Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Efallai y bydd Aelodau’r Cynulliad yn cofio’r cyn-Weinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gwneud cais am dystiolaeth ar 29 Ebrill eleni. Roedd yn ceisio ymatebion ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru adolygu ei pholisi cyfredol ar waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd.
Polisi cyfredol Llywodraeth Cymru yw peidio â chefnogi na gwrthwynebu polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig o waredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd. Nid yw Llywodraeth Cymru, ychwaith, yn cefnogi unrhyw ddull arall o waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ar hyn o bryd.
Daeth y cais am dystiolaeth i ben ar 24 Mehefin ac mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a dderbyniwyd a thystiolaeth arall oedd ar gael. Roedd y cais am dystiolaeth yn datgan, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu adolygu ei pholisi cyfredol, y byddai’n gwneud hynny mewn ffordd agored a thryloyw, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Ar ôl ystyried yn ofalus yr ymatebion a dderbyniwyd i’r cais am dystiolaeth a thystiolaeth arall oedd ar gael, rwyf wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei pholisi cyfredol ar waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd. Yn unol â’r hyn a ddwedwyd yn natganiad y cais am dystiolaeth, rwyf heddiw wedi cyhoeddi papur ymgynghori pellach sy’n atodedig i’r datganiad hwn.
Mae’r papur ymgynghori yn nodi’n fanwl yr ystyriaethau, y cyfyngiadau a’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu adolygu ei pholisi cyfredol. Nid oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud ynghylch yr adolygiad hwn o’r polisi. Fodd bynnag, hyd yn oed os bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu mabwysiadu polisi o ran gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd, ni fydd hynny o reidrwydd yn golygu y byddai’r gwastraff hwn yn cael ei waredu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i’r ffordd wirfoddol o weithio, lle mae cymuned a allai fod yn lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu yn ceisio cychwyn trafodaethau ynghylch gwneud hynny. Gallai trafodaethau o’r fath bara am ddeng mlynedd neu fwy a gall y gymuned dan sylw dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Ers 2008, o dan bolisi cyfredol Llywodraeth Cymru, mae wedi bod yn bosibl i gymuned yng Nghymru geisio trafodaethau o’r fath gyda Llywodraeth Cymru.
Yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, af ati i ystyried y camau nesaf. Caiff yr adolygiad hwn o’n polisi cyfredol ei gynnal mewn ffordd agored a thryloyw ac, os yn briodol, fe ymgynghorwn ni ymhellach ar unrhyw gynigion o ran newid.