Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Rwy'n cyhoeddi adroddiad annibynnol heddiw gan Dr Margaret Flynn, yn dilyn ei hadolygiad o'r digwyddiadau mewn cartrefi gofal yn Ne-ddwyrain Cymru ddechrau'r ganrif hon. Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i'r materion hyn o’r enw 'Operation Jasmine', mae'r adolygiad hefyd yn cael ei gyfeirio ato gan ddefnyddio’r un enw. Dr Margaret Flynn yw Cadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Swydd Gaerhirfryn, ac awdur Adolygiad Achos Difrifol yn Ysbyty Winterbourne View.
Yn absenoldeb achosion troseddol sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn, comisiynais yr adolygiad hwn ym mis Tachwedd 2013. Cafodd y penderfyniad hwn ei ysgogi gan y ffaith ei fod yn amlwg bod y digwyddiadau hyn yn rhai difrifol iawn, gan gynnwys yr effaith yr oeddent wedi'u cael ar deuluoedd y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig. Rwy o'r farn bod yr adroddiad yn rhoi cyfrif trylwyr a manwl o'r digwyddiadau hyn, ac rwy'n ddiolchgar i Dr Flynn am ei gwaith proffesiynol dros y 18 mis diwethaf. Rwy hefyd yn ddiolchgar i'r unigolion a'r sefydliadau hynny sydd wedi cyfrannu at waith Dr Flynn yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod y datblygiadau dros y degawd diwethaf, mae hefyd yn amlinellu nifer o gamau gweithredu i'w hystyried gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Byddaf yn ysgrifennu at bob un o'r sefydliadau hynny i ofyn am ymateb. A byddaf yn cyhoeddi’r ymatebion hynny ar y wefan hon, ynghyd â'r adroddiad. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad am ei ymateb ei hunan yn yr hydref.