Lesley Griffiths – Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Rwyf yn falch o fedru dweud wrth Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi cyflwyno Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).
Mae tai yn cael dylanwad pwysig ar iechyd, ar obeithion o ran addysg ac ar gyflogadwyedd, ac mae hefyd yn faes sy’n effeithio ar y cymunedau lle’r ydym yn byw. Mae system dai effeithiol yn gwbl hanfodol er mwyn i bobl fedru diwallu eu hanghenion o ran tai a gwella’u bywydau. Gwelwyd cynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn nifer y bobl sy’n rhentu’u cartrefi. Erbyn hyn, mae un o bob tri yng Nghymru (dros 1 filiwn o bobl i gyd) yn byw mewn cartref rhent a gwelwyd cynnydd penodol yn y nifer sy'n rhentu oddi wrth landlord preifat.
Mae rhentu eu cartref yn gweithio’n dda i’r rhan fwyaf o bobl. Er hynny, mae rhai yn wynebu problemau difrifol, sy’n gallu bod yn rhai anodd eu datrys. Mae llawer o’r problemau, a hefyd yr anawsterau a geir wrth geisio’u goresgyn, yn codi oherwydd y trefniadau cyfreithiol cymhleth ar gyfer tai rhent. Mae gan bobl sy'n rhentu oddi wrth Gymdeithas Dai hawliau cyfreithiol gwahanol iawn i’r rheini sy’n rhentu oddi wrth Awdurdod Lleol. Heblaw hynny, mae bron yn sicr y bydd tenant preifat sy’n symud i mewn i gartref arall sy’n eiddo i landlord gwahanol, yn cael contract ysgrifenedig cwbl wahanol. Nid yw rhai landlordiaid hyd yn oed yn rhoi copi ysgrifenedig o’r contract i’r tenant, gan ddibynnu ar gontract llafar yn lle hynny. Mae hynny’n golygu ei bod yn anodd iawn bod yn sicr am delerau’r contract, ac mae’n golygu hefyd ei bod hyd yn oed yn anos datrys unrhyw anghydfod.
Mae dau reswm pam mae’r gyfraith ar rentu wedi mynd yn gymhleth. Yn gyntaf, mae nifer o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth ar rentu ac yn ail, mae yna hefyd lawer iawn o gyfraith gyffredin, â pheth ohoni’n mynd yn ôl ganrifoedd.
Mae’n hen bryd bellach inni wneud y gyfraith ar rentu cartref yn gliriach ac, ar yr un pryd, mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a’r problemau eraill sy’n codi oherwydd y trefniadau presennol. Bydd Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn sefydlu un fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhentu cartref. Bydd hynny’n arwain at lawer mwy o eglurder a chysondeb o ran hawliau’r bobl hynny sy’n rhentu eu cartrefi, pwy bynnag y bo’r landlord. Yn lle’r llu o fathau gwahanol o gontractau sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd dau brif fath o gontract a bydd yn ofynnol i bob landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract hwnnw.
Yn ogystal â sicrhau mwy o eglurder a chysondeb, bydd y Bil hefyd yn helpu llawer o bobl sy’n eu cael eu hunain mewn amgylchiadau anodd iawn. Er enghraifft, bydd yn golygu y bydd modd troi’r rheini sy’n cam-drin yn ddomestig allan o’u cartref heb unrhyw risg y bydd y dioddefwyr hefyd yn mynd yn ddigartref. Bydd o gymorth hefyd o ran mynd i’r afael yn fwy effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sicrhau bod cartrefi’n ffit i bobl fyw ynddynt. Hefyd, bydd mwy o hyblygrwydd yn annog landlordiaid i rentu i bobl y maent, o bosibl, yn eu hystyried yn rhai risg uwch, ac yn ei gwneud yn haws i rywun ddod o hyd i rywle i’w rentu yn y tymor byr, er enghraifft, wrth symud i ardal at ddibenion gwaith neu addysg.
Bydd y Bil yn helpu hefyd i ddiogelu meddianwyr rhag cael eu troi allan am fod y landlord am ddial arnynt, a bydd yn golygu y bydd modd i bobl ifanc rentu. Bydd hefyd yn galluogi landlordiaid i fynd ati’n gynt nag ar hyn o bryd i adfeddu ac ailosod eiddo y cefnwyd arno. Mae gwell trefniadau ar gyfer contractau cyd-feddiannaeth yn y Bil, a bydd y trefniadau hynny’n golygu na fydd y contract bellach yn dod i ben i bob un o’r meddianwyr os bydd un ohonynt yn unig am ddod â’i gontract i ben. Bydd hefyd yn rhoi gwell hawl i olynu i gontract meddiannaeth pan fydd deiliad presennol y contract yn marw. Bydd y Bil hefyd yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer llety â chymorth, sydd â rôl mor bwysig i’w chwarae o ran darparu llety ar gyfer pobl agored i niwed.
Mae’r Bil yn seiliedig ar raglen waith pum mlynedd gan Gomisiwn y Gyfraith. Yr argymhellion yn ei adroddiad Rhentu Cartrefi oedd sail y Papur Gwyn “Rhentu Cartrefi – Ffordd Well i Gymru”, a gyhoeddwyd yn 2013 ac a gafodd gefnogaeth gref iawn. Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r Papur Gwyn ac sydd wedi cyfrannu hyd yma at y gwaith o ddatblygu’r Bil.