Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysiad mewn perthynas â Biliau Seneddol y DU.
Cyflwynwyd y Bil Seilwaith i Dŷ’r Arglwyddi ar 5 Mehefin 2014. Ers hynny, mae llawer o welliannau wedi’u gwneud i’r Bil. Cafodd y gwelliant y mae’r datganiad hwn yn ymdrin ag ef ei gyflwyno gan y Farwnes Kramer i gymal 26 y Bil yng nghyfnod adrodd y Bil yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 29 Hydref 2014 ac fe’i cyhoeddwyd ar wefan Senedd San Steffan ar 30 Hydref, yn y Gwelliannau i’w cynnig yn y cyfnod adrodd. Cafodd ei ymgorffori o fewn cymal 31 y Bil fel y’i diwygiwyd yn y cyfnod adrodd. Mae’r gwelliant yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau adeiladu ar gyfer mesurau i leihau carbon oddi ar safle – sef mesurau y gall adeiladwyr eu gwneud, nad ydynt yn rhan o’r adeilad ei hun, i wrthbwyso allyriadau carbon yr adeilad. Bydd y gwelliant yn rhoi swyddogaethau i Weinidogion Cymru.
Mae’r Bil Seilwaith yn darparu ar gyfer cynigion Llywodraeth y DU i ariannu, cynllunio, rheoli a chynnal seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’r Bil yn cynnwys ystod eang o fesurau. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan amcanion ei bolisi ar gyfer y Bil, sef: hybu buddsoddi mewn seilwaith trwy ddarparu fframweithiau sy’n caniatáu ariannu tymor hir sefydlog, sbarduno arbedion maint er mwyn cael mwy am ein harian, osgoi pwysau gweinyddol diangen a chreu’r amodau iawn ar gyfer twf economaidd cynaliadwy.
Mae sicrhau gostyngiadau sylweddol a chost effeithiol yn allyriadau carbon adeiladau yn rhan hanfodol o ymdrech Llywodraeth Cymru i leihau nwyon tŷ gwydr. Llynedd, y sector preswyl oedd yn gyfrifol am ryw chwarter o’r holl allyriannau, felly bydd gweithredu i leihau allyriannau o adeiladau hen a newydd yn hanfodol wrth newid i economi carbon isel. Gallai mwy o adeiladau rhad-ar-ynni olygu hefyd biliau ynni is i drigolion.
Ceir pwerau yn Neddf Adeiladau 1984 i wneud rheoliadau adeiladu. Mae’r safonau perfformiad ynni ar gyfer cartrefi wedi’u gosod allan yn Rheoliadau Adeiladu 2010. Â siarad yn fras felly, mae’r pwerau yn Neddf Adeiladau 1984 i wneud rheoliadau adeiladu yn dibynnu ar yr adeilad ei hun a’u bod felly yn annigonol i wneud rheoliadau adeiladau i ymdrin â mesurau oddi ar y safle i leihau carbon. Mae’r gwelliant yn ychwanegu at y pwerau yn Neddf Adeiladau 1984 er mwyn gwneud rheoliadau adeiladau sy’n ymdrin â mesurau oddi ar y safle i leihau carbon. Mae’r gwelliant yn creu’r fframwaith ar gyfer mesurau oddi ar y safle i leihau carbon ac ar gyfer eu gweinyddu. Mae’r gwelliant hefyd yn rhoi mantais weinyddol i Weinidogion Cymru trwy roi’r hyblygrwydd iddynt allu gweinyddu eu cofrestr neu gronfa lleihau carbon eu hunain ac i ariannu neu i ddefnyddio cofrestr a chronfa sy’n cael eu gweinyddu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Nid yw’r gwelliant o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’r pwerau newydd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau adeiladu ar gyfer mesurau oddi ar y safle i leihau carbon yn golygu bod ganddynt y pŵer i’w rheoleiddio a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael craffu arnynt. Byddwn yn ymgynghori ar fesurau oddi ar y safle i leihau carbon yng Nghymru cyn arfer y pwerau newydd i wneud rheoliadau adeiladu. Rwyf felly wedi cytuno bod Llywodraeth y DU yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau adeiladu ar gyfer mesurau lleddfu carbon oddi ar y safle yn y Bil Seilwaith.
Ystyrir ei bod yn briodol bod y darpariaethau hyn yn cael eu gwneud trwy’r Bil Seilwaith gan nad oes modd gwneud y gwelliannau trwy ddeddf Cynulliad.