Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Yn dilyn derbyn model arfaethedig tymor hir Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) i ddarparu gwasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru, gwnes ddatganiad llafar ar 12 Tachwedd 2013 i gadarnhau y byddai Canolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys (SuRNICC) yn cael ei datblygu yn ardal Gogledd Cymru. Yn y datganiad hwnnw, dywedais y byddwn yn penderfynu ar leoliad y Ganolfan a gynigir gan RCPCH.
Erbyn hyn, mae Panel annibynnol wedi’i sefydlu i ddatblygu achos amlinellol strategol ac argymhellion ar gyfer lleoliad y Ganolfan ar un o safleoedd yr ysbytai acíwt presennol, sef Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Wrecsam Maelor, yn ôl yr hyn a argymhellir yn adroddiad RCPCH. Ar ben hynny, bydd y Panel yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y safleoedd eraill yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau rhyngddibynnol eraill. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhoi ystyriaeth lawn i’r materion hyn wrth ddatblygu ei argymhellion i wella gwasanaethau acíwt yn ardaloedd y Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru.
Caiff y Panel ei arwain gan Sonia Mills, cyn Brif Swyddog Gweithredol profiadol o’r GIG sydd wedi cyflawni llawer wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion, gan gynnwys gwella diogelwch a gwneud newidiadau allweddol i’r gwasanaethau a ddarperir. Bydd Sonia’n cydweithio’n agos â Steve Boardman, sydd â dros 25 mlynedd o brofiad ym maes gofal iechyd yn sgil gweithio i’r GIG ac ymgynghori â’r GIG, gan gynnwys gweithio i’r sector preifat ac i fusnesau ym maes gofal iechyd. Bydd cyngor arbenigol clinigol yn cael ei ddarparu i’r Panel gan yr RCPCH.
Bydd y Panel yn meithrin cysylltiad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cludo Babanod Newydd-anedig, Grŵp Darparu Cludiant yng Ngogledd Cymru (North Wales Transport to Health Group), a rhanddeiliaid perthnasol eraill, wrth bennu’r meini prawf penodol ar gyfer yr adolygiad, ac wrth ddatblygu’r achos amlinellol strategol.
Bydd y Panel hefyd yn cynnal rhaglen ymgysylltu â’r holl randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys staff y GIG, grwpiau o gleifion a rhanddeiliaid eraill yng Ngogledd Cymru a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad, yn unol â’r broses a ddilynwyd gan yr RCPCH yn eu hadolygiad cyntaf o wasanaethau newyddenedigol.
Y bwriad cychwynnol oedd i’r argymhellion gael eu cyflwyno imi erbyn dechrau mis Mawrth. Fodd bynnag, nid oeddwn o’r farn y byddai hynny’n caniatáu digon o amser i gynnal rhaglen ymgysylltu digonol â phob un o’r rhai hynny a allai fod ganddynt ddiddordeb yn y penderfyniad. Felly, rwy wedi cytuno ar estyn cyfnod y rhaglen ymgysylltu, a bellach byddaf yn derbyn argymhellion y Panel erbyn 31 Mawrth 2014. Byddaf yn ystyried yr argymhellion hyn cyn gynted ag y cânt eu derbyn, ac wedyn byddaf yn hysbysu Aelodau’r Cynulliad am fy mhenderfyniad.