Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Mae cartref gweddus a fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a lles pobl a’u gallu i wireddu eu potensial. Heddiw, rwy’n hysbysu Aelodau am ddau ddatblygiad arwyddocaol sy’n ychwanegu at yr ystod eang o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu pobl i gwrdd â’u hangen am gartref.
Yn gyntaf, rwyf wedi cymeradwyo cais gan Gyngor Sir Caerfyrddin i atal yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael, dau fesur sy’n caniatáu i denant brynu ei gartref oddi wrth y Cyngor neu’r Gymdeithas Dai. Gwnaed y cais o dan Fesur Tai (Cymru) 2011 ac mae’n rhan o’r camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i leihau’r pwysau am gartrefi yn yr ardal. Bydd yn atal gwerthu tai cymdeithasol am bum mlynedd a gellir ei estyn i ddeg, i amddiffyn y cyflenwad o dai cymdeithasol yr ardal.
Yn ail, rwyf wedi penderfynu ei bod yn bryd edrych o’r newydd ar faterion ehangach ynghylch yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael.
Mae tai cymdeithasol yn rhan hanfodol o’n marchnad dai. Mae’r rhenti is yn helpu pobl, yn enwedig pobl fregus nad ydynt yn gallu cael cartref ar y farchnad dai, boed trwy brynu cartref na thrwy ei rentu oddi wrth landlord preifat.
Dros ryw ddeng mlynedd ar hugain, mae’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael wedi caniatáu i lawer o denantiaid brynu eu cartref oddi wrth yr Awdurdod Lleol neu’r Gymdeithas Dai. O ganlyniad, mae llawer iawn o dai cyhoeddus wedi’u trosglwyddo i ddwylo preifat. Mae’r mwyafrif yn byw yn y cartrefi y maen nhw’n eu prynu ond mae rhai cartrefi wedi cyrraedd y sector rhentu preifat. Er bod y nifer sy’n cael eu gwerthu wedi gostwng yn ddiweddar, mae cartrefi’n dal i gael eu gwerthu ac o’r herwydd, mae llai ar gael i’w rhentu i’r rheini sy’n ennill incwm bach. Mae ein stoc o dai cymdeithasol o dan bwysau aruthrol, gan effeithio ar allu pobl i gael hyd i gartref y maen nhw’n gallu ei fforddio ac ar ein gallu ni i’w helpu.
Mae angen mwy o gartrefi arnom ac rydym yn gweithio’n galed iawn i gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael trwy adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy a gwneud mwy a mwy o dai gwag yn addas i’w defnyddio eto. Rydym wedi cyrraedd bron 70% o’n targed o 10,000 o dai fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn a bron 90% o’n targed i wneud 5,000 o dai gwag yn addas i’w defnyddio. Ond mae rhagor eto i’w wneud.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu tai cymdeithasol, sy’n rhwyd ddiogelwch bwysig. Mae datblygu a chynnal ein stoc o gartrefi rhent cymdeithasol yn un ffordd o ddefnyddio polisi tai i drechu tlodi, rhywbeth rwy’n benderfynol o’i wneud. Yn hyn o beth, yr ail ddatblygiad yw’m bwriad i gyhoeddi Papur Gwyn.
Mae Sir Gâr wedi dangos y ffordd i awdurdodau lleol trwy weithredu i atal yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael ac rwyf wrthi’n ystyried cais tebyg gan Gyngor Dinas Abertawe. Ond gan fod yr angen am dai yn fawr ym mhob ardal, rwyf wedi dod i’r casgliad bod angen ystyried pethau ar lefel Cymru gyfan.
Mae’r Papur Gwyn yn rhoi dau gynnig ger bron y cyhoedd iddynt ymgynghori arno, o ran newid yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael. Amcan y ddau yw amddiffyn ein stoc o dai cymdeithasol.
Mae’r cyntaf yn gynnig lleihau’r disgownt mwyaf a ganiateir ar bris gwerthu eiddo o £16,000 i £8,000. Cam tymor byr i ganolig yw hwn, all ein helpu i leihau’r nifer sy’n cael eu gwerthu.
Gallai’r ail gynnig arwain at ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol newydd i ddod â’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael i ben. Hon yw’r unig ffordd sydd gennym yn y pen draw i amddiffyn ein stoc o dai cymdeithasol rhag grebachu ymhellach. Gallai’r Bil drafft newydd gael ei baratoi gan y Llywodraeth newydd fel rhan o raglen ddeddfwriaethol y Cynulliad nesaf.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 16 Ebrill 2015. Edrychaf ymlaen at weld eich sylwadau.