Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Byddwch yn gwybod imi lansio Papur Gwyn ar 21 Hydref 2014 am yr ymgynghoriad ar y cynigion i sefydlu Comisiwn Staff annibynnol ac anstatudol i'r Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd y Comisiwn Staff yn cynghori Gweinidogion Cymru a chyrff y gwasanaethau cyhoeddus ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu y mae angen cynnig atebion ymarferol iddynt a'u rhoi ar waith.
Gwyddom fod ymroddiad a rhagoriaeth gweithlu'r gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i drawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur ac â chyflogwyr i helpu gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl i bobl ar hyd a lled Cymru.
Rwy'n croesawu'r ymateb cefnogol yr ydym wedi'i gael gan bartneriaid cymdeithasol i'r cynnig i sefydlu Comisiwn Staff. Heddiw, rwy'n cyhoeddi y byddwn yn sefydlu Comisiwn Staff anstatudol i'r Gwasanaethau Cyhoeddus erbyn yr hydref eleni. Bydd y Comisiwn yn cynnwys hyd at 7 aelod (gan gynnwys y Cadeirydd).
Roedd consensws amlwg ymhlith yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad y dylai penodiadau i'r Comisiwn Staff ddilyn proses penodiadau cyhoeddus. Rwy'n cydnabod y bydd yn hanfodol ein bod yn denu aelodau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau awdurdod a hygrededd y Comisiwn Staff.
Felly, byddaf yn dechrau'r broses o benodiadau cyhoeddus yn ystod y gwanwyn eleni, gan gadarnhau'r penodiadau i'r Comisiwn Staff erbyn yr hydref. Byddwn hefyd yn hysbysebu'n agored rôl Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Staff.
Mae crynodeb o ymatebion yr ymgynghoriad bellach wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd fy swyddogion hefyd yn parhau i ddatblygu'r cynigion deddfwriaethol er mwyn cynnwys Comisiwn Staff statudol yn y Bil drafft Uno a Diwygio Llywodraeth Leol i'w gyhoeddi yn hydref 2015.
Mae ein model ar gyfer partneriaeth gymdeithasol wedi'i ymgorffori yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n dwyn ynghyd Undebau Llafur a gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus i ymdrin â heriau a chyfleoedd a rennir ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus a gweithlu'r gwasanaethau cyhoeddus. Yn unol â'n hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth, byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau â Chyngor Partneriaeth y Gweithlu wrth inni bennu'r trefniadau manwl ar gyfer y Comisiwn Staff anstatudol i'r Gwasanaethau Cyhoeddus. Bydd hynny'n cynnwys ymgynghori ar raglen waith arfaethedig y Comisiwn Staff yng nghyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Byddaf yn gwneud datganiad arall ym mis Medi i gyhoeddi aelodau'r Comisiwn.