Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i hysbysu’r Aelodau o’m bwriad i ddiwygio’r trefniadau ar gyfer talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o’i bwriad i ddiwygio’r trefniadau hynny yn Lloegr o fis Ebrill 2016. Roeddwn o’r farn ei bod yn amser addas yn awr imi roi diweddariad i’r Aelodau.
Er bod Llywodraeth y DU ers hynny wedi cynnal ymgynghoriad ar yr egwyddorion o sut y dylai pobl yn Lloegr dalu am eu gofal a’u cymorth ar ôl mis Ebrill 2016, ac wedi galw am dystiolaeth, nid yw wedi cadarnhau manylion eto ynghylch sut y bydd ei dull o ddiwygio’n gweithredu. Yn ogystal, fel y cadarnheais y llynedd, mae’n dal yn wir y bydd y broses o osod cyllideb ar gyfer y diwygio hwn, ac felly unrhyw effeithiau ar symiau canlyniadol Barnett, yn cael ei phenderfynu mewn Adolygiad Gwariant yn y dyfodol ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf. Fel yr amlinellais bryd hynny, mae arnaf eisiau gwybodaeth drylwyr o union fanylion y diwygio a fydd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr, a’i oblygiadau ar ariannu, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar union natur y diwygio y byddaf yn ei gyflwyno yng Nghymru.
Er hynny, ailadroddaf fy ymrwymiad i gyflwyno diwygiadau i’r trefniadau talu am ofal yng Nghymru, ac o’r herwydd rwyf yn symud ymlaen cyn belled ag sy’n bosibl gyda’m cynlluniau hyd nes cawn gyhoeddiadau pellach gan Weinidogion y DU. Fel y cadarnheais y llynedd mae arnaf eisiau i ddiwygio yng Nghymru arwain at system decach a llai cymhleth o dalu am ofal na’r trefniadau presennol, ac un sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae ein Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) am fod yn allweddol wrth gyflawni hyn. Bydd y Bil yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol i weithredu’r diwygio hwn. Bydd yn galluogi unrhyw un o amrywiaeth o ddewisiadau diwygio i gael eu gweithredu ochr yn ochr â gweithredu’r prif ddiwygiadau eraill sy’n deillio o’r Bil. Fel y gwyddoch, mae’r Bil yn mynd trwy’r camau terfynol o graffu arno gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Fel y nodais y llynedd mae arnaf eisiau i ddiwygio yng Nghymru gael ei deilwra i weddu i’n hamgylchiadau penodol ni. Mae gwahaniaethau pwysig rhwng Cymru a Lloegr mewn agweddau allweddol sy’n ymwneud â thalu am ofal, sy’n golygu nad y diwygio sy’n cael ei gynllunio yn Lloegr yw’r diwygio sy’n addas yng Nghymru o angenrheidrwydd. Er enghraifft, o safbwynt demograffi, cyfraddau anabledd, cyfoeth personol, gwerth a pherchnogaeth eiddo, ac amrywiaeth o ffactorau eraill. Mae arnom hefyd angen cydnabod y gwahaniaethau amlwg mewn gwerthoedd ac egwyddorion ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n golygu cymaint inni, fel y’u cadarnheir yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru).
Er mwyn gallu ystyried pa ddull gweithredu sy’n iawn, mae angen cael gafael ar ddata allweddol ynglŷn â Chymru sy’n effeithio ar dalu am ofal a’r dewisiadau ar gyfer diwygio. O ganlyniad, hoffwn eich hysbysu fy mod i wedi dyfarnu contract yn ddiweddar ar gyfer astudiaeth ymchwil annibynnol ar ddyfodol talu am ofal yng Nghymru. Caiff yr astudiaeth ei chynnal gan LE Wales, ymgynghoriaeth economeg flaenllaw sy’n arbenigo mewn economeg polisi cyhoeddus. Bydd yn casglu ac yn dadansoddi unrhyw ddata craidd a dangosyddion perthnasol sydd ar gael ynglŷn â dyfodol talu am ofal yng Nghymru, ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso’r dewisiadau ar gyfer diwygio. Mae’r astudiaeth hon eisoes wedi cychwyn ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau erbyn mis Medi eleni.
Wrth i’r casgliadau o’r astudiaeth hon ymddangos, hoffwn gael barn rhanddeiliaid am y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer diwygio. Mae hynny er mwyn cael darlun cyflawn o’r data, y dewisiadau a’r safbwyntiau i’w hystyried ochr yn ochr â manylion y diwygiadau sy’n digwydd yn Lloegr. O ganlyniad, byddaf yn fuan yn ailsefydlu fy Ngrŵp Cynghorol Rhanddeiliaid Talu am Ofal i geisio’u barn wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen. Hoffwn rannu hyn hefyd gyda’r pleidiau gwleidyddol eraill yma yng Nghymru i gael eu safbwyntiau hwythau yn yr un modd, gan fod hwn yn un o’r materion sylfaenol hynny sy’n croesi ffiniau gwleidyddiaeth pleidiau. Ar ôl cael fy arfogi â’r holl dystiolaeth hon bwriadaf gadarnhau yn nes ymlaen yn 2014 y dull o ddiwygio y mae arnaf eisiau ei ddilyn yng Nghymru.
Yn y cyfamser mae angen sicrhau bod ein trefniadau presennol ar gyfer talu am ofal yn gweithredu’n effeithiol. Fel y dywedais y llynedd, ystyriaf mai rhan annatod o’r diwygio fydd adeiladu ar lwyddiant y strategaeth codi ffioedd a gyflwynwyd gennym yn 2011. Roedd y cynllun hwn yn rhagflaenydd i’r cap ar gostau gofal a gaiff ei gynnig yn awr yn Lloegr. Mae’n fodd syml ond effeithiol o ddarparu uchafswm teg i’r swm y bydd gofyn i bobl ei dalu am eu gofal dibreswyl, gan roi sicrwydd iddynt am yr uchafswm y gofynnir iddynt dalu am eu gofal lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Mae’r ddarpariaeth hon yn unigryw i Gymru a chafodd ei chroesawu gan ddefnyddwyr gwasanaethau a’r sefydliadau a mudiadau sy’n eu cynrychioli. Er mwyn sicrhau ei barhad rydym yn buddsoddi dros £13 miliwn y flwyddyn i dalu costau awdurdodau lleol wrth weithredu hyn.
Nid yw’r uchafswm o £50 yr wythnos wedi newid ers iddi gael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2011, ac efallai y bydd Aelodau’n gwybod fy mod i wedi bod yn ymgynghori’n ddiweddar ar fy nghynnig i adolygu ei lefel i £55 yr wythnos o fis Ebrill eleni a £60 yr wythnos o fis Ebrill 2015. Ers hynny mae chwyddiant o tua 10% wedi bod, gyda sgil effaith ar gostau darparu gwasanaethau, a chynnydd o tua 7.5% ym mhensiynau’r wladwriaeth a budd-daliadau dros y tair blynedd hyd at yn awr. O ganlyniad, gan fod y cynllun wedi ymsefydlu erbyn hyn, teimlaf mai dyma’r adeg iawn i ddiweddaru ei lefel.
Mae’r ymgynghoriad hwnnw newydd orffen. Er mai nifer bach o ymatebion a gafwyd, 26 i gyd, roedd ymatebion llywodraeth leol yn cytuno â’m barn ac mewn rhai achosion yn dadlau o blaid dwywaith cymaint o gynnydd ag yr oeddwn i’n ei gynnig. Roedd hyn yn wyneb y pwysau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Ar y llaw arall, roedd y rheini a ymatebodd o blith sefydliadau trydydd sector sy’n cynrychioli pobl hŷn ac anabl, a nifer bach o ddefnyddwyr gwasanaethau, yn dadlau dros leihau’r uchafswm tâl, neu o leiaf i beidio â gwneud unrhyw newid i’w lefel. Roedd hyn yn sgil y pwysau ariannol y mae pobl hŷn ac anabl yn eu hwynebu o ganlyniad i agenda Diwygio Lles Llywodraeth y DU a chynnydd yn eu costau byw o ddydd i ddydd.
Ar ôl pwyso a mesur y ddau safbwynt yn ofalus, rwyf wedi penderfynu cynnal adolygiad o’r uchafswm tâl fel yr amlinellaf uchod. Mae hyn er mwyn cynnal yr effaith mewn termau real. Er fy mod yn cydnabod y pwysau ariannol gwirioneddol y mae awdurdodau lleol a defnyddwyr gwasanaethau yn eu profi, ni theimlaf ei bod yn addas peidio â gwneud dim newid i’r uchafswm, na’i leihau fel y byddai’n lleihau ymhellach yr incwm y mae awdurdodau lleol yn ei godi iddynt eu hunain. Er hynny, teimlaf ei bod hi’r un mor anaddas yn yr hinsawdd bresennol i ddisgwyl bod modd codi uchafswm tâl sydd 20% yn uwch, ac wedyn 40% yn uwch, na’i lefel bresennol ar ddefnyddwyr gwasanaethau hŷn ac anabl Cymru. Byddaf felly’n cyflwyno rheoliadau diwygio gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i weithredu’r newid yn lefel yr uchafswm o fis Ebrill 2014 i godi hyn i £55 yr wythnos. Byddaf yn gweithredu’n debyg y flwyddyn nesaf ar gyfer y cynnydd o fis Ebrill 2015 i £60 yr wythnos. Bydd lefel yr uchafswm tâl yn y dyfodol y tu hwnt i 2015 wedyn, wrth gwrs, yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith ehangach o ddiwygio’r drefn talu am ofal.
Byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau mewn da bryd am unrhyw ddatblygiadau.