Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn her gymhleth iawn sy’n gofyn am weithredu ar draws gwahanol sectorau a meysydd polisi, ar lefel genedlaethol a lleol. Rwyf wedi datgan yn glir fy ymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater hwn gan fod anghydraddoldebau o'r fath yn anghyfiawn, yn annheg ac yn annerbyniol. Mae ystod y canlyniadau a'r camau gweithredu yn ein Rhaglen Lywodraeth, ac yn Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, yn dangos blaenoriaeth a natur drawsbynciol yr ymrwymiad hwn.
Mae cysylltiad annatod rhwng gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a nifer o flaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru. Yn arbennig, mae'r camau gweithredu sy'n cael eu datblygu drwy'n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn gwneud cyfraniad hanfodol. Mae camau gweithredu hefyd wedi'u hymgorffori ar draws amryw bolisïau a rhaglenni strategol.
Wrth gwrs, nid yw her lleihau anghydraddoldebau iechyd yn rhywbeth unigryw i Gymru. Mae'r mater hwn yr un mor bwysig mewn gwledydd eraill. Un rhan allweddol o'n hymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru yw dysgu o brofiadau eraill, a rhannu'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'n partneriaid. Rydyn ni wedi cael y cyfle i drafod syniadau drwy gyfrannu'n weithredol a bod yn bartner cenedlaethol yn Gweithredu er Tegwch, Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau Iechyd (2011-2014) a ariennir gan yr UE.
Roeddwn i'n falch iawn o gael cynrychioli'r DU yng nghynhadledd olaf Gweithredu er Tegwch ym Mrwsel ar 23 Ionawr. Roedd y gynhadledd yn gyfle pwysig i asesu hynt y gwaith o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn yr UE, yn ogystal ag ystyried cyfleoedd a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Roedd dros 500 o gynrychiolwyr yn bresennol o'r Aelod-wladwriaethau.
Yn ogystal ag annerch y gynhadledd ar ran y DU, fel yr aelod-wladwriaeth arweiniol, cymerais ran mewn sesiwn Panel Gweinidogion gyda Gweinidogion o Sbaen, Gwlad Belg, Gwlad Groeg (ar ran y Llywyddiaeth), Lithwania, y Ffindir ac Iwerddon. Roedd hwn yn gyfle gwych i drafod gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn ogystal ag ymchwilio i'r rhwystrau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Yn y gynhadledd, cefais y cyfle hefyd i gwrdd â nifer o arbenigwyr blaenllaw yn y maes. Roeddwn i'n falch o gwrdd â Syr Michael Marmot, Cadeirydd Comisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar Benderfynyddion Cymdeithasol Iechyd ac arbenigwr rhyngwladol ar anghydraddoldebau iechyd a'u hachosion. Mae gwaith Marmot wedi tynnu sylw at nifer o egwyddorion pwysig sy'n dylanwadu ar ein gwaith yng Nghymru, yn enwedig y cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd a phwysigrwydd rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Mae egwyddorion o'r fath yn cael eu hadlewyrchu mewn camau gweithredu yn fy mhortffolio, yn ogystal â phortffolios eraill, fel y rhaglen Dechrau'n Deg.
Yn ystod fy amser yn y gynhadledd, cwrddais hefyd â Shan Morgan, Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol y DU i'r Undeb Ewropeaidd, gan drafod nifer o ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd. Fe gwrddais hefyd â grŵp o ymchwilwyr iechyd o brifysgolion yng Nghymru a oedd ym Mrwsel i ymchwilio i’r posibilrwydd o dderbyn cyllid drwy raglen ymchwil yr UE, Horizon 2020.
Prosiect Ewrop gyfan oedd Gweithredu er Tegwch gyda'r nod o nodi arfer da, rhannu gwersi a datblygu ffordd aml-lefel o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Rwy'n falch bod fy mhortffolio i a phortffolio'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cyfrannu at hyn, yn ogystal â gwaith ar y cyd gan Fyrddau Iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan.
Roedd cymryd rhan yn y rhaglen Gweithredu er Tegwch yn gyfle gwych i ddysgu a rhannu gwybodaeth ar draws Aelod-wladwriaethau'r UE. Mae’r cyfle a gefais i fynychu’r gynhadledd bwysig hon wedi atgyfnerthu fy mhenderfyniad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Roedd y rhaglen yn hynod o werthfawr o ran codi proffil anghydraddoldebau ar lefel Ewropeaidd. Rwy’n awyddus iawn ein bod ni'n manteisio ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu drwy gymryd rhan yn y rhaglen ac yn cynnal ymwybyddiaeth o’r dystiolaeth o'r dystiolaeth a'r arferion da diweddaraf, yn ogystal â chydweithio â phartneriaid yn y DU ac yn Aelod-wladwriaethau’r UE i adeiladu ar y llwyddiannau.
Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael eu hysbysu am unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol ar ôl cwblhau Gweithredu er Tegwch.