Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Penodais yr Athro Graham Donaldson ym mis Mawrth y llynedd i arwain adolygiad cynhwysfawr, eang ei gwmpas ac annibynnol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r trefniadau asesu yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Athro Donaldson wedi casglu tystiolaeth ryngwladol ynghyd ag adborth gan bobl o bob rhan o Gymru fel sylfaen i'w adroddiad. Deallaf ei fod wedi cael ymateb gwych i'w gais am dystiolaeth, a bod dros 700 o ymatebion wedi'u cyflwyno. Cafwyd ymatebion gan blant a phobl ifanc, ymarferwyr, rhieni/gofalwyr, sefydliadau a busnesau.
Caiff adroddiad Yr Athro Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus, ei gyhoeddi heddiw a gallwch ei weld ar lein.
Mae adroddiad yr Athro Donaldson yn nodi gwendidau'r trefniadau presennol o safbwynt y cwricwlwm, sy'n gwricwlwm a luniwyd yn ôl ym 1988 cyn oes y We Fyd Eang a'r holl ddatblygiadau ym maes technoleg a globaleiddio sydd wedi cael effaith mor sylweddol ar y modd yr ydym yn byw ac yn gweithio heddiw. Noda ei adroddiad yn glir fod y cwricwlwm bellach wedi cael ei orlwytho, ei gymhlethu a bod rhannau ohono wedi dyddio. Mae'r angen am newid yn gwbl glir ond mae'r Athro Donaldson hefyd wedi canfod cryfderau o fewn system addysg Cymru, gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen a'r ymrwymiad i'r Gymraeg ac i ddiwylliant Cymru. Cred fod modd adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn.Mae argymhellion yr adroddiad yn radical ac yn eang eu cwmpas a'u nod yw creu gweledigaeth o berson ifanc llwyddiannus sy’n cwblhau ei addysg statudol. Mae'n cynnig y dylai'r weledigaeth hon o berson ifanc llwyddiannus gael ei mynegi ar ffurf dibenion cwricwlwm a fyddai'n sail i bopeth a wnawn mewn ysgolion. Cred yn ogystal y dylai trefniadau asesu ac atebolrwydd ganolbwyntio'n benodol ar farnu a yw'r dibenion hyn yn cael eu cyflawni. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r holl gwricwlwm ysgol gael ei gynllunio mewn modd sy'n cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc i ddatblygu'n:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd;
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Pwysleisia'r Athro Donaldson ei bod hi'n hollbwysig sicrhau bod ymarferwyr addysgol a'r gymuned ehangach yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gyson at y gwaith o ffurfio cwricwlwm newydd ac rwyf yr un mor ymrwymedig i sicrhau mai ffrwyth gwaith pob un ohonom fydd y cwricwlwm hwn. Mae'r Athro Donaldson wedi cyflwyno gweledigaeth gyffrous, uchelgeisiol a grymus ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru. Mae graddfa a chwmpas y newidiadau a ragwelir yn sylfaenol a hefyd yn eang. Yn sicr bydd yn cymryd amser i greu a chyflawni ein cwricwlwm newydd. Bydd y Fargen Newydd, a fydd yn galluogi'r gweithlu i gynllunio, datblygu ac adnewyddu eu harferion i fodloni cyfleoedd a heriau'r dyfodol, ynghyd ag adolygiad yr Athro Furlong o Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, yn gwbl allweddol ar gyfer cyflwyno unrhyw gwricwlwm newydd yng Nghymru.
Wedi i'r Athro Donaldson gyhoeddi ei adolygiad, byddwn ni'n cynnal lansio'r 'Sgwrs Fawr' ynghylch y cwricwlwm. Rwy'n rhagweld y bydd y Sgwrs Fawr yn parhau dros gyfnod hir o amser, ond bydd y cyfnod cyntaf yn yr achos dros newid a natur y 4 diben cwricwlwm. Bydd cyfnod cyntaf y Sgwrs Fawr yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru a fydd yn ceisio holi barn y proffesiwn addysg a siarad â busnesau, rhieni, plant a phobl ifanc am argymhellion yr Athro Donaldson. Bydd manylion ynghylch y Sgwrs Fawr ar gael ar Dysgu Cymru, Dysg, Twitter a sianeli eraill maes o law. Byddwn hefyd yn llunio pecyn cyfathrebu a fydd yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer rhanddeiliaid ynghylch cyfrannu at y drafodaeth. Yn ogystal bydd rhaglen o weithgareddau a fydd yn cynnwys dadleuon yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau weminar a sesiynau wyneb-yn-wyneb gyda'r Athro Donaldson ei hun. Bydd cyfle hefyd i'r rheini na fydd yn gallu dod i un o'n sesiynau casglu gwybodaeth gyfrannu ar-lein.
Yn amodol ar ganlyniad cyfnod cyntaf y Sgwrs Fawr, bydd trafodaethau ynghylch y manylion yn cael eu cynnal yn ddiweddarach. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i'r proffesiwn gyfrannu at y gwaith manwl o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Bydd angen i unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflwyno'r trefniadau cwricwlwm newydd bwyso a mesur buddiannau gorau'r plant a'r bobl ifanc sydd eisoes mewn addysg. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn yr addysg orau bosibl - wrth i ni barhau i godi safonau llythrennedd a rhifedd, a gwella canlyniadau'r disgyblion hynny sy'n derbyn prydau ysgol am ddim. Argymhella'r Athro Donaldson "Dylai’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu diwygiedig gael eu cyflwyno drwy strategaeth newid hyblyg a fydd yn sicrhau dealltwriaeth a chefnogaeth, yn pennu cyflymder addas ar gyfer eu cyflwyno, yn meithrin capasiti ac yn rheoli elfennau dibynnol" - a gallaf eich sicrhau fy mod yn llwyr ymrwymedig i'r dull hwn er mwyn cyflawni'r newidiadau.
Hoffwn ddiolch yn fawr ac yn ddiffuant i'r Athro Donaldson am ei ymroddiad a'i ofal wrth gynnal yr adolygiad hwn ac am greu cyfle i ni lunio cwricwlwm o'r radd flaenaf ar gyfer ein pobl ifanc.