Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amserlen ar gyfer Cylch 1 a Chylch 2 Safonau’r Gymraeg.
Yn unol â’r amserlen honno, mae’n bleser gennyf heddiw lansio’r rheoliadau drafft a fydd yn gwneud y safonau ar gyfer Cylch 1. Wrth eu drafftio, rydym wedi gwrando ar farn y cyhoedd, y sefydliadau a fydd yn destun iddyn nhw, ac ar Gomisiynydd y Gymraeg, a ddarparodd adborth ar ffurf tri adroddiad a nodyn cyngor. Bydd cyfnod ymgynghori pedair wythnos yn dilyn, a fydd yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn y safonau ddweud eu dweud ar y rheoliadau drafft. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 5 Rhagfyr 2014. Dilynwch y linc i gyrraedd y dogfennau ymgynghori.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, a’u diben yw gosod lefel gyson o wasanaeth y gall siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ddisgwyl eu derbyn. Bydd hyn yn creu hawliau pendant, ac yn golygu bod sail gyfreithiol am y tro cyntaf i’r hyn y mae’n ofynnol i sefydliadau ei ddarparu yn Gymraeg.
Cafodd y safonau eu drafftio gyda’r nod o:
- wella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn Gymraeg
- cynyddu’r defnydd a wneir o wasanaethau Cymraeg
- ei gwneud yn eglur i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud mewn perthynas â’r Gymraeg
- sicrhau bod lefel briodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.