Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Cynllunio (Cymru) (‘y Bil’) ei gyflwyno heddiw, 6 Hydref 2014.

Mae Bil Cynllunio (Cymru) yn cyflwyno cyfres o newidiadau deddfwriaethol, a hynny wedi ystyried sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ac ymgynghori eang. Ei nod yw cyflwyno diwygiadau i’r system gynllunio yng Nghymru er mwyn sicrhau ei bod yn deg ac yn gadarn a’i bod yn galluogi datblygu. Ar y cyd â newidiadau arfaethedig i is-ddeddfwriaeth, ac i bolisïau a chanllawiau, bydd y Bil yn helpu i ddarparu’r cartrefi, y swyddi a’r seilwaith y mae eu hangen ar Gymru, gan roi cyfle ar yr un pryd i ddiogelu ac i wella’n hamgylcheddau adeiledig a naturiol pwysicaf ac i gefnogi defnydd o’r Gymraeg.    

Mae 5 prif amcan i’r Bil:

  • Moderneiddio’r fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau cynllunio;
  • Cryfhau’r dull o weithredu sy’n seiliedig ar gynlluniau;  
  • Cydnerthu gwell;
  • Cynnwys rhagor o waith rhagarweiniol yn y system rheoli datblygu, a gwella’r system honno;  
  • Sefydlu trefn effeithiol ar gyfer gorfodi ac apelio.

Mae’r amcanion hynny’n cael eu cyflawni drwy’r amryfal adrannau a darpariaethau yn y Bil, sy’n cynnwys:

Cynllunio Datblygu

Mae Rhan 2 o’r Bil yn cryfhau’r dull o weithredu ar sail cynlluniau wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gan wneud hynny drwy ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Strategol lle bo angen. Bydd trefniadau ymgynghori effeithiol ar gyfer y ddau fath o gynllun. Bydd y trefniadau ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol yn adlewyrchu’r trefniadau a sefydlwyd eisoes ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol, a bydd gofyn hefyd baratoi cynllun cynnwys y gymuned, a fydd yn disgrifio pryd a sut y gall cymunedau fod yn rhan o broses paratoi’r cynllun. Bydd y broses ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei mireinio hefyd ar sail gwersi a ddysgwyd gan yr awdurdodau hynny sydd wedi mynd ati’n llwyddiannus i fabwysiadu cynlluniau o’r fath. Mae hynny’n cynnwys gwella’r fframwaith deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod Cyd-gynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu paratoi pan fo hynny’n briodol, a bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu diweddaru’n gyson fel eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol pan fo penderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud.  

Mae’r Bil hefyd yn darparu’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer cydweithredu’n effeithiol yn lleol; diwygiwyd y pwerau presennol er mwyn creu awdurdodau cynllunio lleol cadarnach â mwy o gyfrifoldebau a fydd yn gallu manteisio ar ystod ehangach o sgiliau arbenigol. Mae’r ddeddfwriaeth yn llwyr ategu’r cynigion ehangach i ddiwygio’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu.

Y weithdrefn cyn ymgeisio

Mae Rhan 3 o’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori’n statudol â’r gymuned cyn cyflwyno cais. O dan y Rhan hon, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru a’r awdurdodau cynllunio lleol ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio. Mae gweithdrefnau cyn ymgeisio yn helpu i feithrin dealltwriaeth rhwng datblygwyr, cymunedau, awdurdodau cynllunio lleol ac ymgyngoreion statudol, gan roi cyfle i godi unrhyw bryderon sylweddol a mynd i’r afael â hwy yn gynnar yn y broses gynllunio.  

Ceisiadau i Weinidogion Cymru

Mae Rhan 4 o’r Bil yn cynnig bod mwy o rôl yn cael ei rhoi i Weinidogion Cymru. Bwriedir cyflawni hynny drwy roi’r cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru dros benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan gynnwys prosiectau ynni rhwng 25 a 50 megawat. Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu cyfleoedd i gymunedau lleol gyfrannu mewn modd ystyrlon at y broses honno.

Er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cynllunio lleol o ansawdd da ar gael i bawb, bydd safonau cadarn a chyson yn cael eu cyflwyno ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol ac ymgyngoreion statudol. Caiff y safonau hynny eu hategu gan sancsiynau os bydd perfformiad yn gyson wael, gan gynnwys yr opsiwn i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau cynllunio am ddatblygiadau mawr yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru pan fernir bod yr awdurdodau cynllunio lleol dan sylw yn perfformio’n wael.  


Rheoli Datblygu

Mae Rhan 5 o’r Bil yn gwella effeithiolrwydd a chysondeb gwasanaethau cynllunio lleol drwyn wneud cyfres o newidiadau i brosesau rheoli datblygu. Ymhlith y newidiadau hynny y mae sicrhau bod ymgyngoreion statudol yn cyflwyno ymatebion o sylwedd i’r corff sy’n penderfynu ar geisiadau cynllunio, ac yn gwneud hynny’n brydlon.

Mae’r Bil yn cynnig bod hawl yn cael ei chyflwyno i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i beidio â dilysu cais cynllunio. Bydd y cynnig hwnnw’n golygu y bydd modd mynd ati’n gyflym i ddatrys unrhyw anghydfod ynghylch pa wybodaeth fydd ei hangen er mwyn i gais fod yn ddilys.  

Bwriedir diwygio gweithdrefnau pwyllgorau cynllunio er mwyn sicrhau mwy o gysondeb a gwella effeithlonrwydd. Byddwn yn sefydlu cynllun dirprwyo cenedlaethol ac yn rhagnodi maint pwyllgorau.

Byddwn yn gwella’r system rheoli datblygu mewn ffyrdd eraill hefyd, gan gynnwys cyflwyno ffurf newydd ar hysbysiad penderfynu ar gyfer datblygiadau, a rheidrwydd ar ddatblygwyr i hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol pan fydd gwaith datblygu wedi dechrau a chodi hysbysiad ar y safle neu gerllaw iddo er mwyn sicrhau bod cymunedau’n cael gwybod sut a phryd y bydd datblygiad yn mynd rhagddo. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o eglurder, tryloywder a sicrwydd i’r holl randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol, am y broses rheoli datblygu.

Gorfodi ac Apelau

Mae Rhan 6 o’r Bil yn newid gweithdrefnau gorfodi er mwyn sicrhau y bydd modd gweithredu’n brydlon ac mewn modd ystyrlon pan fo pobl yn torri rheolaethau cynllunio. Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y bydd llai o bosibilrwydd  i’r rheini a fydd yn tramgwyddo yn hyn o beth fedru achosi unrhyw oedi i gamau gorfodi, gan helpu i gynnal hyder y gymuned yn y system gynllunio.  

Bydd y Bil yn cyflwyno newidiadau i’r broses apelau cynllunio fel ei bod yn cymryd llai o amser i benderfynu ar apêl. Bydd gwella’r system apelau cynllunio yn helpu gweithwyr proffesiynol a datblygwyr sydd am weld penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gynt fel y bo modd mynd ati i ddatblygu mewn modd cynaliadwy ac ysgogi twf economaidd. Bydd y gwelliannau’n helpu cymunedau a’r cyhoedd hefyd drwy ddarparu system a fydd yn decach ac yn fwy tryloyw.

Meysydd Trefi a Phentrefi

Mae Rhan 7 o’r Bil yn cyflwyno newidiadau i’r broses cofrestru tiroedd comin ar gyfer meysydd trefi a phentrefi. Bwriedir cyfyngu ar y gallu i wneud cais o’r fath os bydd digwyddiadau penodol sy’n gysylltiedig â’r broses gynllunio wedi digwydd, ac er mwyn caniatáu i berchenogion tir, i bob pwrpas, roi caniatâd i’r tir gael ei ddefnyddio at ddibenion chwaraeon a hamdden, yn hytrach na bod defnydd o’r fath yn ‘hawl’. Mae’r cynigion hyn yn fodd i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng diogelu mannau gwyrdd o ansawdd uchel y mae cymunedau lleol yn rhoi gwerth arnynt, a sicrhau bod modd bwrw ymlaen â datblygiadau os ydynt wedi bod drwy’r broses gynllunio.

Mae Bil Cynllunio (Cymru) yn cael ei ategu gan femorandwm esboniadol, asesiad effaith rheoleiddio a nodiadau esboniadol. Mae’r ymatebion i’r Papur Ymgynghori Cynllunio Cadarnhaol a’r Bil Cynllunio (Cymru) Drafft, Rhagfyr 2013 wedi’u cyhoeddi.

http://wales.gov.uk/consultations/planning/draft-planning-wales-bill/?skip=1&lang=cy

Ymgyngoriadau

Mae’r ymgyngoriadau canlynol wedi’u cyhoeddi i gyd-fynd â’r Bil, gan gynnwys:  

  • Rhoi Mwy o Bwyslais ar Gamau Rhagarweiniol y System Rheoli Datblygu;
  • Adolygu Ffioedd am Geisiadau Cynllunio;
  • Pwyllgorau Cynllunio, Dirprwyo a Chydbwyllgorau Cynllunio;  
  • Dylunio yn y broses gynllunio; ac
  • Y pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill.

Cyhoeddwyd Cylchlythyr hefyd gan Lywodraeth Cymru ar y testun “Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu”.

Mae manylion yr ymgynghoriadau ar gael ar wefan ymgynghori Llywodraeth Cymru ar http://wales.gov.uk/consultations/planning/?lang=cy  

Dadreoleiddio

Diwygiwyd yr is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer Datblygiadau gan weithredwyr codau cyfathrebiadau electronig (Cymru), yn sgîl ein cynigion yn y papur ymgynghori a gyhoeddwyd y llynedd. Daw hyn i rym ym mis Tachwedd.

Mae’r polisi cenedlaethol ar reoli datblygu adeiladau cynaliadwy wedi ei dynnu’n ôl, a chafodd TAN22 ei ddiddymu yn gynharach eleni. Gwnaed hyn er mwyn lleihau dyblygu ac arbed amser a chostau i ddatblygwyr. Bydd Rheoliadau Adeiladu’n dal i’n galluogi ni i sicrhau adeiladau carbon isel yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir, er mwyn rhoi rhagor o hyblygrwydd i ddeiliaid tai, y diwydiant, busnesau a sefydliadau addysgol wneud newidiadau i’w heiddo a’u cartrefi heb fod angen caniatâd cynllunio arnynt.