Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mewn oes o galedi ariannol, mae GIG Cymru yn wynebu dwy her: costau cynyddol a galw cynyddol. Ar yr un pryd, mae’n ceisio gwella safonau gofal. Mae’r un peth yn wir am systemau gofal iechyd eraill ar draws y byd.
Mae GIG Cymru yn mabwysiadu egwyddorion gofal iechyd darbodus wrth geisio ymateb i’r heriau hyn, ar sail gwaith Comisiwn Bevan a ffynonellau eraill o bob cwr o’r byd. Mae gofal iechyd darbodus yn rhoi GIG Cymru ar y blaen mewn symudiad rhyngwladol sy’n ennill tir, i sicrhau bod systemau gofal iechyd yn darparu mwy o werth i gleifion.
Mae pob un o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru eisoes wedi mabwysiadu arferion gweithio sy’n cynnwys rhai agweddau ar ofal iechyd darbodus. Ond rhaid i’r GIG gydweithio yn awr i ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus, sy’n seiliedig ar ddarparu gwerth, ar draws y system gyfan.
Nod gofal iechyd darbodus yw creu gwell cydbwysedd o fewn y GIG a chreu system sy’n canolbwyntio ar y claf, drwy roi mwy o bwyslais ar ganlyniadau i gleifion, yn hytrach na swm y gweithgarwch a’r triniaethau, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae GIG sy’n seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus yn sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau mwyaf priodol er mwyn cyflawni nodau a gytunir gan y naill ochr a’r llall. Nodau sy’n adlewyrchu cyfraniad unigolion i’w hiechyd a’u lles eu hunain yw’r rhain.
Mae gofal iechyd darbodus yn seiliedig ar set o egwyddorion sy’n datgan y dylai unrhyw wasanaeth neu unigolyn sy’n darparu gofal:
Yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol darbodus, mae angen cleifion darbodus er mwyn sefydlu system o ofal iechyd darbodus. Mae’r GIG yno i’n helpu pan fyddwn mewn angen, ond ynghlwm â hynny mae cyfrifoldeb i ddefnyddio ei adnoddau’n ddoeth. Er bod y GIG yn ddi-dâl, nid yw’n hynny’n golygu gwneud fel y mynnwn. Dyna sail y fargen newydd yn yr oes hon o galedi: cydgynhyrchu ar lefel unigol ac ar lefel y boblogaeth, a chleifion a’r GIG ill dau’n cyfrannu at wella iechyd a lles.
Cyfnod o drafod a chysylltu oedd hanner cyntaf y flwyddyn, er mwyn casglu barn pobl o fewn y GIG, gan gynnwys timau clinigol mewn pedwar maes triniaeth - orthopedeg, rheoli poen, presgripsiynau, a gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf - ar yr effaith y gallai dilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus ei chael ar GIG Cymru. Dechreuwyd trafod hyn â’r cyhoedd hefyd.
Mae gofal iechyd darbodus wedi derbyn croeso eang. Wrth drafod a chysylltu, daeth enghreifftiau o arferion annoeth i’r amlwg. Ond cafwyd sawl enghraifft hefyd oedd yn dangos y gallai trefnu gwasanaethau ar sail yr egwyddorion hyn ychwanegu at werth.
Un enghraifft o hyn yw’r ffordd y mae timau methiant y galon, dan arweiniad uwch-ymarferwyr nyrsio, yn dilyn yr egwyddor o ddim ond gwneud yr hyn y gallant hwy, a heb arall, ei wneud. Enghraifft arall yw polisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, yn unol ag egwyddor cydgynhyrchu.
Wrth drafod ag eraill daeth yn amlwg na fydd gweithredu ar ran GIG Cymru, ynddo’i hun, yn ddigon i ddarparu gofal iechyd darbodus. Mae angen symud oddi wrth drin afiechydon yn unig, a thrin y cyflyrau a’r cymhlethdodau cysylltiedig, gan ymateb i’r amgylchiadau, er mwyn parhau i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn gofal iechyd yn rhoi’r gwerth gorau. Dim ond drwy sefydlu partneriaeth ystyrlon rhwng pob sector a byd diwydiant y gellir cyflawni hyn. Mae Astudiaeth Lle Dwfn Tredegar ac yr Astudiaeth Carfan Caerffili yn dangos y berthynas gref rhwng tlodi, lle ac iechyd y cyhoedd, ac mae hynny’n awgrymu pwysigrwydd partneriaethau effeithiol er mwyn darparu gofal iechyd darbodus. Mae’r naill a’r llall yn darparu tystiolaeth bellach i gefnogi un o brif gasgliadau’r Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus, sef bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithredu i osgoi’r pethau y gellir eu hatal.
Mae astudiaeth Caerffili yn dangos cysylltiad clir rhwng gostyngiad sylweddol mewn cyflyrau iechyd difrifol a phum agwedd ar fyw’n iach – peidio smygu; mynegai màs y corff isel; ymarfer corff rheolaidd; diet sy’n seiliedig ar blanhigion; a chadw o fewn y canllawiau yfed alcohol. Dangosodd yr astudiaeth fod cadw at bedwar neu bump o’r rhain yn arwain at ostyngiad o 73% mewn diabetes math 2; gostyngiad o 67% mewn afiechydon fasgwlaidd; gostyngiad o 18% mewn canser; a gostyngiad o 64% mewn dementia. Pe byddai iechyd y boblogaeth gyfan yn gwella fel hyn, byddai’n gwneud cyfraniad sylweddol at sicrhau bod GIG Cymru yn gynaliadwy.
Byddwn yn paratoi e-gyhoeddiad yn yr hydref, a fydd yn disgrifio gofal iechyd darbodus a gwaith pobl Cymru i sicrhau gwell canlyniadau iechyd i’r boblogaeth. Gofynnwyd i’r cyfranwyr amlinellu beth yn ychwanegol y gellir ei wneud i sicrhau bod y symudiad yn dal i ennill tir.
Ochr yn ochr â’r cyhoeddiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid allweddol yn mynd ati i drefnu eu gwaith ar sail egwyddorion gofal iechyd darbodus. Prif agweddau hyn fydd:
Nid rhywbeth a fydd yn digwydd dros nos yw gofal iechyd darbodus. Rydym yn cychwyn ar daith a fydd yn sicrhau bod gwerth i’r cyhoedd yn ganolog i’n system gofal iechyd; bod diwylliant o roi pobl yn gyntaf bob amser; bod disgwyl i’r ffordd y caiff iechyd ei ddarparu wella’n gyson, a bod modd mesur hynny; a bod gwell gofal ar gael i bawb.

- Beidio â gwneud unrhyw niwed. Dileu ymyriadau sy’n gwneud niwed, neu nad oes unrhyw fudd clinigol iddynt, yw’r egwyddor;
- Ymyrryd yn briodol, ond cyn lleied ag sydd angen. Dylai triniaeth gychwyn gyda’r profion a’r ymyriadau sylfaenol, y profwyd eu gwerth, yw’r egwyddor hon. Dylai dwyster y profion a’r driniaeth gyfateb i ddifrifoldeb y salwch a nodau’r claf ei hun;
- Trefnu’r gweithlu o amgylch yr egwyddor o “ddim ond gwneud yr hyn y gallwch chi, a neb arall, ei wneud”. Yn ôl yr egwyddor hon, dylai pawb sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru weithredu ar eithaf ei allu clinigol. Er enghraifft, ni ddylai unrhyw un gael ei weld gan feddyg ymgynghorol fel mater o drefn, os yw uwch-ymarferydd nyrsio yn gallu diwallu ei anghenion yn briodol.
- Hybu tegwch. Yn ôl yr egwyddor hon, angen clinigol yr unigolyn sy’n bwysig o ran penderfynu pa driniaeth a ddarperir gan y GIG;
- Ail-lunio’r berthynas rhwng y defnyddiwr a’r darparwr ar sail cydgynhyrchu.
Yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol darbodus, mae angen cleifion darbodus er mwyn sefydlu system o ofal iechyd darbodus. Mae’r GIG yno i’n helpu pan fyddwn mewn angen, ond ynghlwm â hynny mae cyfrifoldeb i ddefnyddio ei adnoddau’n ddoeth. Er bod y GIG yn ddi-dâl, nid yw’n hynny’n golygu gwneud fel y mynnwn. Dyna sail y fargen newydd yn yr oes hon o galedi: cydgynhyrchu ar lefel unigol ac ar lefel y boblogaeth, a chleifion a’r GIG ill dau’n cyfrannu at wella iechyd a lles.
Cyfnod o drafod a chysylltu oedd hanner cyntaf y flwyddyn, er mwyn casglu barn pobl o fewn y GIG, gan gynnwys timau clinigol mewn pedwar maes triniaeth - orthopedeg, rheoli poen, presgripsiynau, a gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf - ar yr effaith y gallai dilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus ei chael ar GIG Cymru. Dechreuwyd trafod hyn â’r cyhoedd hefyd.
Mae gofal iechyd darbodus wedi derbyn croeso eang. Wrth drafod a chysylltu, daeth enghreifftiau o arferion annoeth i’r amlwg. Ond cafwyd sawl enghraifft hefyd oedd yn dangos y gallai trefnu gwasanaethau ar sail yr egwyddorion hyn ychwanegu at werth.
Un enghraifft o hyn yw’r ffordd y mae timau methiant y galon, dan arweiniad uwch-ymarferwyr nyrsio, yn dilyn yr egwyddor o ddim ond gwneud yr hyn y gallant hwy, a heb arall, ei wneud. Enghraifft arall yw polisi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, yn unol ag egwyddor cydgynhyrchu.
Wrth drafod ag eraill daeth yn amlwg na fydd gweithredu ar ran GIG Cymru, ynddo’i hun, yn ddigon i ddarparu gofal iechyd darbodus. Mae angen symud oddi wrth drin afiechydon yn unig, a thrin y cyflyrau a’r cymhlethdodau cysylltiedig, gan ymateb i’r amgylchiadau, er mwyn parhau i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn gofal iechyd yn rhoi’r gwerth gorau. Dim ond drwy sefydlu partneriaeth ystyrlon rhwng pob sector a byd diwydiant y gellir cyflawni hyn. Mae Astudiaeth Lle Dwfn Tredegar ac yr Astudiaeth Carfan Caerffili yn dangos y berthynas gref rhwng tlodi, lle ac iechyd y cyhoedd, ac mae hynny’n awgrymu pwysigrwydd partneriaethau effeithiol er mwyn darparu gofal iechyd darbodus. Mae’r naill a’r llall yn darparu tystiolaeth bellach i gefnogi un o brif gasgliadau’r Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus, sef bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithredu i osgoi’r pethau y gellir eu hatal.
Mae astudiaeth Caerffili yn dangos cysylltiad clir rhwng gostyngiad sylweddol mewn cyflyrau iechyd difrifol a phum agwedd ar fyw’n iach – peidio smygu; mynegai màs y corff isel; ymarfer corff rheolaidd; diet sy’n seiliedig ar blanhigion; a chadw o fewn y canllawiau yfed alcohol. Dangosodd yr astudiaeth fod cadw at bedwar neu bump o’r rhain yn arwain at ostyngiad o 73% mewn diabetes math 2; gostyngiad o 67% mewn afiechydon fasgwlaidd; gostyngiad o 18% mewn canser; a gostyngiad o 64% mewn dementia. Pe byddai iechyd y boblogaeth gyfan yn gwella fel hyn, byddai’n gwneud cyfraniad sylweddol at sicrhau bod GIG Cymru yn gynaliadwy.
Byddwn yn paratoi e-gyhoeddiad yn yr hydref, a fydd yn disgrifio gofal iechyd darbodus a gwaith pobl Cymru i sicrhau gwell canlyniadau iechyd i’r boblogaeth. Gofynnwyd i’r cyfranwyr amlinellu beth yn ychwanegol y gellir ei wneud i sicrhau bod y symudiad yn dal i ennill tir.
Ochr yn ochr â’r cyhoeddiad hwn, bydd Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid allweddol yn mynd ati i drefnu eu gwaith ar sail egwyddorion gofal iechyd darbodus. Prif agweddau hyn fydd:
- Adeiladu ar y gwaith diweddar i gryfhau system gynllunio GIG Cymru, drwy ddiweddaru’r fframwaith canlyniadau a’r gofynion cynllunio er mwyn cynnwys egwyddorion gofal iechyd darbodus, a sicrhau bod byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn eu hymgorffori;
- Efelychu gwaith yr ymgyrch Choosing Wisely, a ddatblygwyd yng Nghanada a’r Unol Daleithiau. Mae Choosing Wisely yn ymgyrchu i helpu clinigwyr a chleifion i wneud dewisiadau doeth ac effeithiol am brofion a thriniaethau;
- Ailedrych ar ganllawiau cenedlaethol ar gyfer ymyriadau nas gwneir fel arfer, a chanllawiau “peidiwch â gwneud” y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a chydymffurfio’n well â hwy ar lefel bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG. Bydd y rhaglen gwaith gofal cynlluniedig, sy’n datblygu llwybrau llawfeddygol a meddygol darbodus, yn ategu hyn;
- Bydd Comisiwn Bevan, ar ei newydd wedd, yn gwella’r sylfaen dystiolaeth a’r cyngor ar ofal iechyd darbodus, ac yn hybu’r agenda; a
- Parhau i weithio gydag Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar fentrau a fydd yn hybu gwelliannau mewn gofal iechyd ac yn datblygu’r economi. Bydd hyn yn arwain at greu cynnyrch a phrosesau arloesol mewn ffordd fwy systematig, gan gynnwys ymchwil gymhwysol sy’n ymateb i anghenion a heriau clinigol, mynd ati mewn ffordd drefnus i gynnwys technoleg newydd mewn arferion gwaith, a mwy o gyswllt â diwydiant, er enghraifft.