Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Mewn datganiad gan y cyn Weinidog Addysg a Sgiliau ym mis Mehefin 2013 hysbyswyd yr Aelodau ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a bennwyd yn ystod yr arolwg o wasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ym Merthyr Tudful. Dywedodd y byddai’n parhau i hysbysu’r Aelodau ynghylch hynt y gwaith o sefydlu Bwrdd Adfer i gefnogi’r awdurdod.
Mae Bwrdd Adfer Merthyr Tudful wedi cyfarfod bob chwe wythnos ers mis Hydref 2013 ac mae’n cyflawni cynnydd cyson wrth gynorthwyo’r awdurdod i wella a sicrhau y bydd y Mesurau Arbennig yn dod i ben.
Byddaf yn parhau i adolygu strwythur ac aelodaeth y bwrdd wrth i’w waith fynd rhagddo a hefyd yn cadw at ymrwymiad fy rhagflaenydd sef y gallai aelodau ychwanegol gael eu penodi i’r tasglu bach hwn mor gyflym â phosibl petai angen. Ar ôl ystyried strwythur ac aelodaeth presennol y Bwrdd credaf fod angen penodi aelod ychwanegol.
O’r herwydd penodwyd aelod ychwanegol i’r Bwrdd ym mis Chwefror. Bydd hyn yn ehangu gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad y Bwrdd. Mrs Eithne Hughes OBE, sy’n Bennaeth ar Ysgol Bryn Elian yng Nghonwy, yw’r aelod newydd.
Byddaf yn parhau i hysbysu fy nghydweithwyr wrth i’r gwaith yma barhau.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.