Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Ar ôl i’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014, lansiais ymgynghoriad 12 wythnos ar 7 Awst 2014 er mwyn ceisio barn pobl Cymru ar gyfansoddiad a swyddogaethau'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru a gynigir o dan y Ddeddf.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 30 Hydref 2014 ac fe gafwyd 23 o ymatebion gan amrywiol sefydliadau ac unigolion sy'n cynrychioli gwahanol fuddiannau yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
Bu ymateb y diwydiant i'r cynigion ar gyfer Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn un cadarnhaol ac adeiladol, ac mae nifer o’r rhai a ymatebodd wedi awgrymu ffyrdd arloesol y gallai'r Panel weithredu ac amrywiaeth o faterion y gallai'r Panel eu hystyried.
Bydd swyddogaeth bwysig gan y Panel wrth gwrs yn y gwaith o ddatblygu fframwaith teg ar gyfer cyflogau yn y sector amaethyddol. Fodd bynnag, mae swyddogaeth ehangach y Panel fel corff cynghori hefyd wedi'i chroesawu gan y rhai a ymatebodd - yn arbennig y rhan y gallai’r Panel ei chwarae yn cynghori ar sgiliau, datblygu gyrfa a phroffesiynoli busnesau yn y sector. Nododd yr ymatebwyr bod cyfle yma i’r Panel gydweithio’n agos gyda sefydliadau addysg uwch a hyfforddiant tir.
Cynigiwyd amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n cynrychioli pob rhan o'r sector amaethyddol yng Nghymru i fod yn aelodau o'r Panel. Roedd y rhai a ymatebodd hefyd yn awyddus i bwysleisio y dylai’r Panel gael cynrychiolaeth deg a chytbwys. Y farn gyffredinol yw y dylai aelodaeth y Panel gynrychioli’r prif is-sectorau a geir o fewn y diwydiant gan feddu hefyd ar y sgiliau, y profiad a'r arbenigedd sydd eu hangen er mwyn cyflawni ei amcanion.
Bydd aelodau'r Panel yn cael eu dewis drwy'r broses penodiadau cyhoeddus ac mewn ymgynghoriad â phartïon â buddiant, gan gynnwys undebau sy'n cynrychioli cyflogwyr a gweithwyr. Gan ystyried cylch gwaith enfawr y Panel a’r amser sy’n ofynnol ar gyfer ymgynghoriad cywir ac effeithiol, gobeithiwn ddewis aelodau’r Panel a gosod y fframwaith erbyn diwedd 2015.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb a roddodd o'u hamser i ystyried ac ymateb i gynigion yr ymgynghoriad ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn creu'r corff hanesyddol hwn a fydd yn helpu i ddatblygu proffesiynoldeb, effeithlonrwydd a ffyniant ymhellach yn y sector amaethyddol yng Nghymru.
Yn y cyfamser, rwyf hefyd wedi penderfynu y bydd angen Gorchymyn Cyflogau Interim. Mae’r broses o greu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth eisoes wedi cychwyn, ond nes i aelodau'r Panel ddechrau ar eu gwaith, bydd gorchymyn cyflogau interim yn cywiro'r gwahaniaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn cyflogau amaethyddol, gan ddiogelu’r gweithwyr isaf eu cyflog a chynnal yr ysgogiad ar gyfer datblygu sgiliau. Bydd argymhellion ynghylch Gorchymyn Cyflogau Interim yn cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad yn gynnar yn 2015.
Bydd y camau hyn yn sicrhau ysgogiad teg i’r rhai sy’n gweithio ar ffermydd Cymru, a hefyd yn ein helpu i osod amodau ffafriol a fydd o gymorth wrth symud tuag at ddyfodol mwy effeithlon a llewyrchus i’r diwydiant yn gyfan.