John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Yn y cyfarfod llawn ar 18 Chwefror, cyhoeddais fy mod yn gofyn i Cadw arwain y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli a fyddai'n mynd i'r afael â rhai o'r heriau a wynebir gan fannau addoli hanesyddol, ac yn rhoi arweiniad i'r rheini sy'n gyfrifol amdanynt ar sut i gynllunio dyfodol cynaliadwy ar gyfer adeiladau gwerthfawr.
Mae Cadw bellach wedi cwblhau'r gwaith cwmpasu cychwynnol ar gyfer y cynllun hwn. Canolbwyntiodd y gwaith cwmpasu ar adolygu’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a’r ymwybyddiaeth ohono, a hefyd ar y cymorth presennol ar gyfer cadwraeth a'r gweithgarwch cyfredol i ymgysylltu â'r cyhoedd. O ganlyniad, rwyf bellach yn gallu rhoi mwy o fanylion am y canfyddiadau cychwynnol ynghyd â crynodeb o sut fydd y cynllun gweithredu yn cael ei datblygu o dan y tri phennawd yna.
Gwybodaeth
Mae angen sylfaen wybodaeth hygyrch i sicrhau dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o fannau addoli ac i gefnogi arferion curadurol da a phenderfyniadau cadarn mewn perthynas â rheoli datblygiadau. Mae gwybodaeth sylweddol eisoes ar gael, er enghraifft yn y disgrifiadau ar y rhestr statudol, yng nghronfa ddata'r Comisiwn Brenhinol o gapeli Cymru, ac yn y cofnodion a gedwir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru am yr amgylchedd hanesyddol rhanbarthol. Fodd bynnag, mae adolygiad cychwynnol o'r wybodaeth hon wedi dangos bod ymwybyddiaeth o'r adnoddau gwybodaeth presennol yn amrywio ac bod rhai wybodaeth bresennol yn canolbwyntio yn ormod ar asedau unigol. Fe fydd y cynllun gweithredu felly yn ganolbwyntio ar gwelliannau i ffynonellau gwybodaeth, cyfosod gwybodaeth a datblygu pecyn cymorth i gefnogi adnabyddiaeth o werth ac arwyddocâd ein hasedau treftadaeth.
Cadwraeth
Diben cadwraeth yw gofalu am adeiladau a rheoli newid er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar eu cyfer. Mae cadw adeilad i fynd yn gofyn am waith cynnal a chadw, gwaith atgyweirio, cyllideb weithredu, mynediad at weithwyr medrus a chymuned o gefnogaeth. Efallai y bydd angen newid neu addasu adeiladau hefyd, yn enwedig os bwriedir eu defnyddio at ddibenion ychwanegol. I gefnogi’r broses fe fydd y cynllun gweithredu yn cynnwys datganiad ar Egwyddorion Cadwraeth wedi'u teilwra i fannau addoli, fe fydd prosiectau enghreifftiol ar yr uchod yn cael ei gyhoeddi ac fyddwn yn hyrwyddo rhannu arfer da, syniadau a phroblemau a chyngor ar draws yr enwadau.
Ymgysylltu â'r cyhoedd
Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol i gynnal mannau addoli hanesyddol yng Nghymru. Felly, mae codi ymwybyddiaeth o'u gwerth ac annog pobl i helpu i'w gwarchod yn flaenoriaethau allweddol. Mae llawer o waith yn cael ei wneud eisoes ar dwristiaeth cred, sy'n gallu dod â manteision sylweddol i gymunedau lleol a'r economi ehangach. Mae'r dull gweithredu Cymru gyfan ar gyfer dehongli a arweinir gan Cadw yn cynnig adnodd pwysig ar gyfer datblygiad twristiaeth cred.
Mae cynnwys cymunedau lleol yn rhan bwysig o dwristiaeth cred llwyddiannus, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cadwraeth: bydd gwarchod, cynnal a chadw a chynnal adeiladau ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar gymunedau cryf o gefnogaeth. Fe fydd y cynllun gweithredu yn darparu fforwm a chefnogaeth ar gyfer hyrwyddo twristiaeth cred, y Cynllun Dehongli Treftadaeth i Gymru ac ymgysylltu â chymunedau.
Camau nesaf
Bydd fy swyddogion yn Cadw yn mynd ati nawr i ddatblygu cynllun gweithredu manwl mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Bydd parhau i ymgysylltu â'n partneriaid allweddol wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu yn bwysig i'w lwyddiant, fel bod syniadau a safbwyntiau newydd yn gallu cael eu rhannu a bod rhanddeiliaid yn teimlo eu bod rhan o'r broses. Byddaf yn cyflwyno’r diweddaraf ar hynt y gwaith hwn yn yr hydref.