Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Yn ddiweddar, rhoddais ddatganiad ar y cynnydd arbennig sy’n cael ei wneud gan Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru newydd yn dilyn adolygiad Mathias. Yn y datganiad hwnnw, nodais fod Llywodraeth Cymru yn y broses o recriwtio Prif Weithredwr parhaol ar y Comisiwn yn dilyn cyfnod o Ysgrifenyddion dros dro.
Gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi ystyried argymhelliad panel dewis ymgeiswyr a sefydlwyd i ddewis Prif Weithredwr y Comisiwn. Ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Comisiwn, gallaf gytuno ag argymhelliad y panel ac rwyf wedi penodi Steve Halsall yn Brif Weithredwr y Comisiwn.
Hyderaf y bydd profiad Mr Halsall yn hynod werthfawr wrth i’r Comisiwn gyflawni ei waith o dan y fframwaith cyfreithiol newydd a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.