Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Dymunaf roi’r manylion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ynghylch ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gynyddu amrywiaeth ar Fyrddau y Sector Cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai cyrff cyhoeddus sicrhau aelodau sy'n adlewyrchu cymdeithas Cymru i'w helpu i ddeall anghenion pobl a helpu i wneud penderfyniadau gwell.
Mae amrywiaeth yn sicrhau bod aelodau cyrff cyhoeddus yn gredadwy, a bod gan y cyhoedd hyder ynddynt gan eu bod yn adlewyrchu y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn pennu yn glir ein huchelgais i sicrhau bod gennym bwll mwy cynrychioladol o bobl i wneud penderfyniadau yng Nghymru. Byddwn yn dal ati gyda’n hymdrechion i herio a newid y sefyllfa a chreu Byrddau sy'n amrywiol ac yn gynrychioladol.
Ym mis Rhagfyr 2012, cyhoeddwyd astudiaeth achos o arfer da ar gyfer penodiadau cyhoeddus Chwaraeon Cymru, a oedd yn tynnu sylw at y camau a gymerwyd gan y Cadeirydd a'r Bwrdd i gynyddu nifer y menywod ar eu Bwrdd. Cafodd yr arfer da hwn ei rannu gyda Chadeiryddion Byrddau y Sector Cyhoeddus mewn seminar ym mis Gorffennaf 2013, ble y cawsant eu hannog i ystyried y dull hwn o weithio wrth gynnal eu harferion penodi cyhoeddus eu hunain.
Bu trafodaeth yn y Cabinet ym mis Medi 2013 yn ail-gadarnhau ymrwymiad y Gweinidog i'r gwaith hwn. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y Gweinidogion am yr eildro i Gadeiryddion Byrddau y Sector Cyhoeddus yn eu hannog i barhau â'u hymdrechion i sicrhau mwy o amrywiaeth ar eu Byrddau. Gofynnwyd i Gadeiryddion ddarparu adroddiadau cynnydd yn rhoi manylion y camau yr oeddent wedi'u cymeryd i sicrhau bod cynrychiolaeth fwy amrywiol ar eu Byrddau.
Roeddwn yn falch o gynnal ail seminar i Gadeiryddion Byrddau y Sector Cyhoeddus fis diwethaf yn Stadiwm SWALEC; yno, rhoddais amlinelliad o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu amrywiaeth ar Fyrddau ein Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'n bwysig ein bod yn dod â Chadeiryddion Byrddau y Sector Cyhoeddus at ei gilydd fel hyn er mwyn rhannu arferion da, dysgu mwy am y rhwystrau y maent yn eu hwynebu ac edrych ar ffyrdd y gallwn gydweithio i gael gwell amrywiaeth.
Mae'n amlwg bod y camau a gymerwyd gennym wedi arwain at gynnydd.
O ran Cyrff Cynghori a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod sydd ar y cyrff hyn, o 32% ym mis Ebrilll 2012 i 50% ar 1 Hydref 2014. O ran Cyrff Gweithredol a Noddir, dim ond ychydig iawn o gynnydd a welwyd, o 35% yn 2012 i 36% ar 1 Hydref 2014. Mae rhai Byrddau Iechyd Lleol hefyd yn gweld cynnydd gyda'r nifer o fenywod ar y tri Bwrdd yn 40% neu fwy.
O ran rhai Byrddau unigol y Sector Cyhoeddus, rydym yn gweld cydbwysedd yn y rhywiau o 50:50, ac mewn rhai achosion mae mwy o fenywod na dynion ar y Byrddau.
Serch hynny, dim ond ychydig o newid a welwyd mewn rhai meysydd, ac yn wir mae dirywiad wedi bod yn nifer y bobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig sy'n cael eu penodi. Rydym yn benderfynol o beidio â cholli golwg ar yr agenda hon. Os na wnawn ni ddyfalbarhau, mae perygl na fyddwn yn newid dim neu, yn waeth byth, gallai’r sefyllfa waethygu.
Bu'r arfer da sy'n cael ei weld ar y Byrddau yn galonogol iawn. Mae hefyd wedi dangos inni y gall dulliau anneddfwriaethol weithio i gynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus. Rhaid i’r Cadeiryddion barhau i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau amrywiaeth ar eu Byrddau. Mae hyn yn cynnwys yr ymdrechion parhaus i gynyddu'r pwll o ymgeiswyr yn eu hardaloedd trwy raglenni ymgysylltu, mentora a chyfleoedd i gysgodi.
I gefnogi hyn, roeddwn yn falch o lansio yn ffurfiol raglen dreialu i hyfforddi, datblygu a chefnogi grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol, ym mis Tachwedd eleni.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i ddarparu'r rhaglen hon, sy'n ceisio rhoi mwy o gyfle am gais llwyddiannus i gorff cyhoeddus fel Aelod Bwrdd Annibynnol ac/neu Aelod Panel Cyfweld Annibynnol posibl.
Bydd pob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn cymeryd rhan mewn rhaglen beilot fydd ar gael i hyd at 18 o bobl o grwpiau ledled Cymru nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol, a bydd ar gael ar ddechrau 2015.
Bydd y gynrychiolaeth amrywiol yn dod â syniadau amrywiol a newydd, ac yn creu gwell dealltwriaeth o'n cymunedau. Gall Byrddau sy'n adlewyrchu y Gymru fodern wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ac i safon gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau, byddaf yn fodlon gwneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.