Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Polisi presennol Llywodraeth Cymru yw nad yw'n cefnogi nac ychwaith yn gwrthwynebu polisi gwaredu daearegol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwaredu GUA. Ac nid yw Llywodraeth Cymru ychwaith yn cefnogi unrhyw opsiwn arall i waredu GUA ar hyn o bryd.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Ionawr. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall sydd ar gael yn ofalus rwyf wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu polisi ar gyfer gwaredu GUA a gweddillion tanwydd yn ddaearegol os datgenir eu bod yn wastraff. Heddiw rwyf wedi cyhoeddi dogfen polisi, cyswllt a atodir i'r datganiad hwn, sy'n nodi polisi newydd Llywodraeth Cymru.
Mae'r ddogfen polisi hon yn nodi'n fanwl yr ystyriaethau, y cyfyngiadau a'r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu mabwysiadu polisi ar gyfer gwaredu daearegol. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried gofynion y Gyfarwyddeb Gweddillion Tanwydd a Gwastraff Ymbelydrol, yr angen am gysondeb rhwng ei pholisïau ar gefnogi gorsafoedd ynni niwclear newydd ar safleoedd sy'n bodoli eisoes a rheoli gwastraff ymbelydrol, a'r angen i gydnabod ein cyfrifoldeb i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol drwy roi polisi ar waith sy'n darparu ar gyfer gwaredu'r gwaddol presennol o wastraff ymbelydrol a'r gwastraff a gaiff ei gynhyrchu gan unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd.
Nid yw mabwysiadu'r polisi hwn yn golygu y caiff cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ei leoli, o reidrwydd, yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o raglen Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel sydd hefyd yn cynnwys Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n gryf y dull gwirfoddoli lle y byddai cymuned a allai gynnig lleoliad yn ceisio dechrau trafodaethau ynghylch cynnig lleoliad ar gyfer cyfleuster CGD. Gallai'r trafodaethau hyn bara mwy na degawd pan all cymuned a allai gynnig lleoliad dynnu'n ôl unrhyw bryd. Ers 2008, o dan bolisi presennol Llywodraeth Cymru, bu'n bosibl i gymuned yng Nghymru geisio dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai dim ond ar sail parodrwydd cymuned neu gymunedau i ystyried cynnig lleoliad ar gyfer CGD y gellir gweithredu gwaredu daearegol.
Yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau y caiff y polisi hwn ei ddatblygu'n dryloyw ac ystyried barn pobl Cymru, rwyf hefyd wedi cyhoeddi papur ymgynghori sy'n ceisio ymatebion ynghylch cynigion ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a allai wirfoddoli i gynnig lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol. Mae cyswllt i’r papur ymgynghori hwn yn isod.