Edwina Hart, y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd sy’n cael ei wneud i sefydlu Panel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus.
Ar 20 Tachwedd rhoddais wybod i Aelodau am ganlyniad adolygiad allanol o Bwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (PTUC), a gynhaliwyd yn ystod haf 2013.
Rwy’n falch bod cynrychiolwyr o Ddefnyddwyr Bysiau Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Anabledd Cymru, Passenger Focus a’r Grŵp Gweithredu Rheilffyrdd wedi cytuno i fod yn aelodau o’r Panel. Drwy dynnu ynghyd y sefydliadau allweddol hyn sydd eisoes yn gweithio ym maes defnyddwyr trafnidiaeth, byddaf yn cael cyngor a fydd yn gwneud yn siŵr bod barn defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn llywio’r gwaith o ddatblygu fy mholisi a rhaglenni polisi a’u gweithredu.
Bydd y Panel newydd hwn yn cael ei arwain gan Gadeirydd a benodir yn gyhoeddus. Bydd y Cadeirydd yn ymgymryd â rôl ehangach, gyda chymorth polisi allanol, i ddarparu canolbwynt ar gyfer materion sy’n ymwneud â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mewnbwn uniongyrchol i ddatblygiad y polisi.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi trefniadau yn eu lle i benodi’r Cadeirydd a sicrhau capasiti allanol i gefnogi ei waith.
Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth pan benodir y Cadeirydd.