Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn sgil diwygiadau’r Undeb Ewropeaidd i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), bydd fframwaith rheoliadol Trawsgydymffurfio yn newid ar 1 Ionawr 2015. Manteisiodd Llywodraeth Cymru ar y cyfle hwn i edrych ar effeithiolrwydd y trefniadau Trawsgydymffurfio yng Nghymru i ddatblygu cynigion ar gyfer polisi fyddai’n bodloni ei hymrwymiadau Ewropeaidd ac yn ystyried yr un pryd anghenion ein diwydiant ac amodau amgylcheddol unigryw Cymru. Rhwng 23 Mai a 18 Gorffennaf 2014, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion a gododd o’r adolygiad hwnnw.
Hoffwn ddiolch i bawb am roi o’u hamser i ystyried y cynigion ac ymateb iddynt. Daeth 44 o ymatebion i law, oddi wrth undebau ffermio, cyrff amgylcheddol, cwmnïau dŵr a ffermwyr unigol. Roedd pob ymateb yn gyfraniad gwerthfawr at helpu Llywodraeth Cymru i lunio’i pholisi ar Drawsgydymffurfio. Roedd yr ymateb i fwyafrif llethol y cynigion yn y ddogfen ymgynghori yn bositif. Mynegwyd cefnogaeth gref i ddiogelu priddoedd, gwella ansawdd dŵr a lles anifeiliaid ac amddiffyn Henebion sy’n rhan mor annatod o’n tirwedd hanesyddol.
Fe welwyd, wrth gwrs, wahaniaethau barn mewn rhai meysydd. Fy nod i wrth benderfynu ar y gofynion Trawsgydymffurfio newydd fu ceisio cydbwysedd rhwng mesurau diogelu’r amgylchedd a buddiannau ffermio ymarferol tra’n bod yn wyliadwrus o’n oblygiadau i’r UE. Rwy’n credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu hynny. Mae’r ymateb hwnnw’n cynnwys dadansoddiad o’r ymatebion a chyfeiriad gyffredinol ein polisi ar Drawsgydymffurfio. Cafodd y ddogfen honno, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ei chyhoeddi heddiw a chewch ei gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r gofynion Trawsgydymffurfio newydd a fydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru o fis Ionawr 2015 wedi cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion agenda ‘Hwyluso’r Drefn’ fel ymateb i adborth rhanddeiliaid.
Trawsgydymffurfio fydd sylfaen Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r sylfaen hefyd ar gyfer cyflawni amcanion y Rhaglen Datblygu Gwledig nesaf. Mae’n hollbwysig felly bod gennym drefn sy’n effeithiol ac ymarferol ac sy’n cefnogi meysydd allweddol fel lles anifeiliaid, safonau bwyd a’r amgylchedd a diogelu dŵr a phridd yng Nghymru. Amcan y trefniadau newydd fydd sicrhau bod ffermwyr yn parhau i gynhyrchu bwyd o’r ansawdd uchaf tra’n diogelu adnoddau gwerthfawr a thirwedd naturiol drawiadol Cymru.