Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cofio i mi nodi, tua diwedd y llynedd, fy mod yn bwriadu comisiynu adolygiad o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn ymateb i bryderon a chwynion gan gleifion a defnyddwyr. Rwy'n ysgrifennu nawr i roi'r diweddaraf i chi am y trefniadau.

Ym mis Ebrill 2011, cyflwynwyd trefniadau newydd ar gyfer ymdrin â phryderon: Gweithio i Wella. Mae'r egwyddorion cyffredinol a amlinellir yn Gweithio i Wella yn cyd-fynd yn agos ag argymhellion Robert Francis yn dilyn Ymchwiliad Canol Swydd Stafford. Mae nawr yn bryd adolygu pa mor dda y mae'n trefniadau yn gweithio yng Nghymru ac adolygu ar y cynnydd hyd yn hyn.  

Rwy'n arbennig o awyddus ein bod ni'n cymryd y cyfle i ddysgu o arfer da mewn sectorau eraill. Rwy'n falch felly o gyhoeddi bod Mr Keith Evans, a oedd cyn ei ymddeoliad diweddar yn Brif Weithredwr Panasonic y DU ac Iwerddon, wedi cytuno i arwain ar y gwaith hwn. Mae gan Mr Evans gefndir cryf o arwain busnes sy'n rhoi gofal da i gwsmeriaid yn ganolog i'w lwyddiant parhaus. Caiff ei gefnogi gan Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd yr Adolygiad yn cychwyn ar unwaith ac ar hyn o bryd disgwylir iddo wneud ei waith ymchwil dros gyfnod o dri mis.

Mae cylch gorchwyl llawn yr adolygiad i'w weld yn atodiad 1.

Atodiad 1

Adolygiad o Ymdrin â Phryderon (Cwynion) yn GIG Cymru

Cylch Gorchwyl

Cefndir

Ym mis Ebrill 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru drefniadau newydd ar gyfer ymdrin â phryderon: Gweithio i Wella. Yn sail i'r trefniadau hyn roedd set gynhwysfawr o reoliadau a chanllawiau atodol. Roeddent yn cyflwyno un ffordd fwy integredig o dynnu ynghyd y broses o ymdrin â chwynion, achosion a hawliadau, ar sail yr egwyddor o 'ymchwilio unwaith ac ymchwilio'n dda'. Y nod oedd ei gwneud yn haws i gleifion a gofalwyr fynegi pryderon; cael cymorth a chefnogaeth yn ystod o broses; cael sylw mewn ffordd agored a gonest; ac i gyrff ddangos eu bod yn dysgu pan aiff pethau o'i le neu lle mae angen gwella safonau. Mae'r egwyddorion cyffredinol a amlinellir yn Gweithio i Wella yn cyd-fynd yn agos ag argymhellion Robert Francis yn dilyn Ymchwiliad Canol Swydd Stafford, yn ogystal â'r adroddiad mwy diweddar gan Ann Clwyd AS a'r Athro Tricia Hart i'r broses gwynion yn y GIG yn Lloegr.

Mae'r themâu sy'n codi'n rheolaidd gan gleifion sy'n anfodlon â'r broses, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys:

  • Teimlo bod neb yn gwrando arnynt
  • Prydlondeb o ran adrodd a hysbys achwynwyr am unrhyw oedi
  • Diffyg ymgysylltiad clinigol wrth adolygu pryderon – bernir bod hon yn broses i reolwyr
  • Y broses ddim yn ddigon agored a gonest
  • Prin yw'r dystiolaeth o ddysgu
  • Diffyg atebolrwydd pan fydd pethau'n mynd o'i le yn ddifrifol.

Yn erbyn y cefndir hwn mae'n briodol pwyso a mesur ac adolygu'r trefniadau presennol i:

  1. Adolygu'r trefniadau presennol i bennu beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen gwella. Mae angen ystyried hyn o safbwynt: cleifion; eu teuluoedd a'u gofalwyr; staff; sefydliadau'r GIG; a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â'r broses, gan gynnwys Cynghorau Iechyd Cymuned ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Bydd angen i hyn gynnwys ymdrin â phryderon mewn gofal sylfaenol a chymuned, yn ogystal ag ysbytai.
  2. Ystyried a yw'r broses yn ddigon agored, yn ddigon atebol a bod digon o arweiniad clir.
  3. Gweld a all y GIG yng Nghymru ddysgu gan ddiwydiannau gwasanaethu eraill.
  4. Ystyried yr ethos gwasanaethau 'cleifion' diwylliannol ehangach a sut caiff staff eu cefnogi i ymdrin â phob agwedd ar adborth cleifion a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon.
  5. Gweld sut gall y GIG ddangos ei fod yn dysgu o adborth cleifion a sut mae'n rhannu'r dysgu.

Dylai'r adolygiad lunio adroddiad yn gwneud argymhellion ymarferol ar gyfer gwelliannau yn y meysydd hyn yn y tymor byr a'r tymor hir.