Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddwyd Bil Addysg Uwch (Cymru): Ymgynghoriad Technegol ar 20 Mai 2013 a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 29 Gorffennaf 2013. Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r Ymgynghoriad Technegol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar y tudalennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.
Pwrpas y ddogfen oedd cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Papur Gwyn Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) blaenorol; ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid ar fanylion technegol cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio’r fframwaith rheoleiddio addysg uwch cyfredol.
Roedd yr ymgynghoriad technegol yn gofyn am farn ynglŷn â sut y dylai’r system reoleiddio ddiwygiedig weithredu. Roedd yn cynnwys y meysydd a ganlyn:
- cyflwyno dull diwygiedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch at ddibenion cymorth statudol i fyfyrwyr;
- trefniadau ar gyfer ei gwneud yn orfodol i roi cap ar ffioedd dysgu a chynlluniau ffioedd;
- asesiad o ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch; a
- sicrwydd ariannol a llywodraethu.
Yn gyfan gwbl derbyniwyd 21 o ymatebion ysgrifenedig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i'r Ymgynghoriad. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi llywio datblygiad y Bil a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ym mis Mai.