Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae’r drefn statudol ar gyfer pennu’r Isafswm Cyflog Amaethyddol a gadwyd o dan Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn darparu cyflogau ar lefelau priodol ar gyfer graddfeydd a chategorïau gwahanol o weithwyr amaethyddol, ac yn cydnabod hefyd natur unigryw gwaith amaethyddol trwy gynnig budd-daliadau a lwfansau amaethyddol. Y mae hefyd yn gwobrwyo sgiliau a chymwysterau trwy fatrics gyrfa chwe gradd. Ac yn olaf, mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol yng Nghymru wedi’i seilio arno, gan ddangos mor bwysig yw sicrhau bod gennym weithwyr brwd sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n cael eu talu’n briodol.
Ar 11 Mai 2015, lansiais ymgynghoriad ynghylch cyflwyno’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol interim, ac os bernid bod angen, pa amodau ddylai ei gynnwys. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 3 Awst ac ar ôl dadansoddi’r ymatebion a gyflwynwyd, gallaf nawr gadarnhau y bydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol Interim eleni. Cewch weld crynodeb o’r ymgynghoriad ac ymateb Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nid oes adolygiad statudol wedi’i gynnal ar gyflogau gweithwyr amaethyddol yng Nghymru ers cyhoeddi’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol diwethaf gan Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr gynt yn ôl yn 2012. Bydd y Gorchymyn newydd yn gofyn am gynnydd o ryw 6% yn lefelau statudol cyflog gweithwyr amaethyddol. Mae hynny’n cynrychioli cynnydd o 2% bob blwyddyn rhwng 2012 a 2015.
Yn ogystal â sicrhau cyflogau teg i bob gweithiwr amaethyddol, bydd y Gorchymyn newydd yn cadw darpariaethau Gorchymyn 2012 gan wneud yn siŵr bod y drefn statudol ar gyfer pennu Isafswm Cyflogau Amaethyddol yn parhau ac yn briodol. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys cyfraddau goramser, lwfansau ar alwad, lwfans cŵn a gwrthbwysiad ar gyfer llety. Cedwir y patrwm chwe gradd ar gyfer gweithwyr safonol a hyblyg er mwyn eu hannog i wella’u sgiliau a datblygu gyrfa yn y diwydiant. Bydd y darpariaethau ar gyfer gweithwyr ifanc a phrentisiaid gan godi’u cyflogau yn helpu i frwydro yn erbyn y prinder sgiliau a llafur yn y sector, gan gynnig llwybrau gyrfa mwy deniadol o fewn amaethyddiaeth.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Canghellor y deuai Cyflog Byw Cenedlaethol newydd i rym o fis Ebrill 2016. Bydd yn effeithio ar bob gweithiwr 25 oed a throsodd. Mae’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru yn effeithio ar bob gweithiwr dros oed ysgol gorfodol.
O dan y gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd, £6.72 fydd gwerth cyflog Gradd 1, sef 2c yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yn draddodiadol, roedd y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn pennu tâl Gradd 1 fesul awr ar yr un raddfa â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu ychydig yn uwch na hynny. Tan 2007, cafodd y Radd hon ei phennu ar yr un lefel â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol; yn 2008 a 2009 1c yn uwch, a rhwng 2010 a 2012, 2c yn uwch na lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r dull a ddefnyddiwyd yn y Gorchymyn cyflogau newydd yn dilyn yr un drefn â’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, tra yr oedd yn bodoli.
Os daw i fod, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn effeithio ar gyflogau gweithwyr Gradd 1 25 oed a throsodd. Bydd lefelau cyflog y graddau eraill yn uwch na’r hyn a gynigir fel Cyflog Byw Cenedlaethol yn y Gorchymyn newydd.
O dan drefn yr Isafswm Cyflog Amaethyddol, ystyrir bod Gradd 1 yn raddfa bontio. Mae’r darpariaethau statudol yn rhoi hawliau i weithiwr Gradd 1 sydd wedi bod yn gweithio am 30 wythnos ddi-dor i’r un cyflogwr ennill cymwysterau a fydd yn caniatáu iddo symud yn gyflym i radd uwch. Bydd hyn yn sbardun i ddatblygu sgiliau a chael dyrchafiad o fewn y sector. Mae’r data sydd gennym yn dangos bod y rhan fwyaf o weithwyr amaethyddol yn gweithio ar lefel Gradd 2.
Rydym yn disgwyl y caiff y Gorchymyn cyflogau amaethyddol interim ei gyflwyno ddiwedd 2015 gan bara mewn grym tan y caiff Gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd ei gymeradwyo gan y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth a’i wneud gan Weinidogion Cymru. Bydd gan y Panel ran bwysig i’w chwarae o ran cefnogi’r diwydiant trwy ystyried materion sy’n ymwneud â chyflogaeth a sgiliau a datblygu gyrfa. Bydd gan gyrff perthnasol fel NFU Cymru, yr FUW, CLA a’r Undeb Unsain le awtomatig ar y Panel a chaiff y Cadeirydd annibynnol ac arbenigwyr annibynnol eu dewis trwy’r broses Penodiadau Cyhoeddus. Mae’r ymarferiad i ddewis y pum aelod wedi dechrau. Y gobaith yw cael y Panel yn barod i weithredu erbyn misoedd cyntaf 2016.
Mae Deddf 2014, sy’n cynnwys cyflwyno Gorchymyn cyflogau newydd a sefydlu Panel Cynghori newydd, yn cyfrannu at strategaethau ehangach Llywodraeth Cymru, fel Trechu Tlodi a’r dyhead i wella sail sgiliau pawb sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth yn unol ag argymhellion adolygiad yr Athro Wynn Jones o Ddarpariaeth Ddysgu Colegau Addysg Bellach a Pherthnasedd y Ddarpariaeth Honno o ran Cefnogi Busnesau Fferm yng Nghymru. Amcan y gwaith hwn yw sicrhau llwyddiant ac iechyd tymor hir y sector amaethyddol trwy gefnogi prif nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig creu Cymru ffyniannus, cydnerth a mwy cyfartal.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer Gorchymyn cyflogau interim ac rwy’n disgwyl ymlaen at gydweithio pellach rhwng Llywodraeth Cymru a’n prif randdeiliaid ar greu trefn Isafswm Cyflog Amaethyddol sy’n fodern ac addas i’r diben.