Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a Vaughan Gething Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
Bydd gan Aelodau ddiddordeb i wybod y diweddaraf am y Rhaglen Esgyn.
Trechu Tlodi yw un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru. Cadarnheir hynny yn y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi newydd – Creu Cymunedau Cryf a lansiwyd ar 3 Gorffennaf 2013. Mae’r Cynllun Gweithredu’n nodi gweithredoedd ar gyfer pob un o bortffolios Llywodraeth Cymru i gefnogi’r tri amcan sylfaenol o atal tlodi; helpu pobl i gael swyddi a lliniaru effeithiau tlodi.
Mae perthynas gref rhwng aelwydydd di-waith â thlodi difrifol a pharhaus a chyfraddau uwch o dlodi ymhlith plant. Mae gan Gymru gyfraddau uwch o aelwydydd di-waith na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, gyda rhyw 200,000 o aelwydydd ar hyn o bryd yn ddi-waith. Maen nhw wedi’u crynhoi yn arbennig yn y 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf.
Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn cynnwys ymrwymiad gan bob rhan o’r Llywodraeth i gynnig 5,000 o gyfleoedd hyfforddi neu waith erbyn diwedd 2017 i bobl sy’n byw ar aelwydydd di-waith.
Nid rhaglen ar gyfer pobl sydd heb waith am gyfnod byr yw Esgyn. Mae’n canolbwyntio, yn hytrach ar y rheini sydd wedi bod allan o waith neu hyfforddiant am fwy na chwe mis ac sy’n wynebu rhwystrau caletach rhag cael gwaith – pobl fel rhieni sengl ifanc, oedolion prin neu heb eu cymwysterau; pobl sy’n ei chael yn anodd cadw swydd a phobl ag anableddau. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod pobl o aelwydydd o’r fath yn llawer llai tebygol o gael gwaith.
Mae Esgyn yn rhaglen arbennig sy’n adeiladu ar sylfeini Cymunedau yn Gyntaf ac yn cryfhau timau Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Mae Esgyn yn cael ei darparu gan wyth Clwstwr:
Clwstwr Môn – Ynys Môn
Clwstwr Sir Gâr – Sir Gaerfyrddin
Clwstwr Gogledd Orllewin Abertawe – Abertawe
Clwstwr Afan – Castell-nedd Port Talbot
Clwstwr Taf – Rhondda Cynon Taf
Clwstwr Dwyrain Caerdydd – Caerdydd
Clwstwr Basn Caerffili – Caerffili
Clystyrau Tredegar a Glynebwy – Blaenau Gwent
Rydym wrthi’n ystyried creu clwstwr arall yn y Gogledd-ddwyrain.
Bydd gan Glystyrau Esgyn ‘froceriaid gwaith’, y bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn talu amdanynt, i gael hyd i bobl leol o aelwydydd di-waith allai elwa o’r rhaglen. Byddan nhw’n holi pam nad yw’r bobl hynny’n gweithio, er enghraifft oherwydd diffyg cymwysterau neu broblemau iechyd, a gweithio gyda nhw i chwalu’r rhwystrau hynny ac i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu waith.
Bydd model y rhaglen Esgyn yn mynd â chyfranogwyr yn eu blaenau mor gyflym â phosibl, gyda chyfleoedd hyfforddi neu waith yn cael eu cynnig ym mhob cam yn ôl y gofyn. Bydd cymorth dwys yn cael ei gynnig i aelwydydd sydd â rhwystrau ac anghenion mwy difrifol. Bydd y broceriaid yn cadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr ar ôl iddynt ddechrau hyfforddiant neu swydd i sicrhau bod problemau’n cael eu datrys a bod yr hyfforddiant neu’r swydd yn para.
Bydd pecyn o ymyriadau’n cael eu datblygu i gefnogi Clystyrau Esgyn. Rydym wedi gofyn i bob un o bortffolios Llywodraeth Cymru gyfrannu at hyn trwy nodi cyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith a swyddi addas. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ond rydym eisoes wedi clustnodi cyfleoedd yn y gwasanaeth iechyd a’r sector gofal cymdeithasol yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli fydd yn arwain at gymwysterau ac efallai, at waith.
Mae lleoliadau ychwanegol yn cael eu darparu gan Twf Swyddi Cymru a’u hariannu gan Cymunedau yn Gyntaf i dargedu Clystyrau ledled Cymru ond gyda phwyslais arbennig ar bobl o aelwydydd di-waith yn ardaloedd Esgyn.
Mae gwaith yn cael ei wneud hefyd i feithrin cysylltiadau a chefnogaeth i’r Rhaglen, gan gynnwys o rannau eraill y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r Trydydd Sector a hefyd gan y DWP i weld a yw’r system les yn milwrio yn erbyn y rhaglen.
Mae’r Rhaglen Esgyn felly’n cyfuno tair prif elfen:
- gwaith ar draws Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i chwilio am gyfleoedd i bobl o aelwydydd di-waith;
- gwaith yng Nghlystyrau Esgyn, trwy froceriaid a chefnogaeth y timau Cymunedau yn Gyntaf, i chwilio am bobl i gymryd rhan yn y Rhaglen, i weithio’n galed gyda nhw i chwalu’r rhwystrau a’u cysylltu â chyfleoedd addas; a
- gwaith i drechu problemau posibl, er enghraifft gyda rheolau budd-daliadau.
Bydd tîm Esgyn Llywodraeth Cymru’n ddolen gyswllt rhwng yr elfennau hyn.
Mae’r Rhaglen ar waith bellach ar Ynys Môn ac yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Blaenau Gwent. Bydd Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn dilyn ymhen ychydig wythnosau.
Megis dechrau y mae Esgyn o hyd, ond rydym eisoes wedi gweld gwaith ardderchog, er enghraifft prosiect profiad gwaith ym Mlaenau Gwent o dan ofal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Rydym yn disgwyl gweld y niferoedd yn cynyddu dros flwyddyn gynta’r rhaglen, cyn iddynt lefelu dros y tair blynedd dilynol.
Rydym am i Esgyn fod yn Rhaglen arloesol a dysgu dros amser beth sy’n gweithio’n dda a beth sy’n llai llwyddiannus. Y gobaith yw y bydd y profiad hwnnw o waith dwys yn y Clystyrau yn bwydo’r ymdrechion ehangach i leihau nifer yr aelwydydd di-waith yng Nghymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno i ni wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.