Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Fel rhan o Gytundeb Cyllideb 2013-14 (sy’n cynnwys y blynyddoedd ariannol 2013-14 a 2014-15), cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu arian buddsoddi ychwanegol o £40 miliwn ar gyfer rhaglen brentisiaethau Cymru. Mae cryn gynnydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol gyntaf a, hyd yn hyn, cyflawnwyd mwy na’r disgwyl mewn llawer achos.
Ymrwymwyd i gynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael ar bob lefel, gyda ffocws penodol ar ehangu nifer y fframweithiau Prentisiaethau Uwch yng Nghymru. Datblygwyd y Rhaglen Recriwtiaid Newydd i annog cyflogwyr i dderbyn prentisiaid ychwanegol, a lansiwyd y Rhaglen Busnesau Bach a Micro-Fusnesau, gan gynnig taliad untro i Fusnesau Bach a Micro-Fusnesau i helpu gyda chost recriwtio. Mae prentisiaethau ym meysydd cydraddoldeb, y Gymraeg a STEM hefyd yn cael eu hystyried drwy wahanol weithgareddau prosiectau.
Mae ein rhwydwaith o Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith wedi gwneud cynnydd gwych o ran Prentisiaethau Uwch, ac erbyn hyn mae mwy o fframweithiau Prentisiaethau Uwch ar gael yng Nghymru nag a fu erioed. Yn ogystal â llwyddiannau ar Lefel 4 ac uwch, mae’n glir bod y cyllid ychwanegol yn helpu i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ledled Cymru gael lle ar Lefel 2 a Lefel 3.
Ym mis Ebrill 2013, cynyddwyd lefel y cymhorthdal cyflogau sydd ar gael dan y Rhaglen Recriwtiaid Newydd i uchafswm o £100 am y 26 wythnos gyntaf a £50 am y 26 wythnos wedyn (yn hytrach na chyfradd o £50 am 52 wythnos). Yn ystod Tachwedd 2013, rhagorwyd ar ein targed blynyddol ar gyfer y rhaglen. Mae’n glir, felly, bod y cymhorthdal uwch o £100 yr wythnos am 26 wythnos wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith cyflogwyr.
Fodd bynnag, o ystyried lefel y galw, ac er mwyn parhau i helpu cyflogwyr i recriwtio prentisiaid ychwanegol, rydym wedi ailsefydlu ein lefel cymhorthdal flaenorol (£50 yr wythnos am 52 wythnos) ers 1 Ionawr 2014. Cedwir y targed blynyddol o 2,000 o leoedd. Credwn y bydd y gyfradd hon nid yn unig yn parhau i ysgogi’r galw am leoedd i brentisiaid, ond hefyd yn tynnu sylw at y cyfrifoldeb yr hoffem i gyflogwyr a Llywodraeth Cymru ei ysgwyddo. Heb os nac onibai, annog a helpu cyflogwyr i’w helpu eu hunain, yn hytrach na dibynnu ar lefelau cymhorthdal uchel, yw’r peth cyfrifol i’w wneud, a bydd yn gofalu bod busnesau Cymru yn creu sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Yn olaf, yn ogystal â llwyddiannau eithriadol, amlwg y buddsoddiad ychwanegol hwn, rwyf wrth fy modd yn gweld sut mae’r farchnad wedi ymateb mewn ffordd mor gadarnhaol i’r ehangu ar y ddarpariaeth i brentisiaid yng Nghymru. Drwy gydweithrediad y Llywodraeth, darparwyr hyfforddiant a’r sector preifat, mae pobl ifanc yng Ngymru yn meithrin y sgiliau priodol i allu cyfrannu at y broses o ailadeiladu economi Cymru.