Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rwyf heddiw’n cyhoeddi amrediad eang o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i fwrw arni â rhai o’r prif gamau gweithredu sy’n codi o’r Cynllun Adfywio Economaidd ar gyfer Llandrindod. Mae hyn yn rhan o’r gefnogaeth ehangach sy’n cael ei rhoi i Ardaloedd Twf Lleol Powys.
Byddwch yn cofio i mi gytuno i dreialu dull dan arweiniad busnesau yn Llandrindod fel rhan o’m hymroddiad i fwrw arni â gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen gwreiddiol Ardaloedd Twf Lleol Powys. Gofynnais i Justin Baird-Murray arwain Grŵp Busnes i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â chynaliadwyedd economaidd y dref, gan nodi camau gweithredu a allai helpu i sicrhau swyddi a thwf yn y dref. Mae’r cynllun gweithredu wedi cael ei lywio gan drafodaethau ag amrywiaeth eang o fusnesau, unigolion a rhanddeiliaid yn y dref.
Rwy’n ddyledus i Justin am ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad parhaus wrth fwrw arni â’r cynllun hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau eraill y grŵp ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.
Rwyf wedi ystyried y camau gweithredu yn ofalus ac yn falch iawn o fod yn ymateb yn gadarnhaol heddiw i nifer o’r rhain. Bydd rhai o’r camau yn cael eu gweithredu ar unwaith. Bydd argymhellion eraill yn rhai ar gyfer y tymor hwy ac yn gofyn am waith datblygu manwl ychwanegol cyn y byddant yn cael eu hystyried yn fwy ffurfiol.
Bydd sefydlu Grŵp y Dref Gyntaf a phenodi Hyrwyddwr Tref yn allweddol i’r cynllun gweithredu. Rwy’n hynod falch o gyhoeddi y bydd cyllid ar gael am gyfnod cychwynnol i dreialu’r penodiad hwn.
Rwyf hefyd wedi sicrhau bod cyllid refeniw ar gael i helpu i ddiffinio a datblygu projectau blaenoriaeth fwyfwy. Bydd cynigion am gyllid cyfalaf yn cael eu hystyried fesul achos, ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill.
Bydd Busnes Cymru yn cael y dasg o sicrhau cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer busnesau mewn bodolaeth ac i gychwyn busnesau newydd yn y dref. Yn ogystal â hyn, bydd ein gweithgareddau menter ieuenctid yn cael eu hybu’n well yn lleol.
Fel ymateb i argymhellion sy’n ymwneud â datblygu a hybu personoliaeth a hunaniaeth y dref fel cyrchfan i bobl leol ac ymwelwyr, bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r grŵp er mwyn sicrhau bod Llandrindod yn rhan o unrhyw waith ar reoli cyrchfannau sydd eisoes ar y gweill.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i fynd i’r afael â’r camau gweithredu parthed TGCh a ffonau symudol, ac mae Llandrindod wedi’i flaenoriaethu ar gyfer cyflwyno Cyflymu Cymru; bwriedir i’r gwaith ddechrau ym mis Rhagfyr 2014. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol eraill er mwyn sicrhau bod y dref ac ardaloedd cyfagos yn gwneud y gorau o’r cyfle a ddarperir gan y Project Rhwydwaith Symudol gwerth £150 miliwn sy’n anelu at ddarparu gwasanaethau llais a data sylfaenol i fannau problemus.
Mae fy swyddogion eisoes yn adolygu rhai o’r projectau trafnidiaeth a nodir yn y cynllun. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar opsiynau ar gyfer gwella adeiladau busnes.
Mae gweithredu’r cynllun yn dibynnu ar ymrwymiad a chefnogaeth nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan yr awdurdod lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â chan y gymuned ei hun.
Rwyf wedi anfon y cynllun gweithredu at Arweinydd Cyngor Sir Powys, gan hefyd ysgrifennu i ofyn am gadarnhad o ymrwymiad y cyngor i fwrw arni â’r camau gweithredu allweddol. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi gofyn yn benodol iddynt ystyried cyflwyno cynllun i adfer a gwella tu blaen siopau yn y rhannau o’r dref sydd wedi’u targedu.
O ran y camau gweithredu ehangach gan Ardal Twf Lleol Powys, cyhoeddais yn ddiweddar fod cyllid ar gael ar gyfer y Drenewydd a Dyffryn Hafren a’r cyffiniau i gefnogi’r model Sirolli o ddatblygiad economaidd yn y gymuned. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni brofi’r model mewn cyd-destun gwledig yng Nghymru.
Yn Aberhonddu, rwyf wedi cefnogi gwefan leol y rhwydwaith Er Eich Gwybodaeth FYI sy’n rhoi gwybodaeth eang am wasanaethau lleol. Mae hyn yn galluogi masnachwyr lleol i gyfathrebu a rhyngweithio gyda’u cwsmeriaid er mwyn helpu i gynyddu masnach ar gyfer busnesau lleol.
Mae gwefan Cyflymu Cymru bellach yn rhoi dyddiadau cyflwyno ar gyfer yr aneddiadau allweddol yn Ardaloedd Twf Lleol Powys, ac mae’r gwaith i fod i ddechrau ym mis Medi 2014. Amlygwyd hefyd bwysigrwydd gwell rhwydwaith trafnidiaeth, ac rwyf wedi ailddatgan f’ymrwymiad i ffordd osgoi’r Drenewydd a hefyd wedi cadarnhau’r newidiadau i’r llwybr a ffefrir. Mae contractwyr y cynllun yn gweithio ochr yn ochr â chynghorwyr technegol ac amgylcheddol, gyda’r bwriad o gyhoeddi datganiad amgylcheddol a gorchmynion drafft yn ystod yr haf.