Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Heddiw cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae amgylchedd hanesyddol cyfoethog yn ein gwlad sy’n cwmpasusafleoedd archaeolegol, henebion ac adeiladau hanesyddol, yn ogystal â’r tirluna’r trefio’u cwmpas. Mae wedi llywio ein hunaniaeth genedlaethol ac mae’n rhan o’r hyn sy’n gwneud ein hardaloedd yn unigryw ac sy’n ein gwneud yn falch o’n cymunedau. Mae hefyd yn dod â chryn fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bobl Cymru. Mae’n hollbwysig, felly, bod gyda ni systemau clir, effeithiol a hyblyg owarchod a chynnal yr amgylchedd hanesyddol.
Nod Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yw gwarchod a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru fel y gallwn niheddiw a chenedlaethau’r dyfodolbarhau i fwynhau ei fanteision, ei werthfawrogi a dysgu oddi wrtho.
Er bod y strwythurau sydd gyda ni eisoes iddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru yn gadarn yn y bôn, yn sgilyr ymgynghoriad cyhoeddus a’r ymgysylltu eang â rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r Bil,daeth nifer o feysydd i’r amlwg lle mae angen newid yddeddfwriaeth er mwyn gwarchod a rheoli ein hasedau yn well. Bydd y Bil yn gwneud gwelliannau pwysig i’r ddeddfwriaeth bresennol ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig ac yn cyflwyno rhai darpariaethau newydd ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn fwy cyffredinol.
O ran henebion cofrestredig, bydd y Bil yn sicrhau bod pob safle archaeolegol sydd o bwys cenedlaethol yng Nghymru yn cael ei warchod, ac yncreu mesurau newydd a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd camau effeithiol ar unwaith i atal difrodi henebion cofrestredig.Mae yna gynigion eraill hefyd i’wgwneud yn haws cymryd camau yn erbyn y rheini sydd wedi difrodi neu ddinistrio henebion.
O ran adeiladau rhestredig, bydd y Bil yn galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym os yw adeilad o dan fygythiad yn sgil gwaith nas awdurdodwyd ac ynrhoi mwy o hyblygrwydd iddynt wrth ddelio ag adeiladau hanesyddol sy’n cael eu hesgeuluso.
Bydd perchnogion neu ddatblygwyr sy’n ystyried defnyddio adeiladau hanesyddol sydd heb eu rhestrumewn ffyrdd newydd cynaliadwyyn elwa ar gynigion y Bil i lacio’r amodau ar gyfer ceisiadau am dystysgrifau imiwnedd rhag rhestru.
Mae rhai o ddarpariaethau’r Bil yn berthnasol i henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Bydd sefydlu cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol ddod i drefniant rheoli gwirfoddol gydag awdurdodau sy’n cydsynio,a fydd yn ysgafnhau’rbeichiau gweinyddol i bawb ac yn hybu dull mwy cyson a chydlynol o reoli’r adeiladau neu’r henebion.
Caiffy strwythurau presennol ar gyfer dynodi asedau hanesyddol sydd o bwys cenedlaethol eu gwneudyn fwy agored a thryloyw yn sgil cyflwyno’r arfer o ymgynghori’n ffurfiol â pherchnogion a chreu mecanweithiau i adolygu penderfyniadau.
Caiff y broseso reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn ffordd gynaliadwy ei gwella drwyroi sail fwy sefydlog i gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth fanwl a chyngor ar yr amgylchedd hanesyddol i awdurdodau cynllunio lleol a’r cyhoedd.
Bydd y Bil yn creu cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol Cymru a fydd yn helpu gyda gwaith cadwraeth ar safleoedd cofrestredig ymhlith perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, cyrff statudol a phawb arall perthnasol.
Yn olaf, bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer panelannibynnol i roi cyngor ar bolisi a strategaeth yr amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol yng Nghymru.
Mae’r Bil hwn yn gam pwysig ymlaen i Gymru gan mai dyma’r ddeddfwriaeth gyntaf erioed i gael ei drafftio’n benodol ar gyfer amgylchedd hanesyddolCymru. Fodd bynnag, mae yna lawer o welliannau pwysig i’w gwneud i’r gwaith o warchod a rheoli’r amgylchedd hanesyddol na ellir eu cyflawni drwy ddeddfwriaeth yn unig. Yn ystod y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori a wnaed ymlaen llaw, roedd yna gonsenswscyffredinol y byddai’n hanfodol hefyd diwygio’rpolisi, y cyngor a’rcanllawiau mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol.
Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) felly wedi’i ddatblygu i fod yn sylfaen i gyfres o bolisi, cyngor a chanllawiau deddfwriaethola fydd yn creu’r systemau sydd eu hangen arGymru er mwyn gallurheoli’r amgylchedd hanesyddol mewnymateb i heriau’r unfed ganrif ar hugain. Mae yna raglen o gyhoeddiadau i ategu’r ddeddfwriaeth,a heddiw rwyf wedi cyhoeddi’r haen gyntaf o’r dogfennau drafft hynny ar wefan Cadw:
(http://cadw.llyw.cymru/historicenvironment/policy/historicenvironmentbill/guidancedocuments/?lang=cy):
- pennod 6 ddiwygiedig, ‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’, ynPolisi Cynllunio Cymru;
- Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol(cyngor cynllunio newydd);
- Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru;
- Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru;
- Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol sydd o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru; a
- Rheoli Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru(canllawiau statudol o dan ddarpariaethau’r Bil).
Drwy ddarparu’r dogfennau hyn nawr ar ffurf ddrafft, rwy’n gobeithio helpu Aelodau’r Cynulliad i weld y Bil fel elfen ganolog mewn pecyn integredig o fesurau i wella’r ffordd y caiff amgylchedd hanesyddol Cymru ei reoli’n gynaliadwy. Caiff ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ei gynnal ar y dogfennau hyn unwaith y cytunir yn derfynolar ddarpariaethau’r Bil.
Drwy Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a mesurau cysylltiedig, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu amgylchedd hanesyddol unigryw Cymru ar gyfer y cenedlaethau i ddod a hyrwyddo’r arfer o’i reoli’n gynaliadwy fel y gall barhau i gyfrannu i les ein dinasyddion.