Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn gynharach eleni, gwahoddais awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer gwella’r seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth, imi eu hystyried ar gyfer cyllido cymorth drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol.
Mynegais wrth yr awdurdodau lleol y dylai eu cynigion gefnogi swyddi a thwf economaidd, lleihau anweithgarwch economaidd ac annog teithio iachach a mwy cynaliadwy. Roedd yn ofynnol hefyd i’w cynlluniau wella ansawdd bywyd pobl, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig.
Cafwyd ymateb calonogol iawn gan bob awdurdod lleol a chefais fy mhlesio gan y cynigion a gyflwynwyd.
Daeth cyfanswm o 96 cais am gyllid i law, am gyfanswm o £34.5 miliwn. Roedd y ceisiadau’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth – 25 yn ymwneud â gwella ffyrdd, 30 yn gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a 41 yn ymwneud â cherdded a beicio.
Drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, rwyf wedi gallu cyllido 41 cynllun yn llawn neu’n rhannol. Bydd un o’r cynlluniau hyn yn cael cymorth ariannol o’r gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y Metro yn Ne-ddwyrain Cymru hefyd, ynghyd â phedwar cynllun arall. Gyda’r Datganiad hwn rwy’n atodi rhestr o’r cynlluniau a fydd yn derbyn cyllid a maint y grant a ddyrennir iddynt
Mae Byrddau’r Dinas-ranbarthau wedi cymeradwyo’r cynlluniau a fydd yn cael cyllid yn eu hardaloedd nhw.
Yn ogystal â dyrannu £15.4 miliwn, rwyf wedi rhoi £0.3 miliwn i alluogi’r 22 Awdurdod Lleol i gyflawni eu dyletswyddau mapio rhwydweithiau o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Bydd y cymorth ariannol hwn i’r Awdurdodau Lleol yn eu helpu i gyflawni gwelliannau trafnidiaeth yn eu hardal leol, gan fodloni anghenion busnesau, pobl a chymunedau.