynnag, ni ddylem fod yn rhy fodlon ac rydym yn treialu nifer o gynlluniau benchyca i ddarparu tai, yn ogystal ag yn edrych ar y ffordd yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. I ddarparu tai yn y dyfodol, rydym eisoes wedi ymrwymo i ehangu'r Grant Cyllid Tai ymhellach gyda'r ail gam, gan dreblu'r buddsoddiad cychwynnol i ddarparu oddeutu 2,000 o dai ychwanegol a chreu tua 5,000 o swyddi ychwanegol.
Mae'r perfformiad hwn yn arwydd clir o'n hymrwymiad parhaus i dai a'r datblygiadau rhagorol sydd wedi'u gwneud. Rydym yn bwriadu parhau i arloesi i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy, o safon uchel, ac sydd o fewn cyrraedd anghenion pobl. Bydd hyn yn cefnogi ein hamcanion ehangach o drechu tlodi, gan osgoi digartrefedd, lliniaru effaith y rhaglen diwygio lles ac i fod o gymorth i ddarparu swyddi a thwf yng Nghymru.