Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mod wedi cymeradwyo buddsoddiad o fwy na £17.8 miliwn ar gyfer prosiectau newydd i wella gwasanaethau cyhoeddus yn rownd wyth y Gronfa Buddsoddi i Arbed.
Bydd pecyn diweddaraf y Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cefnogi 19 prosiect arloesol a fydd yn helpu i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Bydd hefyd yn arwain at arbedion sylweddol. Mae'r pecyn yn cynnwys buddsoddiadau sy'n werth cyfanswm o £9.8 miliwn a bydd yn cefnogi: deuddeg prosiect gan GIG Cymru a CAFCASS (Cymru); £3.3 miliwn tuag at bedwar prosiect gan lywodraeth leol a'r gwasanaeth tân ac achub; a £4.7 miliwn ar gyfer prosiectau gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Chwaraeon Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r buddsoddiadau o'r Gronfa yn cynnwys:
- £270 mil tuag at ddau brosiect gan Gyngor Sir Wrecsam: "TGCh Hunanwasanaethu ar gyfer Dinasyddion" a "Wrecsam Ddi-bapur" a fydd yn gwella mynediad dinasyddion i wasanaethau'r Cyngor; yn symleiddio prosesau gweinyddu; ac yn cynhyrchu rhyw £282 mil o arbedion erbyn 2018 a chyfanswm o £1 miliwn o arbedion net arian parod o brosiectau erbyn 2023
- £3 miliwn i helpu i ddatblygu Canolfan Gwasanaethau Achub Brys ar y Cyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru. Bydd y prosiect yn sicrhau y caiff cymorth mewn argyfwng ei gydgysylltu'n effeithiol ac mae'n rhagweld £1 miliwn o arbedion effeithlonrwydd net blynyddol o 2016 ymlaen
- £1 miliwn i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i sefydlu system ddigidol ar gyfer cofnodi manylion iechyd cleifion a fydd yn arwain at leihau nifer yr apwyntiadau a gaiff eu canslo, lleihau anghenion o ran storio, a rhyddhau arian cyfalaf, gan arwain at arbedion effeithlonrwydd net arian parod o £2.5 miliwn erbyn 2020
- £1 miliwn ar gyfer dau brosiect gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; i greu cofnodion digidol o fanylion iechyd cleifion a fydd yn cael gwared ar ddogfennau papur a'r gost ddrud o’u storio, gan arwain at £290 mil o arbedion blynyddol rheolaidd o 2017 ymlaen; ac i gefnogi’r gofal a ddarperir i gleifion yn eu cartrefi neu yn y gymuned drwy ddarparu gwelyau arbenigol. Bydd y prosiect yn helpu i ostwng cyfraddau Oedi wrth Drosglwyddo Gofal a bydd yn arwain at £250 mil o arbedion effeithlonrwydd o 2014 ymlaen a chyfanswm o £500 mil o arbedion erbyn 2015
- £0.5 miliwn i gynorthwyo Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i weithredu system bresgripsiynau electronig ar gyfer cleifion allanol mewn ysbytai a darparu goleuadau LED ar gyfer yr Ysbyty Plant a thwneli yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd. Rhagwelir £290 mil o arbedion effeithlonrwydd net blynyddol rheolaidd o 2016 ymlaen
- £4.7 miliwn tuag at gynlluniau gadael swydd yn gynnar o wirfodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Chwaraeon Cymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- £6.1 miliwn tuag at ailgyflunio ac ailstrwythuro staff yn y GIG drwy gynlluniau gadael swydd yn gynnar o wirfodd, a chymorth ariannol tuag at fentrau'r GIG i wella iechyd a llesiant staff, ac i leihau lefelau absenoldeb salwch ymhlith staff
- £1.1 miliwn i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i sefydlu Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig dan arweiniad ymgynghorydd ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl a Gwasanaeth Asesu Acíwt newydd a fydd yn ymdrin â phob math o ofal nad yw wedi’i drefnu ymlaen llaw rhwng 9am a 6pm. Bydd y gwasanaethau newydd yn sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesu'n gyflymach pan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty; yn lleihau'r amser y bydd cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty, yn lleihau amseroedd aros yn yr adran damweiniau ac achosion brys ac yn gwella profiadau cleifion yn gyffredinol. Bydd y cymorth ariannol hwn hefyd yn helpu i gyflwyno trefniadau e-amserlennu staff. Gyda’i gilydd, mae'r mentrau yn rhagweld rhyw £3.4 miliwn o arbedion erbyn 2018
- £210 mil i helpu'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd - CAFCASS (Cymru) i gyflwyno system TGCh gyfun i gefnogi darpariaeth, gwella effeithlonrwydd, cynyddu mynediad i wybodaeth a chreu rhyw £360 mil o arbedion erbyn 2018
- fel rhan o gefnogi gwaith Grŵp Arweinwyr y Gwasanaethau Cyhoeddus o ran asedau, bydd buddsoddiadau hefyd yn cael eu rhoi i adolygu llety yn y sector cyhoeddus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bro Morgannwg.
Drwy'r rhaglen Buddsoddi i Arbed, rwy'n cefnogi sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd i ddefnyddio ffyrdd mwy effeithlon, mwy effeithiol a mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau. O ystyried y pwysau parhaus ar arian cyhoeddus, mae'n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael. Bydd buddsoddiadau tymor byr a wneir yn awr i helpu i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn arwain at fanteision yn y tymor hir.
Ers 2009, mae dros 68 o brosiectau wedi derbyn buddsoddiad o'r Gronfa sy'n werth cyfanswm o ryw £77 miliwn i gyd. Mae'r prosiectau a gefnogir yn rhagweld arbedion blynyddol o ryw £104 miliwn o fewn 5 mlynedd o'u dechrau, gydag arbedion rheolaidd pellach wedi hynny. Bwriad y 19 prosiect a gyhoeddir heddiw yw gwella ein gwasanaethau cyhoeddus ac arwain at ryw £21 miliwn o arbedion rheolaidd.
Yn ogystal â manteision uniongyrchol y prosiectau unigol ar lefel leol, rwy'n parhau i annog prosiectau i gofnodi a rhannu eu harbenigedd a'r gwersi a ddysgwyd â'r gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Wrth ddatblygu eu cynigion ar gyfer system ddigidol ar gyfer cofnodi manylion iechyd cleifion, rwy'n arbennig o falch o ddweud bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i roi'r gwerth gorau i'w cynigion, gan sefydlu dulliau y bydd GIG Cymru yn gyffredinol yn gallu elwa arnynt. Ar ben hynny, bydd prosiect e-amserlennu staff Cwm Taf yn rhan o drefniadau ehangach i dreialu’r dull arloesol hwn. Rwyf eisoes wedi cefnogi mentrau tebyg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar ddyraniad terfynol 2014-2015 o gymorth y Gronfa Buddsoddi i Arbed yn hwyrach eleni.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os hoffai aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.