Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ar 7 Hydref cyhoeddais fy mod wedi gofyn i'r Athro Andrew Davies ailgynnull Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru ymhen chwech mis er mwyn adolygu’r camau sydd wedi’u cymryd i roi ei argymhellion ar waith.
Rydw i wedi ailbenodi’r Athro Davies a phump o aelodau gwreiddiol y Comisiwn, sef:
- Y Fonesig Pauline Green, Llywydd y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol
- David Jenkins OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru.
- Robin Murray, Economegydd diwydiannol ac amgylcheddol
- Dr Ben Reynolds, Cyfarwyddwr Trilein
- Syr Paul Williams OBE, CStJ, DL, Cyn Brif Weithredwr GIG Cymru
Bydd y Comisiwn yn ailymgynnull ar 27 Chwefror. Disgwylir y bydd ei adroddiad ar gynnydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn yr haf.
Yn ogystal, ac ar y cyd â'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, rydw i wedi comisiynu gwaith i edrych ar sut y gallwn gefnogi awdurdodau lleol sy’n dymuno datblygu modelau cydweithredol a chydfuddiannol er mwyn cyflenwi gwasanaethau mewn meysydd penodol. Bydd y gwaith hwn yn dechrau edrych ar y cyfleoedd a nodir yn adroddiad y Comisiwn. Bydd hefyd yn adeiladu ar y themâu a nodwyd yn y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol.
Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n arwain y gwaith hwn. Keith Edwards, cyn Gyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, sy’n gyfrifol am y gwaith. Mae Keith yn dwyn ynghyd sylwadau rhanddeiliaid allweddol, yn pennu’r posibiliadau o ran gwasanaethau cydfuddiannol ac yn nodi unrhyw syniadau penodol ar gyfer symud y gwaith hwn ymlaen yn lleol. Bydd y canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ffurf adroddiad yn ddiweddarach eleni.