Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Rhaglenni Gweithredol Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) 2014-2020 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a Dwyrain Cymru.
Daw'r gymeradwyaeth hon, sef £804 miliwn o gronfeydd ESF, ar ôl i'r Comisiwn gymeradwyo Rhaglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gwerth £1.1 biliwn, gan sicrhau cyfanswm buddsoddiad o bron i £2bn o Gronfeydd Strwythurol yr UE a fydd yn helpu i gyflawni nodau a rennir yr UE a Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd cynaliadwy a swyddi.
Yn yr un modd â rhaglenni ERDF, Cymru yw'r cenedl cyntaf yn y DU ac un o'r cyntaf yn yr UE i gael ei rhaglenni ESF wedi'u cymeradwyo. Daw hyn ar ôl trafodaethau helaeth â'r Comisiwn Ewropeaidd dros y naw mis diwethaf, a'r broses o fabwysiadu Cytundeb Partneriaeth y DU ar 29 Hydref, sef un o ofynion rheoliadol y Comisiwn.
Bydd rhaglenni ESF, sy'n werth bron i £642m o gronfeydd yr UE i Orllewin Cymru a'r Cymoedd a thua £162m i Ddwyrain Cymru, yn ysgogi cyfanswm buddsoddiad (h.y. gydag arian cyfatebol) o tua £1.2bn er mwyn helpu i drawsnewid rhagolygon y bobl fwyaf ymylol ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gan ysgogi cynhyrchiant a thwf drwy gyfrwng gweithlu medrus, hyblyg ac entrepreneuraidd a buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc. Ymhlith buddsoddiadau'r ESF mae:
- buddsoddiad sylweddol o dros 22% o'n cronfeydd ESF, tua £190m, er mwyn helpu i drechu tlodi ledled Cymru drwy gefnogi pobl wrth iddynt symud i gyflogaeth gynaliadwy, gan helpu'r unigolion mwyaf ymylol a difrentiedig yn ein cymdeithas
- cynnydd o 20% yn y cymorth sydd ar gael i ddatblygu sgiliau ein gweithlu cyflogedig er mwyn helpu i ysgogi economi wybodaeth arloesol o ansawdd uchel yng Nghymru, sef cyfanswm buddsoddiad o £353m o gronfeydd ESF;
- dros £240m i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru sy'n cynnwys, am y tro cyntaf, flaenoriaeth benodol i sicrhau gwaith i bobl ifanc ar gyfer rhaglen Dwyrain Cymru. Bydd y buddsoddiad yn helpu pobl ifanc i gael gwaith cynaliadwy o safon a gwella lefelau cyrhaeddiad, gan gynnwys mewn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ledled Cymru; a
- chan adeiladu ar ein profiad o raglenni blaenorol, buddsoddiadau penodol i wella cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle.
Caiff Rhaglenni Gweithredol terfynol ESF eu cyhoeddi'n fuan ar wefan WEFO (www.wefo.wales.gov.uk). Yn y cyfamser, atodir tabl sy'n dangos y dyraniadau ariannol y cytunwyd arnynt ar gyfer pob un o flaenoriaethau buddsoddi'r rhaglenni ESG i'r Datganiad hwn.
Mae cymeradwyaeth Rhaglenni Gweithredol y Cronfeydd Strwythurol yn golygu y gall Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru sefydlu "Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020" yn ffurfiol a chymeradwyo'r meini prawf dethol ar gyfer y buddsoddiad yn ei gyfarfod heddiw. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau gweithredu ar lawr gwlad ac rwy'n gobeithio y gallaf gyhoeddi'r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo yn ddiweddarach yn y mis.
Mae synergeddau a chysylltiadau rhwng Cronfeydd Strwythurol a rhaglenni cyllid eraill yr UE a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn, fel Horizon 2020 ac Erasmus, hefyd yn bwysig iawn ac rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw bod Dr Grahame Guilford, Dr Hywel Ceri Jones a Gaynor Richards MBE oll wedi cytuno i wasanaethu ar banel bach o Lysgenhadon Cyllid yr UE er mwyn helpu i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o raglenni cyllid yr UE a reolir yn uniongyrchol ar gyfer 2014-2020.
Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y cymorth a gafwyd gan ffrydiau ariannu eraill yr UE yn y gorffennol ac yn targedu'r adnoddau hyn ymhellach a chodi eu proffil yng Nghymru. Dyma'r neges mewn adroddiadau diweddar gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Menter a Busnes ac, yn fy marn i, mae'r broses o sefydlu'r panel hwn yn gam hollbwysig a fydd yn helpu i atgyfnerthu'r trefniadau partneriaeth sydd eu hangen er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyllid Ewropeaidd.
Mae gan y Llysgenhadon gryn dipyn o wybodaeth a phrofiad o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac o faterion yn ymwneud â chyllid Ewropeaidd yn gyffredinol. Byddant yn defnyddio eu profiad a'u gwaith yn eu priod sectorau er mwyn helpu i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ariannu hyn, ac i roi cyngor i mi ar sut y gall Cymru ddefnyddio'r arian a roddir o dan y rhaglenni hyn yn fwy llwyddiannus. Yn benodol, bydd yn bwysig nodi a hyrwyddo dulliau integreiddio a chynghori ar y ffordd orau o fanteisio i'r eithaf ar synergeddau â ffrydiau ariannu eraill yr UE a ffrydiau ariannu domestig, fel y Cronfeydd Strwythurol a'r rhaglen Datblygu Gwledig, a chysylltiadau â'r Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd.
Gan fod y rhaglenni cyllid Ewropeaidd hyn a reolir yn uniongyrchol yn berthnasol i bortffolios nifer o Weinidogion, gall fod cyfleoedd hefyd i'r Llysgenhadon weithio gyda Gweinidogion eraill a'u swyddogion wrth gyflawni'r gwaith.
Byddant yn ymgymryd â'u rolau fel Llysgenhadon ar unwaith ac yn cyfarfod â mi bob chwarter. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am unrhyw gynnydd.