Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r tywydd garw a ddaw yn y gaeaf, a’r angen i fod yn barod i fynd i’r afael â’i effeithiau, yn gofyn am gynllunio cydweithredol a thrylwyr gan Lywodraeth Cymru a nifer o sefydliadau eraill ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r perygl hwn wedi amrywio, o eira trwm a thymheredd isel i stormydd a llifogydd. Mae’n rhaid i’n gwaith cynllunio fod yn ddigon hyblyg ac effeithiol i ymdopi.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynnig systemau monitro a rhybuddio effeithiol i’n hysbysu am y posibilrwydd o dywydd garw. Mae hyn yn ein galluogi i baratoi’n dda, bod yn drefnus a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ymateb. Yn lleol, mae trefniadau sefydlog yn bodoli, o dan arweiniad y pedwar Fforwm Cydnerthedd Lleol, sy’n tynnu ynghyd asiantaethau a sefydliadau lleol fel awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a chwmnïau trafnidiaeth a chyfleustodau. Yn genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol y sector cyhoeddus yn adolygu’r paratoadau ar gyfer yr heriau penodol a ddaw dros y gaeaf drwy Fforwm Cymru Gydnerth. Cafodd y trefniadau ymateb aml-asiantaeth hyn eu rhoi ar brawf dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil stormydd y gaeaf, a hefyd yn sgil yr ymateb i streiciau Undeb y Brigadau Tân a’r paratoadau y bu’n rhaid eu gwneud ar gyfer Uwchgynhadledd NATO. Bydd hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer her yr amryw beryglon dros y gaeaf.
Mae hefyd angen i’r sector preifat a’r cyhoedd fonitro’r rhybuddion tywydd a gwneud cymaint ag y gallant i leddfu’r effeithiau posibl. Yn yr un modd, gallwn ddod at ein gilydd yn ein cymunedau i helpu ein gilydd pan fydd y tywydd ar ei waethaf a helpu’r rheini sydd mewn sefyllfaoedd bregus.
Y prif faterion i Lywodraeth Cymru dros y gaeaf hwn fydd cefnogi pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus drwy gadw rhwydweithiau trafnidiaeth ar agor, sicrhau iechyd a llesiant drwy ddarparu gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol a’r GIG, cynnig cymorth i leihau effaith bosibl tlodi tanwydd, a sicrhau bod busnesau a’r economi yn gyffredinol yn gwbl weithredol.
Ein prif flaenoriaeth o hyd ar gyfer y gaeaf hwn yw diogelu’r bobl hynny sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus. Y peth pwysicaf yn hyn yw’r ymgyrch brechiadau rhag ffliw. 75% yw’r targed ar gyfer brechiadau ffliw i bobl hŷn a’r grwpiau risg, a 50% ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion. Hefyd, mae’r rhaglen ffliw yn cael ei hehangu i gynnwys plant pedair oed. Nod yr ymgyrch yw lleihau achosion o salwch a lleddfu pwysau cyffredinol ar y GIG.
Mewn achosion o dywydd garw dros y gaeaf, mae gan sefydliadau GIG Cymru drefniadau parhad busnes manwl a chynlluniau wrth gefn i helpu i gynnal gwasanaethau. Mae’r byrddau iechyd, yr awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi datblygu cydgynlluniau gaeaf ar gyfer 2014/15. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal cyfarfodydd cynllunio tymhorol bob chwarter gyda’r GIG, yr awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Diben y rhain yw rhoi sicrwydd ynghylch gallu’r byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau dros y gaeaf, a chapasiti a chydgynllunio yn gyffredinol.
Mae’n hanfodol cadw pobl yn gynnes yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn, yn enwedig i’r rheini sydd mewn sefyllfaoedd bregus. Mae ein cynllun Nyth yn cynghori deiliaid tai sy’n cael trafferth gyda’u biliau ynni ar sut i gael cymorth o’r fath, ynghyd â gwasanaethau cynghori a chymorth eraill fel Gwirio Hawl i Fudd-daliadau, dyledion a chyngor rheoli arian ar dariffau ynni, ac atgyfeirio cartrefi cymwys at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim. Mae’r Disgownt Cartref Cynnes, Taliadau Tywydd Oer a Thaliadau Tanwydd Gaeaf yn rhoi cymorth ychwanegol i ddeiliaid tai cymwys dalu cost biliau ynni uwch dros y gaeaf.
Mae ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn hanfodol i gynnal gwasanaethau cyhoeddus a chadw busnesau’n weithredol. Fel y gwelwyd yn ystod yr eira trwm yn 2010 a 2011, mae problemau trafnidiaeth yn achosi problemau helaeth i gymdeithas a’r economi. Yng ngoleuni’r anawsterau gyda’r cyflenwadau halen bryd hynny, rydyn ni wedi cynyddu’r cyflenwad yng Nghymru i 250,000 o dunelli ac wedi newid i system o storio cyflenwadau yn hytrach na dibynnu ar adnewyddu’r cyflenwad dros gyfnod y Nadolig. Bydd hyn yn galluogi Cymru i fod mor hunangynhaliol ag sy’n ymarferol o fewn rheswm os bydd prinder halen cenedlaethol. Mae gwaith partneriaeth ar draws awdurdodau lleol hefyd yn helpu i wella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a rhoi cymorth cydfuddiannol. Rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau trenau a bysiau i sicrhau bod y system trafnidiaeth gyhoeddus yn barod.
Un o brif effeithiau eira trwm yw bod ysgolion yn cau. Os bydd ysgolion yn cau, ceir effaith wedyn ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau lleol oherwydd bod gofal plant yn flaenoriaeth i rieni. Rydym wedi atgoffa awdurdodau lleol, penaethiaid a llywodraethwyr ei bod yn bwysig bod ysgolion yn aros ar agor mewn tywydd garw. I gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar y cyd, sef "Agor Ysgolion mewn Tywydd Gwael Eithafol”. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys templed asesu risg cyffredinol a chyngor ar ymdrin â phroblemau cyffredin. O ganlyniad, rydym yn disgwyl i ysgolion ddangos mwy o eglurder a chysondeb o ran arfer.
Mae gan y cwmnïau ynni a dŵr rôl bwysig i’w chwarae dros y gaeaf i sicrhau bod eu gwasanaethau’n parhau drwy unrhyw fath o dywydd garw a’u bod yn diwallu anghenion eu holl gwsmeriaid. Mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd yn rheolaidd â’r prif gwmnïau cyfleustodau drwy Grŵp Cyfleustodau Cymru, sy’n cynnwys yr holl brif gwmnïau cyfleustodau ac asiantaethau ymateb. Mae’r cwmnïau dŵr wedi cadarnhau bod ganddynt gynlluniau ar gyfer y gaeaf a’u bod yn gallu cyfathrebu â chwsmeriaid yn llu drwy negeseuon testun, e-bost neu alwadau ffôn os bydd problemau gyda’r cyflenwad neu waith brys. Byddant yn adolygu dulliau cyfathrebu mewn ardaloedd diarffordd lle mae problemau wedi codi yn y gorffennol.
O ran ynni, fel rydym wedi clywed gan y diwydiant dros y misoedd diwethaf, bwlch bach sydd rhwng y galw a’r cyflenwad ynni y gaeaf hwn, yn enwedig yn ystod cyfnodau brig. Mae’r Grid Cenedlaethol yn ymdrin â hyn mewn ffordd ragweithiol a chyson. Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa, a thrwy’r Grid Cenedlaethol mae’n rheoli ac yn cynllunio ar gyfer capasiti ychwanegol os bydd angen. Mae hyn yn debygol o barhau am 2-3 blynedd wrth drosglwyddo i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yn hytrach na dibynnu ar ffynonellau tanwydd ffosil traddodiadol.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu, Scottish Power Energy Networks (SPEN) a Western Power i drafod capasiti a chydnerthedd y grid. Mae un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynd i gyfarfodydd Pwyllgor Gweithredol Achosion Brys Ynni Diwydiant/Llywodraeth y DU, sy’n rhoi trosolwg ar gydnerthedd ynni y DU ac yn cynllunio ar ei gyfer.
Mae’r Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu yn cyfathrebu â’u cwsmeriaid ynghylch y statws colli pŵer drwy’r we a chyfryngau cymdeithasol, ac mae gan bob un ohonynt wasanaeth ffôn brys.
Mae Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol (OCVO) yn rhoi cyngor i geidwaid da byw cyn ac yn ystod misoedd y gaeaf i’w hannog i osod cynlluniau wrth gefn ar gyfer achosion brys fel tywydd garw a llifogydd. Mae OCVO yn parhau i weithio gyda sefydliadau lles anifeiliaid anwes a rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth perchnogion am anghenion eu hanifeiliaid anwes mewn tywydd garw. Mae cyngor ar gael i geidwaid da byw a pherchnogion anifeiliaid byw drwy’r dudalen lles anifeiliaid ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae cyngor ar gael drwy Twitter a chyfryngau eraill fel sy’n briodol. Yn dilyn yr eira trwm y tu allan i’r tymor arferol yn y Gogledd Ddwyrain yn 2013, datblygodd Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli Wrth Gefn ‘tywydd garw’ ar gyfer achosion mwy lleol. Bydd hyn yn penderfynu’n gyflym a oes angen i’r Llywodraeth ymyrryd gan ddefnyddio staff maes.
Mae gan holl Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd Cymru gynlluniau i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod cyfnodau o dywydd garw, ac maent yn cymryd camau rheolaidd i ddiogelu amddiffynfeydd ar gyfer y gaeaf. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol yn parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth llifogydd a chydnerthedd drwy gydol y flwyddyn. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyfarwyddyd ‘Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd’. Dangosodd yr adolygiad arfordirol, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014, fod ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd wedi helpu i ddiogelu 99% o eiddo mewn perygl. Rydym yn gweithio i roi ei argymhellion ar waith i’n gwneud yn fwy parod a chydnerth, a’n bod yn ymateb yn well i achosion o’r fath.
Ni allwn laesu dwylo am berygl tywydd garw dros y gaeaf hwn. Er bod y gaeafau diweddar wedi bod yn gymharol fwyn, rydym hefyd wedi gweld achosion o dywydd garw ac wedi bod yn ddigon ffodus nad yw’r rhain wedi para am gyfnodau hwy. Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ymwybodol o’r perygl ac yn cymryd camau priodol i baratoi. Hoffwn annog y cyhoedd a busnesau i wneud yr un fath.