Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a Vaughan Gething Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
Mae’r Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd yn canolbwyntio ar gefnogi rhaglenni yn ymwneud â gofal plant, hawliau plant, chwarae a chyfranogiad a gaiff eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Mae'r datganiad hwn yn rhoi mwy o fanylion am ddyfarnu’r grant.
Ar 4 Hydref 2013 ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi at y rheini sy'n derbyn y Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd a sefydliadau eraill y Trydydd Sector a ariennir drwy ei bortffolio, i rhoi gwybod iddynt y byddai'r rhaglenni grant presennol yn dod i ben yn dilyn 6 mis o estyniad, ar 30 Medi 2014. Byddai cynlluniau presennol yn cael eu disodli gan grant newydd sy'n canolbwyntio'n fwy ar gyflawni o'r enw Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd, a gaiff ei gynnal rhwng mis Hydref 2014 a mis Medi 2017.
Mae'r newid tuag at brosiectau sy'n ymwneud yn fwy â chyflawni yn ymateb ymarferol i'r realiti ariannol ar hyn o bryd. Er 2010 mae Lywodraeth Cymru wedi cael llai o gyllid mewn termau real ac mae'n rhaid i Weinidogion sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael gwerth am arian o'i hymyriadau. O ganlyniad, mae'n rhaid i Weinidogion ganolbwyntio'n ddiflino ar ein blaenoriaethau a sicrhau ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol sy'n cefnogi nodau'r Rhaglen Lywodraethu.
Ar 19 Tachwedd 2013, bu’r rheini sy'n elwa ar y Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd mewn digwyddiad ymgysylltu i drafod cyfeiriad cyffredinol y cynllun grant newydd. Ar 3 Chwefror 2014 cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu arall ar gyfer y Trydydd Sector ehangach i amlinellu manylion y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd.
Roedd y grant newydd ar agor i'r Trydydd Sector, gan gynnwys sefydliadau nad oedd wedi cael cyllid grant o’r blaen, ac fe bwysleisiwyd yr angen am brosiectau sy'n canolbwyntio ar gyflawni ar draws Cymru gyfan a'r manteision o weithio mewn partneriaeth, mewn cyfarfodydd ac yn y canllawiau am y rhaglen grant. Roedd hyn y nodi’n glir y byddai pum grant yn cael eu dyfarnu, un ym mhob un o'r 5 maes Blaenoriaeth Strategol: Gofal Plant, Chwarae, Cefnogi Teuluoedd, Ymgysylltu a Datblygu Polisïau a Strategaethau. Cafodd yr ymgeiswyr wybod bod hawl ganddynt gyflwyno mwy nag un cais.
Roedd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd yn rhedeg rhwng 3 Mawrth 2014 a 23 Mai 2014. Cyhoeddwyd y penderfyniadau cyllido ar 30 Mehefin 2014 ac mae disgwyl i brosiectau ddechrau gweithredu o 1 Hydref 2014 ymlaen.
Cafodd yr holl geisiadau am gyllid eu hasesu yn gyfartal yn unol â'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector. Defnyddiwyd dull sgorio unffurf yn y broses asesu a chafodd pob cais ei asesu'n gadarn yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt. Roedd trafodaethau am gymedroli yn sicrhau bod marciau'n gyson drwy gydol y broses werthuso.
Mae penderfyniadau cyllido ar gyfer y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd felly wedi cael eu gwneud yn dilyn proses asesu gadarn, ac mae prosiectau o ansawdd da sy'n canolbwyntio ar gyflawni wedi cael eu dewis i dderbyn cyllid. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglenni allweddol mewn perthynas â Phlant, Pobl Ifanc a Chefnogi Teuluoedd. Mae'r holl ymgeiswyr aflwyddiannus wedi cael cynnig adborth ar eu cais.
Bydd pob un o'r pum Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd yn mynd i'r afael â blaenoriaeth benodol dros dair blynedd i gefnogi agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru a rhoi llais i blant. Roedd y broses asesu a dyfarnu yn pwysleisio pa mor bwysig yw ansawdd y gwasanaeth a'r canlyniadau rydym yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflawni. Dyma'r prosiectau a fu'n llwyddiannus:
Grant gofal plant
Mae consortiwm gofal plant newydd, CWLWM, dan arweiniad Mudiad Ysgolion Meithrin wedi cael £4,324,396 i ddatblygu gofal plant hyblyg a chyfleoedd chwarae sy’n diwallu anghenion teuluoedd. Mae’r consortiwm hefyd yn cynnwys 4 sefydliad gofal plant cenedlaethol arall Cymru (Clybiau Plant Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, Cymdeithasol Broffesiynol Gofal Plant a Chymdeithas Darparwyr Blynyddoedd Cynnar a Chyn-ysgol Cymru). Bydd y grant yn cyllido amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau gan gynnwys lleoedd gofal plant, hyfforddiant ac ymchwil i faterion gofal plant a chwarae.
Grant chwarae
Dyfarnwyd £1,410,028 i Groundwork Cymru gynyddu hygyrchedd ac ansawdd cyfleoedd chwarae awyr agored i blant mewn ardaloedd difreintiedig. Disgwylir y bydd dros 11,500 o blant yn cymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae’r rhaglen, a gaiff eu cynnal gyda'r sefydliad partner, SNAP Cymru.
Grant Cefnogi Teuluoedd
Dyfarnwyd £1,532,391 i’r prosiect Teuluoedd Gwybodus (Informed Families) a gynhelir gan ProMo Cymru i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog ar-lein i deuluoedd. Bydd y gwasanaeth hwn yn ychwanegu at amrywiaeth o wasanaethau a gynigir eisoes drwy Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Caiff y prosiect hwn ei ddarparu gyda’n partneriaid, Gweithredu dros Blant a Diverse Cymru.
Grant ymgysylltu
Dyfarnwyd £882,000 i Brosiect Ymgysylltu Teuluoedd trwy Ddulliau Adferol, Tros Gynnal Plant, er mwyn darparu hyfforddiant ar ymyrryd a helpu teuluoedd mewn anhawster. Bydd dros 550 o rieni ac ymarferwyr yn cymryd rhan yn y prosiectau hyfforddi.
Grant Datblygu Polisïau a Strategaethau
Rhoddwyd £1,874,527 i sefydliad Plant yng Nghymru, sef corff sy'n cael ei barchu ac sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, i greu canolfan ragoriaeth dros hawliau plant. Bydd gwaith y ganolfan yn cynnwys sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arno, codi ymwybyddiaeth, sefydlu a hyrwyddo’r arferion gorau a rhoi cyngor seiliedig ar dystiolaeth am hawliau plant. Tros Gynnal Plant a Voices from Care Cymru fydd y partneriaid ar gyfer cyflawni'r gwaith hwn. Rydym yn disgwyl i sefydliad Plant yng Nghymru gadw mewn cysylltiad â’r holl bartïon perthnasol, gan gynnwys Comisiwn y Cynulliad, i sicrhau bod lleisiau plant Cymru yn cael eu clywed yn glir.