Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynhaliwyd adolygiad annibynnol o ofal pobl hŷn a bregus yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot rhwng Rhagfyr 2013 ac Ebrill 2014, yn dilyn honiadau ynglŷn â safonau gwael o ran ansawdd y gofal hwnnw.
Cafodd Ymddiried mewn Gofal – adroddiad yr Athro June Andrews, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Stirling, a Mr Mark Butler, Cyfarwyddwr The People Organisation – ei gyhoeddi ar 13 Mai 2014. Roedd yn amlinellu nifer o bryderon am ansawdd y gofal a'r diogelwch i gleifion ar rai o’r wardiau yn y ddau ysbyty, ac am rai prosesau clinigol a rheoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
I sicrhau nad oedd pryderon tebyg ynglŷn â’r gofal a oedd yn cael ei ddarparu mewn ysbytai cyffredinol dosbarth eraill yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen o ymweliadau dirybudd annibynnol â wardiau a oedd yn gofalu am bobl hŷn i brofi eu safonau gofal. Mae canlyniadau'r ymweliadau dirybudd hynny eisoes wedi cael eu cyhoeddi. Yn dilyn hynny, penderfynwyd cynnal rhaglen o ymweliadau dirybudd â wardiau iechyd meddwl sy’n gofalu am bobl hŷn.
Un o argymhellion adroddiad Ymddiried mewn Gofal oedd cynnal adolygiad dilynol 12 mis yn ddiweddarach – a bydd hwnnw’n cael ei gynnal ym mis Gorffennaf. Mae’r Athro Andrews a Mr Butler wedi cytuno i ddychwelyd i Gymru i gynnal y darn hwn o waith. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni ers cyhoeddi'r adroddiad gwreiddiol, a’r effaith ar sut mae hynny wedi arwain at wella ansawdd y gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Byddaf yn derbyn adroddiad ar y gwaith hwnnw ym mis Medi.
Bydd yr adroddiad hwnnw’n cael ei gyhoeddi ar y cyd ag adroddiad yn amlinellu’r gwaith y mae Grŵp Llywio Ymddiried mewn Gofal wedi bod yn ei arwain, sy'n cynnwys sut y mae'r hyn a ddysgwyd gan yr ymweliadau dirybudd yn llywio'r gwaith sy’n mynd rhagddo i wella ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru.