Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Ar 25 Medi 2014, cyhoeddais adolygiad annibynnol o bwrpasau a threfniadau llywodraethu tirweddau dynodedig Cymru, sef y tri Pharc Cenedlaethol a’r pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae dau gam i’r adolygiad. Bydd y cyntaf yn astudio’r dynodiadau eu hunain gan edrych ar eu pwrpas ac ar rinwedd creu un dynodiad ar gyfer holl dirweddau dynodedig Cymru, cyn ystyried y trefniadau llywodraethu cysylltiedig.
Pan lansiais yr Adolygiad, esboniais fy ymrwymiad i’r Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r ardaloedd hyn yn werthfawr, yn rhan annatod o’n hunaniaeth fel gwlad ac maen nhw’n cael eu cydnabod trwy’r byd fel rhan o deulu byd-eang o ardaloedd gwarchodedig. Rwy’n falch bod chwarter Cymru wedi’i ddynodi fel hyn. Maen nhw’n asedau y dylwn eu mawrygu a’u diogelu ond hefyd fanteisio arnyn nhw i daclo’r heriau amgylcheddol ac economaidd rydym yn eu hwynebu. Bydd eu cyfraniad at dwf gwyrdd yn fawr.
Rwyf am i’n tirweddau dynodedig ddod yn esiamplau i’r byd ar sut i fod yn gynaliadwy. Dylent fod yn dirweddau byw ag ynddynt gymunedau byrlymus a chadarn sy’n cynnig cyfleoedd mawr i hamddena yn yr awyr agored, gydag ecosystemau llewyrchus a bioamrywiaeth gyfoethog. O roi’r arweiniad priodol, mae ganddynt y potensial i fod yn ardaloedd lle gall atebion arloesol i her cynaliadwyedd mewn ardaloedd gwledig bregus gael eu cloriannu, eu deall a’u cyhoeddi.
Pwrpas yr Adolygiad yw casglu a dadansoddi tystiolaeth i gefnogi set gynhwysfawr o argymhellion a ddylai sicrhau bod gan ein tirweddau dynodedig y modd i wireddu’r uchelgais hwn wrth adeiladu ar eu bri a’u brand trwy’r byd.
Wrth inni yng Nghymru ddatblygu ein ffordd ein hunain o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n gysylltiedig â chynllunio, rheoleiddio defnydd tir a rheoli adnoddau naturiol, mae’n hanfodol peidio ag esgeuluso’r parciau cenedlaethol ac AHNE. Mae’n rhaid wrth eu diwygio i sicrhau eu bod yn ffynnu trwy barhau i’w hamddiffyn ond gan sicrhau hefyd bod pobl Cymru yn cael y gorau ohonyn nhw.
Mae’r Adolygiad wedi canolbwyntio hyd yn hyn ar ystyried a ddylem newid pwrpas a hunaniaeth y tirweddau dynodedig. Rhwng diwedd mis Medi a diwedd mis Tachwedd 2014, bu’r Panel yn holi nifer sydd â budd yn y maes gan gynnwys yr awdurdodau lleol, cynghorau cymuned ac CLlLC; undebau’r ffermwyr, Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Twristiaeth Cymru; Comisiynydd y Gymraeg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac RTPI Cymru. Cynhaliwyd wyth gweithdy (ger neu o fewn pob ardal ddynodedig) gydag aelodau’r cyhoedd. Yn olaf, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Peter Davies.
Mae’r Panel wedi gwneud chwe argymhelliad sy’n golygu pecyn bychan o ddiwygiadau i’r dynodiadau, gweler Atodiad 1. Wrth i sylfaen dystiolaeth y Panel dyfu, rwy’n disgwyl y bydd gofyn pwyso a mesur yr argymhellion hyn a’u newid.
Adroddiad Cam 1 fydd y sail ar gyfer symud i gam dau yr adolygiad, hynny yn unol â’r cylch gorchwyl gwreiddiol. Mae hyn yn cynnwys:
- Adolygiad o drefniadau llywodraethu a rheoli’r tirweddau dynodedig;
- Adolygu ac ystyried sut y byddai corff/cyrff llywodraethu yn hyrwyddo cydweithio a chydweithredu orau ond gan osgoi dyblygu gwaith; ac
- Adolygu ac ystyried y ffordd orau i unrhyw gorff llywodraethu yn y dyfodol wneud penderfyniadau’n fwy lleol a gwneud popeth yn fwy atebol i bobl leol.
Mae trefniadau llywodraethu gwahanol gan y ddau ddynodiad.
Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu awdurdodau annibynnol ar gyfer pob un o’r parciau cenedlaethol yng Nghymru, o dan arweiniad bwrdd y mae dau draean ohono’n gynghorwyr lleol a benodir gan yr awdurdodau lleol perthnasol, ac un traean wedi’u penodi gan Weinidogion Cymru. Pennir eu gwariant refeniw bob blwyddyn gan Weinidogion Cymru ac mae’r awdurdodau’n codi lefi ar yr awdurdodau lleol perthnasol ar gyfer y gyllideb weithredu. Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw awdurdodau cynllunio eu hardaloedd.
Goruchwylir yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gan Gyd-bwyllgor Gynghori (JAC), gydag unrhyw wasanaethau’n rhan o waith yr awdurdodau lleol perthnasol. Nid oes arian canolog. Mae’r CBG yn gorff y mae’n rhaid ymgynghori ag ef wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio lleol.
Edrychaf ymlaen at ail gam yr adolygiad ac at weithio gyda’r Parciau a’r AHNE i ddatblygu eu huchelgais a diogelu dyfodol iddynt sy’n adeiladu ar natur arbennig yr ardaloedd hyn. Byddaf yn ymateb i argymhellion y Panel pan ddaw’r adolygiad i ben.
Mae adroddiad cam un y Panel ar gael ar lein.
Caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Atodiad 1: Argymhellion o gam un yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru
Argymhelliad 1
Rydym yn argymell na ddylid cael un dynodiad.
Argymhelliad 2
Rydym yn argymell cael UN set o Ddibenion statudol ac un Ddyletswydd statudol gysylltiedig ar gyfer y ddau ddynodiad.
Argymhelliad 3
Rydym yn argymell newid enw “Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol” (AHNE) i “Tirweddau Cenedlaethol Cymru”
Argymhelliad 4
Rydym yn argymell sefydlu cyfundrefn enwi gyson a chadarn yn ogystal â strwythur, yn cynnwys: “Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol Cymru” “Parciau Cenedlaethol” a “Thirweddau Cenedlaethol” sy’n “Ddynodiadau Cyfwerth” Byddai gan y Dynodiadau Cyfwerth yr un Dibenion a Dyletswyddau Statudol
Argymhelliad 5
Rydym yn argymell y dylid cael TRI diben statudol cysylltiedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol.
Y rhain yw:
“Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal1,”
“Hybu lles ffisegol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal,”
“Hybu ffurfiau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol a datblygiad economaidd a chymunedol sy’n cefnogi treftadaeth ddiwylliannol yr ardal.”
Rydym yn argymell un Ddyletswydd Statudol newydd sy’n dileu’r rhagddodiadau gwan “rhoi sylw i” yn nyletswyddau cyfredol cyrff cyhoeddus perthnasol, a chyflwyno un ddyletswydd glir yn eu lle:
“Cyfrannu at gyflawni tri Diben y Tirweddau Dynodedig Cenedlaethol.