Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd.

Categorïau

Mae 11 Gwobr Dewi Sant, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 10 ohonynt. Mae'n bwysig sicrhau bod y person neu'r grŵp yr ydych yn enwebu'n cael eu henwebu yn y categori mwyaf priodol - bydd y diffiniadau isod yn eich helpu i benderfynu.

  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Dyma wobr ar gyfer pobl sydd wedi datblygu technegau neu atebion sy’n bodloni gofynion newydd ac sydd wedi darparu cynnyrch, prosesau, gwasanaethau, technolegau neu syniadau effeithiol sydd ar gael i bawb mewn cymdeithas.
  • Arwr Cymunedol: Gwobr ar gyfer pobl yng Nghymru sydd wedi neu'n parhau i hyrwyddo mentrau sy'n gwella bywydau pobl yn eu cymuned leol neu gymunedau ledled Cymru.
  • Busnes: Dyma wobr i’r rheini sydd, drwy eu hymdrechion, wedi cael llwyddiant ysgubol mewn busnes. Gallai hyn gynnwys creu swyddi go iawn iddyn nhw eu hunain ac i eraill.
  • Ceidwad yr Amgylchedd: Dyfernir y wobr i berson neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i wella yr amgylchedd, un ai yn lleol, ar draws Cymru neu yn rhyngwladol.
  • Chwaraeon: Dyma wobr ar gyfer tîm neu grŵp yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ragori neu helpu i ragori yn y campau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
  • Dewrder: Dyma wobr i’r rheini sydd wedi ymddwyn yn eithriadol o ddewr neu sydd wedi dangos dewrder neilltuol yn eu cymeriad trwy wneud y peth iawn mewn sefyllfa anodd. Gallai olygu bod yn ddi-ofn neu’n gorfforol ddewr, a gweithredu heb feddwl am niwed posibl.
  • Diwylliant: Dyma wobr i unigolyn o neu yng Nghymru sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a ffurfiau diwylliannol eraill, mewn unrhyw gelfyddyd, iaith neu gyfrwng. Gallai gynnwys ymhlith eraill, y rheini sydd wedi llwyddo i roi Cymru ar lwyfan y byd.
  • Gwasanaethu’r Cyhoedd: Gwobr ar gyfer unigolyn neu dîm sy'n gweithio yn y rheng flaen o fewn GIG Cymru neu'r sector Addysg gan roi gwasanaeth eithriadol i bobl Cymru. Dylai enwebiadau ar gyfer y gwobrau hyn ddod gan aelodau o'r cyhoedd sydd â phrofiad uniongyrchol o'r gwasanaeth a ddarperir gan eu henwebai.
  • Gwirfoddoli: Gwobr ar gyfer pobl yng Nghymru sydd wedi rhoi neu’n parhau i roi eu hamser yn ddi-dâl i gefnogi prosiectau ar lawr gwlad, sefydliadau lleol neu elusennau cenedlaethol Cymru. Gan gynnwys y rhai sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth a chodi arian er budd lleol ac ehangach.
  • Person Ifanc: Rhoddir y wobr hon i berson neu gr ˆwp ifanc eithriadol hyd at 19 oed sy’n ysbrydoli mewn unrhyw faes yng Nghymru.
  • Gwobr Arbennig: Rhodd personol gan y Prif Weinidog yw’r wobr hon – ni ellir enwebu rhywun yn uniongyrchol ar ei chyfer. Gallai wobrwyo gorchest gr ˆwp neu unigolyn. Gallai’r enillydd gael ei ddewis o blith enillwyr y gwobrau eraill neu ei ddewis yn annibynnol arnyn nhw.

Prif Weinidog Cymru a'i gynghorwyr sy'n penderfynu ar y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr.

Pwy gewch chi enwebu

Pwy gewch chi enwebu?

  • Does dim rhaid i’r enwebeion fod yn ddinasyddion Prydeinig na byw yng Nghymru, ond bydd ganddynt gysylltiad ystyrlon â Chymru.
  • Cewch enwebu ffrindiau, aelodau o’ch teulu, cydweithwyr neu hyd yn oed ffigwr cyhoeddus. 
  • Rhaid i’r sawl sy’n cael ei enwebu fod yn o leiaf 16 oed. Ond, ar gyfer Gwobr y Person Ifanc, cewch enwebu pobl o unrhyw oedran hyd at, a chan gynnwys, 19 oed.
  • Mae grwpiau o bobl, timau neu gwmnïau’n gymwys am wobr, yn ogystal ag unigolion (dylid nodi enw cynrychiolydd y grŵp ar y ffurflen).
  • Mae croeso ichi ailenwebu rhywun os cafodd ragor o lwyddiant ers ei enwebu’r tro cynt.
  • Ni roddir gwobrau i rywun ar ôl ei farwolaeth.

Pwy sy’n gallu enwebu?

  • Gall unrhyw un enwebu.
  • Mae hunanenwebiadau hefyd yn cael eu derbyn.
  • Ni fyddwn yn datgelu enw’r person sy’n enwebu. oni bai ei fod yn dymuno hynny (ar ôl i’w enwebai ennill Gwobr).

Sut i enwebu

Y ffordd hawsaf i enwebu yw trwy ein ffurflen ar-lein. Gallwch arbed y ffurflen, dod nôl ati, a’i chyflwyno unwaith y byddwch chi'n hapus. Cewch e-bost diolch awtomatig ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen.

Neu, gallwch lawrlwytho fersiwn pdf o'r ffurflen a'i hanfon yn ôl atom trwy e-bost neu bost. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Sut i anfon llythyr o gefnogaeth

Ar ôl i chi gyflwyno'ch enwebiad, gallwch hefyd gyflwyno llythyrau cymorth gan bobl neu sefydliadau sy'n gyfarwydd â'u cyflawniadau, er nad yw hyn yn hanfodol. Lawrlwythwch dempled os oes angen awgrymiadau arnoch ar ba fath o wybodaeth i'w gynnwys.

Bydd rhaid i bob llythyr gael gynnwys enw’r categori wobrwyo ac enw’ch enwebai a dylid ei hanfon ato: gwobraudewisant@llyw.cymru neu bostio at: Gwobrau Dewi Sant 2026, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Bydd rhaid i lythyrau o gefnogaeth ein cyrraedd erbyn y dyddiad cau – Hanner nos, 24 Hydref 2025.

Cynghorion am enwebu

  • Hyd yn oed os ydych yn enwebu rhywun adnabyddus, rhaid disgrifio’r hyn y mae wedi’i gyflawni’n gywir. Disgrifiwch ei gymeriad a’i weithredoedd wrth y Pwyllgor Ymgynghori a pheidiwch â rhagdybio bod pawb yn gwybod amdano neu amdani a’i llwyddiannau.
  • Rhowch enghreifftiau da ac esbonio sut y bu i’ch enwebai lwyddo, Ni fydd dweud “Mae Dafydd Dafis wedi codi llawer o arian at achosion da” yn ddigon. Byddai “Trefnodd Dafydd Dafis râs 5km noddedig yn y pentref a chael cefnogaeth noddwyr lleol adnabyddus i godi £5,000 at achosion da” yn well.
  • Rhowch gymaint o ffeithiau ag yr ydych yn eu gwybod neu y gallwch gael hyd iddyn nhw ar-lein. Mae croeso ichi ddefnyddio pwyntiau bwled yn lle brawddegau llawn i gadw o dan y terfyn geiriau.

Dyddiadau allweddol

Gwobrau 2025

  • 25 Hydref 2024 – enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2025 yn cau
  • 20 Chwefror 2025 - cyhoeddi teilyngwyr 2025
  • 27 Mawrth 2025 - seremoni Gwobrau Dewi Sant

Y broses feirniadu

Pwyllgor Ymgynghorol Gwobrau Dewi Sant sy’n dewis y teilyngwyr yn y 9 categori cynt.

Mae’r pwyllgor yn gymysgedd o aelodau annibynnol sydd â rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru ac enillwyr neu deilyngwyr y gwobrau blaenorol.

Byddant yn cwrdd ym mis Rhagfyr i drafod yr enwebeion. Bydd y pwyllgor yn cyflwyno rhestr fer o 3 ym mhob categori.

Prif Weinidog Cymru sy’n dewis yr enillydd ym mhob categori.

Beth sy’n digwydd nesaf

Pob blwyddyn, cysylltir â'r enwebeion llwyddiannus rhwng diwedd Rhagfyr a dechrau Ionawr ac maent yn cael eu gwahodd i gyhoeddiad y teilyngwyr yn Chwefror. Yno, mae Prif Weinidog Cymru, yn cyhoeddi’r rhestr fer.

Mae’r teilyngwyr yn cael eu ffilmio a'u cyfweld rhwng Ionawr a Fawrch i gynhyrchu ffilmiau byr amdanynt.

Mae pob un o'r teilyngwyr yn cael ei wahodd i'r seremoni wobrwyo ym Mawrth.

Beth mae'r teilyngwyr a'r enillwyr yn ennill

Bydd pob un o'r teilyngwyr yn derbyn tystysgrif Gwobrau Dewi Sant a tlws Gwobrau Dewi Sant, wedi ei ddylunio a’i saernïo gan un o artistiaid blaenllaw Cymru.

Hysbysiad preifatrwydd GDPR

Drwy gyflwyno eich ffurflen enwebu rydych chi'n cydsynio i'n hysbysiad preifatrwydd.

Enwebwch

Pwy sy’n eich ysbrydoli? Pwy ddylai Cymru fod yn falch ohonynt? Mae'r Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.

Cysylltu â ni
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch Gwobrau Dewi Sant, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod.