Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wrth gyflwyno Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cyfeiriais at sut y bydd y Bil yn rhoi pwerau gwella gwasanaethau newydd i Gyngor Gofal Cymru ac yn darparu ar gyfer newid yr enw i Gofal Cymdeithasol Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud wrthych am fy nghynlluniau yn y maes hwn.
Mae angen rhoi ystyriaeth ofalus a manwl i newidiadau mor bwysig â hyn. Felly, i helpu’r gwaith hwn, rwy’n falch o fod wedi cael cymorth gan y Grŵp Llywio Gwella Strategol, dan gadeiryddiaeth Sally Ellis. Penodwyd y grŵp hwn o arbenigwyr annibynnol yn 2013 i helpu’r Gweinidogion i ystyried sut i wneud gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol. Dros y chwe mis diwethaf, mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar y cynigion ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru – beth fydd ei swyddogaethau, sut caiff ei lywodraethu a sut caiff ei sefydlu.
Yn ystod gwaith y Grŵp Llywio, rwy’n falch bod cynifer o randdeiliaid allweddol wedi gallu cymryd rhan yn y sesiynau ymgysylltu. Rwy’n gwybod bod eu cyfraniad wedi bod yn ddefnyddiol dros ben i Sally a’i grŵp, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. Rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i drafod â’n rhanddeiliaid wrth i’r cynigion gael eu datblygu.
Rwyf bellach wedi cael yr adroddiad gan y Grŵp Llywio ar ddyfodol Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n cefnogi ein cynigion i ddatblygu rôl y Cyngor Gofal, fel corff strategol grymus ar gyfer gwella yng Nghymru gyda ffocws ar arloesi a chydweithredu. Mae’n amlinellu’r potensial i’r corff hwn fod yn un a fydd yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol ac, yn bwysig iawn, am wella gwasanaethau ledled Cymru.
Rwyf bellach wedi ystyried adroddiad y Grŵp Llywio yn llawn. Rwy’n falch o nodi y byddaf yn derbyn y trywydd cyffredinol y mae’n ei osod, a’r mwyafrif helaeth o’r argymhellion manwl.
Yn amodol ar broses graffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rwy’n bwriadu y bydd y gwaith yn cychwyn ym mis Ebrill 2017.
O ran y camau nesaf, caiff cynllun pontio manwl ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol. Caiff panel cynghori ei sefydlu eleni i gefnogi’r broses bontio. Hefyd, rwyf wedi gofyn i’r Grŵp Llywio roi cyngor pellach i mi ynghylch blaenoriaethau gwella ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru a barn ar themâu a materion pwysig wrth i Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) fynd drwy’r broses graffu.
Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau fel y bo’n briodol.